Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel arfer, byddwch yn talu'ch bil Treth Cyngor fesul tipyn dros 10 mis. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu, cysylltwch â'ch cyngor lleol ar unwaith ac esbonio'r sefyllfa – hwya'n y byd y byddwch chi'n anwybyddu problem ddyled, gwaethaf y bydd y sefyllfa.
Os na allwch dalu'ch Treth Cyngor, rhestrwch bawb y mae arnoch chi arian iddyn nhw (eich credydwyr) a blaenoriaethu eich dyledion er mwyn i chi wybod pa ddyledion y mae'n rhaid i chi eu talu’n gyntaf. Nesaf, paratowch gyllideb bersonol er mwyn gweld faint y gallwch chi fforddio'i dalu i bob credydwr.
Yna, gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol a chynnig gwneud taliadau rheolaidd y gallwch chi eu fforddio. Pan fyddwch chi wedi cytuno, mae'n bwysig cadw at y trefniant, felly peidiwch â chytuno i dalu mwy nag y gallwch ei fforddio. Dylech hefyd holi a ydych chi'n gymwys i gael help, megis y Budd-dal Treth Cyngor.
Os na allwch chi gytuno ar drefniadau talu gyda'r cyngor neu os byddwch chi wedi gwneud trefniadau talu ond nad ydych chi'n cadw at y trefniadau hynny, gall eich cyngor ofyn i’r Llys Ynadon am ‘Orchymyn Atebolrwydd’ (gorchymyn i chi dalu'r swm llawn sy'n ddyledus a chostau).
Mae gennych hawl i fynd i’r llys a chynnig tystiolaeth i egluro pam nad ydych chi’n atebol am y ddyled. Hyd yn oed os byddwch chi’n penderfynu peidio â mynd i'r llys, dylech siarad â'r cyngor neu, os yw’n well gennych, eich Canolfan Cyngor ar Bopeth Leol. Bydd y cyngor yn ceisio llunio trefniant talu rhesymol ar eich cyfer, ond ni allant wneud hynny os na fyddwch chi’n cysylltu â nhw.
Os bydd y llys yn gwneud Gorchymyn Atebolrwydd yn eich erbyn, gall eich cyngor gymryd camau gorfodi yn eich erbyn er mwyn adennill y ddyled. Fel rheol, bydd hyn yn golygu didynnu arian o gyflogau a budd-daliadau neu ddefnyddio beilïaid, ond mae gorchmynion arwystlo a methdaliad hefyd yn opsiynau.
Gall eich cyngor orchymyn i'ch cyflogwr dynnu swm rheolaidd o'ch cyflog tuag at Dreth Cyngor sydd heb ei thalu. Os bydd hyn yn peri caledi ariannol i chi, gallwch ofyn i'ch cyngor a ydyn nhw'n fodlon derbyn taliadau llai.
Didynnu arian o fudd-daliadau
Efallai y gall eich cyngor wneud cais i ddidynnu arian os ydych chi’n cael Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn.
Gall eich cyngor anfon beilïaid i'ch cartref i feddiannu eiddo i'w werthu. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at dalu eich dyled, yn ogystal â chostau. Bydd rhaid i’r awdurdod bilio anfon llythyr atoch bythefnos cyn ymweliad cyntaf y beili i ddweud faint o arian sy'n ddyledus gennych dan y Gorchymyn Atebolrwydd.
Gallwch gysylltu â'r Cyngor a'r beilïaid a chynnig dod i gytundeb ynghylch talu. Mae'n bwysig gwneud hyn ar unwaith, oherwydd os bydd y beilïaid yn ymweld â chi, fe ellid ychwanegu'r costau at eich bil.
Os yw eich cyngor wedi ceisio defnyddio beilïaid ond bod eich Treth Cyngor yn dal heb ei thalu'n llawn, gallant wneud cais i'r Llys Ynadon am warant i’ch traddodi i garchar. Dim ond os bydd eu hymdrechion eraill yn aflwyddiannus y bydd y cyngor yn cymryd y cam hwn.
Cyn codi gwarant garcharu, bydd yn rhaid i’r llys gynnal ymchwiliad modd a chithau'n bresennol. Ni chodir gwarant oni bai fod y llys yn fodlon eich bod yn gwrthod talu’r ddyled yn fwriadol neu oherwydd esgeulustod beius. Tri mis yw’r cyfnod hiraf o garchar y gallech ei gael.
Gall y llys benderfynu gohirio’r cyfnod o garchar dan rai amodau sydd, gan amlaf, yn gysylltiedig â thalu’r ddyled dros gyfnod. Mae gan y llys y pŵer hefyd i ddileu rhan o’r ddyled, neu’r ddyled i gyd.
Cyrff annibynnol yw llawer o gyrff cynghori, megis y rhai a restrir yma, ac ni fyddant yn codi tâl am roi cyngor. Mynnwch gyngor annibynnol am ddim bob tro cyn defnyddio gwasanaeth masnachol.
Y Llinell Ddyled Genedlaethol
Mae'r Llinell Ddyled Genedlaethol yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar sut i ddelio a phroblemau dyled i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'u llinell gymorth a llwytho taflenni ffeithiau am ddim oddi ar eu gwefan.
Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau dyled:
Mae eich canolfan CAB leol yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Mae cyfeiriad eich canolfan CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.