Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beilïaid a chasglwyr dyledion

Os oes arnoch chi arian i rywun, mae'n bosibl y bydd beili neu gasglwr dyledion yn ceisio adennill y ddyled. Darllenwch am beth i'w wneud os byddant yn cysylltu â chi neu'n ymweld â chi, sut y gallwch ad-dalu'r arian, a beth yw eich hawliau.

Pryd y gellir defnyddio beilïaid

Gallwch atal beilïaid rhag ymweld â chi drwy gynnig talu rhywfaint o'r arian sy'n ddyledus gennych

Gall beili ymweld â'ch cartref os na fyddwch yn talu eich dyledion - megis bil Treth Cyngor, dirwy parcio, dirwy llys neu ddyfarniad llys sirol.

Bydd hyn yn digwydd os byddwch yn anwybyddu llythyrau atgoffa neu lythyrau rhybuddio.

Gallwch gynnig talu rhywfaint o'r arian sy'n ddyledus gennych er mwyn atal beilïaid rhag ymweld â chi.

Delio â beilïaid ar garreg eich drws

Nid oes rhaid i chi agor eich drws ffrynt i feili na'i adael i mewn.

Fel arfer, dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gall beilïaid fynd i mewn i'ch cartref:

  • os byddwch yn gadael drws neu ffenestr ar agor
  • os byddwch yn eu gwahodd i mewn

Fel arfer, ni chaniateir iddynt fynd i mewn drwy wthio heibio i chi, na rhoi eu troed yn y drws.

Os byddant yn ceisio gwneud hyn, gallwch ffonio'r heddlu.

Caniateir i feilïaid wthio'u ffordd i mewn i'ch cartref i gasglu dirwyon a roddwyd yn sgîl collfarn droseddol, Treth Incwm neu TAW sy'n ddyledus, ond dim ond fel dewis olaf.

Beth y dylech ei ofyn i feili

Cyn i chi dalu beili, neu ei adael i mewn, gofynnwch am gael gweld prawf o bwy ydyw - megis copi o'i dystysgrif beili.

Gofynnwch am un o'r canlynol hefyd:

  • copi o'r gorchymyn llys sy'n nodi bod yr arian yn ddyledus gennych
  • copi o'i 'awdurdodiad' (caniatâd) i fynd â'ch pethau

Talu beili

Efallai y byddwch am dalu rhywfaint o'r arian sy'n ddyledus gennych i'r beili, neu'r arian i gyd.

Gallwch dalu'r beili ar garreg y drws - nid oes rhaid i chi ei wahodd i mewn i'ch cartref.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb i brofi eich bod wedi talu.

Os na allwch dalu

Os na fyddwch yn cynnig talu, gellir mynd â chi i'r llys

Os na allwch dalu unrhyw swm ar unwaith, siaradwch â'r beili am ad-daliadau, neu:

  • dywedwch wrth y beili y byddwch yn ad-dalu'r arian yn uniongyrchol i'r sefydliad rydych mewn dyled iddo
  • ysgrifennwch at y sefydliad hwn, a chynnig talu'r hyn y gallwch ei fforddio

Os na fyddwch yn cynnig talu, gellir mynd â chi yn ôl i'r llys.

Beth gall beilïaid ei gymryd a beth na allant ei gymryd

Os byddwch yn gadael beili i mewn i'ch cartref, caniateir iddo fynd â rhai eitemau o'ch eiddo.

Ni all beilïaid fynd â'r canlynol:

  • pethau sydd eu hangen arnoch - megis eich dillad, popty, dodrefn neu offer gwaith
  • eiddo rhywun arall - megis cyfrifiadur eich partner


Gallant fynd ag eitemau moethus - megis set deledu neu gonsol gemau.

Gallant hefyd fynd â phethau o'r tu allan i'ch cartref - megis eich car neu offer garddio.

Bydd y beili yn gwerthu'r eitemau y bydd yn eu cymryd i dalu am y ddyled a'i ffioedd.

Beth y gall beilïaid godi tâl amdano

Gall beilïaid godi tâl am ymweliadau - caiff y tâl hwn ei ychwanegu at yr hyn sy'n ddyledus gennych.

Gallant hefyd godi ffioedd am fynd i mewn i'ch cartref a chymryd eich eiddo.

Gallwch ofyn am ddadansoddiad manwl o'u taliadau.

Os credwch eu bod yn codi gormod neu'n codi tâl am rywbeth nad ydynt wedi'i wneud, gallwch eu herio a gwneud cwyn.

Gwneud cwyn am feili

Gwneud cwyn am feili preifat

Mae'r rhan fwyaf o feilïaid yn gweithio i gwmnïau preifat, hyd yn oed os ydynt yn casglu arian ar ran y cyngor neu'r llywodraeth.

I wneud cwyn am feili preifat, ysgrifennwch i gwmni'r beili.

Os na fyddwch yn cael ymateb gan y cwmni, ysgrifennwch i'r sefydliad y mae arnoch arian iddo - er enghraifft, y cyngor.

Cadwch gopi o'ch llythyr cwyno.

Gwneud cwyn i sefydliad masnach

Gallwch hefyd wneud cwyn i gymdeithas fasnach y beili.

Darllenwch y rhestrau aelodaeth ar wefannau'r cymdeithasau masnach, gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Os yw'r beili yn aelod, ysgrifennwch i'r gymdeithas fasnach i gwyno.

Cwyno am feili llys sirol neu swyddog gorfodi sifil

I wneud cwyn am feili llys sirol neu swyddog gorfodi sifil, llenwch y ffurflen gwyno (EX343A).

Anfonwch y ffurflen i'r llys drwy'r post - gallwch ddefnyddio'r adnodd chwilio am lys i ddod o hyd i'r cyfeiriad.

Casglwyr dyledion

Nid oes gan gasglwyr dyledion yr un pwerau â beilïaid.

Ni allant fynd i mewn i'ch cartref na mynd â'ch eiddo. Yr unig beth y gallant ei wneud yw ysgrifennu atoch, eich ffonio, neu ymweld â'ch cartref i siarad â chi am ad-dalu'r ddyled.

Gwneud cwyn am gasglwr dyledion

Os bydd casglwr dyledion yn aflonyddu arnoch, gallwch gysylltu â'ch adran safonau masnach leol i gwyno.

Os bydd yn eich bygwth yn gorfforol, cysylltwch â'r heddlu.

Gallwch hefyd gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am sut y mae benthyciwr neu asiantaeth casglu dyled wedi eich trin. Mae'n rhaid i chi ddilyn gweithdrefn gwyno'r benthyciwr yn gyntaf.

Benthycwyr arian didrwydded

Os ydych wedi cael benthyciad gan fenthyciwr anghyfreithlon neu fenthyciwr arian didrwydded, gallwch gael cyngor drwy ffonio llinell genedlaethol gyfrinachol ar 0300 555 2222.

Allweddumynediad llywodraeth y DU