Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae cyfryngu yn ffordd o ddatrys anghydfodau sy'n ymwneud ag arian neu ddyled heb fynd i'r llys. Yn ystod proses gyfryngu, mae rhywun o wasanaeth cyfryngu yn helpu'r ddwy ochr i ddatrys anghydfod. Mynnwch wybod sut mae cyfryngu'n gweithio mewn anghydfodau sy'n ymwneud ag arian.
Gall cyfryngu fod yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i'r llys
Mae cyfryngu yn opsiwn y mae angen i chi ei ystyried cyn mynd i'r llys. Gall fod yn well na mynd i'r llys oherwydd ei fod fel arfer yn:
Cewch y cyfle i drafod y broblem yn anffurfiol â'r ochr arall a dod i gytundeb yr ydych chi a'r ochr arall yn fodlon arno.
Gwyliwch fideo sy'n dangos sut y gall cyfryngu eich helpu i ddatrys anghydfod
Gallwch ofyn am gyfryngu os ydych yn ceisio adfer arian neu os oes rhywun yn bygwth cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.
Gall unrhyw ochr mewn anghydfod awgrymu cyfryngu, ond mae'n rhaid i'r ddwy ochr gytuno os yw am fynd yn ei flaen.
Bydd defnyddio gwasanaeth cyfryngu yn rhoi'r cyfle I chi drafod y mater yn anffurfiol a dod i gytundeb y mae'r ddau ohonoch yn fodlon arno. Os byddwch yn dod i gytundeb, gallwch drefnu iddo gael ei lunio a'i lofnodi.
Ni all y cyfryngwr orfodi unrhyw un i wneud unrhyw beth, ond mae'r ddwy ochr yn debygol o lynu at gytundeb y maent wedi bod yn fodlon ei lofnodi.
Bydd gennych ystod ehangach o opsiynau na barnwr mewn llys. Gallech gytuno i ad-dalu neu adennill rhan o'r swm, setlo ar gynllun ad-dalu neu ofyn am iawndal neu ymddiheuriad.
Trefnir y cyfryngu gan unigolyn a elwir yn 'gyfryngwr'. Ni fydd yn cefnogi'r naill ochr na'r llall yn yr anghydfod nac yn cynnig ateb.
Bydd y cyfryngwr yn:
Os bydd yr ochr arall yn cytuno i gyfryngu, bydd y cyfryngwr yn trefnu cyfarfod â chi a'r unigolyn neu'r sefydliad y mae gennych anghydfod ag ef. Bydd y cyfryngwr yn gweithredu fel canolwr ac yn mynd â negeseuon yn ôl ac ymlaen os nad ydych am gyfarfod â'r ochr arall. Gall proses gyfryngu bara rhwng awr a phedair awr.
Gallwch ddod o hyd i wasanaeth cyfryngu yn eich ardal chi drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ‘dod o hyd i ddarparwr cyfryngu sifil’, gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Codir tâl am ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu, ond dylai fod yn rhatach na mynd i'r llys neu gyflogi cyfreithiwr.
Mae gwasanaeth cyfryngu'n costio o leiaf £50 ynghyd â TAW am awr mewn perthynas ag anghydfod sy'n werth llai na £5,000. Bydd anghydfodau am symiau mwy o arian yn costio mwy ac efallai y byddant yn cymryd mwy o amser i'w datrys.
Fel arfer caiff cost cyfryngu ei rhannu'n hafal rhwng y partïon ac fel arfer caiff ei thalu cyn y cynhelir y cyfryngu.
Gall elusen LawWorks ddarparu gwasanaeth cyfryngu am ddim os na allwch fforddio talu ac nad oes gennych unrhyw ffordd arall o dalu. Gweler y ddolen ‘Gwasanaeth cyfryngu LawWorks’, isod, i ganfod sut mae gwneud cais.
Os bydd rhywun yn gwneud hawliad llys am £5,000 neu lai, a bod yr achos yn cael ei amddiffyn, bydd y llysoedd yn darparu gwasanaeth cyfryngu. Gelwir y gwasanaeth yn wasanaeth cyfryngu mân hawliadau.
Ni fydd y llysoedd yn codi tâl ychwanegol am ddarparu'r gwasanaeth. Telir y gost gan ffioedd y llys a delir fel rhan o'r broses o wneud mân hawliad.
Os na fydd cyfryngu'n gweithio, neu os na fydd yn addas, neu os na fydd yr ochr arall yn cytuno i'w gynnal gall yr achos fynd i'r llys o hyd.
Gallwch ganfod beth sy'n digwydd pan fyddwch yn gwneud hawliad llys, neu sut i amddiffyn hawliad a wneir yn eich erbyn, gan ddefnyddio'r dolenni isod.