Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae talu eich bil Treth Cyngor a phroblemau wrth geisio gwneud hynny

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i dalu eich bil Treth Cyngor, neu os ydych yn cael anawsterau wrth geisio ei dalu, bydd y canllaw hwn yn egluro sut y gall eich cyngor eich helpu, yn ogystal â nodi ffyrdd gwahanol o dalu eich bil.

Problemau talu eich bil Treth Cyngor a dulliau gwahanol o dalu

Debyd uniongyrchol
Mae talu drwy ddebyd uniongyrchol yn rhoi'r awdurdod i'ch cyngor hawlio taliadau o'ch cyfrif banc. Bydd angen i chi lenwi ffurflen debyd uniongyrchol, sydd ar gael gan eich cyngor ac yna'i dychwelyd atynt. Bydd debydau uniongyrchol yn parhau nes y byddwch yn dweud wrth eich banc am roi'r gorau i wneud y taliadau. Os bydd eich taliad yn cynyddu, gall eich cyngor gynyddu'r swm y byddwch yn ei dalu hefyd ar yr amod eu bod wedi rhoi gwybod i chi.

Archeb sefydlog

Mae archeb sefydlog yn rhoi cyfarwyddyd i'ch banc dalu symiau penodol o arian i'ch cyngor. I drefnu archeb sefydlog, rhaid i chi ddweud wrth eich banc faint i'w dalu i'r cyngor, ar ba ddyddiadau, gan roi rhif cyfeirnod eich Treth Cyngor i'ch banc. Bydd angen i chi adnewyddu eich archeb sefydlog bob blwyddyn gan y bydd swm y rhandaliadau a'r rhif cyfeirnod yn newid yn fwy na thebyg.

Ar-lein ac e-filio

Mae llawer o gynghorau yn derbyn taliadau ar-lein, ac yn cynnig gwasanaeth electronig neu wasanaeth e-filio. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Drwy'r post

Os ydych am dalu drwy'r post, anfonwch eich taliad i'r cyfeiriad a ddangosir ar eich bil. Bydd eich bil yn nodi i bwy i wneud y siec neu'r archeb bost yn daladwy. Dylech ysgrifennu eich enw llawn, cyfeiriad a rhif cyfeirnod eich Treth Cyngor ar gefn y siec pan fyddwch yn ei hanfon. Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post gan nad yw'n ffordd ddiogel o dalu.

Dros y ffôn

Efallai y gallwch dalu dros y ffôn, ac mae gan lawer o gynghorau wasanaeth ffôn rhyngweithiol.

Yn bersonol

Efallai y bydd eich cyngor yn derbyn taliadau gennych yn bersonol. Byddant yn rhoi manylion lle gallwch fynd i dalu eich bil. Cofiwch fynd â'ch bil gyda chi.

Ffyrdd eraill

Mae dulliau eraill o dalu yn cynnwys 'Paypoint' neu 'Quickcards' ar gyfer taliadau arian parod mewn swyddfeydd post, banciau, archfarchnadoedd, a siopau hwylus.

Beth i'w wneud os na allwch chi dalu

Rhowch wybod i'ch cyngor cyn gynted ag y tybiwch y byddwch yn cael trafferth talu'ch bil. Efallai y gallant ostwng y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu, er enghraifft os ydych yn gymwys i gael disgownt nad oeddech yn gwybod amdano neu os ydych yn gymwys i gael y Budd-dal Treth Cyngor.

Neu efallai y gall eich cyngor gytuno ar amserlen wahanol ar gyfer gwneud taliadau.

Os nad yw eich cyngor yn gwybod eich bod yn cael trafferthion talu, efallai y bydd yn cymryd camau cyfreithiol i adennill yr arian a gallech orfod talu mwy yn y pendraw.

Colli taliadau

Os na thalwch un o randaliadau'r Dreth Cyngor, cewch nodyn atgoffa yn rhoi saith niwrnod i chi ddiweddaru eich taliadau Treth Cyngor.

Oni thalwch o fewn yr amser hwn, neu os bydd eich taliadau ar ei hôl hi eto ar ôl ail nodyn atgoffa, bydd y cyngor yn gofyn i chi dalu gweddill eich bil Treth Cyngor yn llawn.

Oni thalwch y swm sy'n weddill, gall y cyngor gymryd camau i adennill yr arian.

Cael cyngor

Os ydych yn cael trafferth gyda'ch costau a bod angen mwy o gymorth a chyngor arnoch am ddim arnoch, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol.

Budd-dal Treth Cyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn

Os ydych ar incwm isel, neu'n byw gydag oedolyn arall (nid eich partner) sydd ar incwm isel, efallai y gallwch hawlio Budd-dal y Dreth Cyngor neu'r Ad-daliad Ail Oedolyn. Gyda'r rhain bydd rhywfaint neu'r cyfan o'ch Treth Cyngor yn cael ei thalu ar eich rhan. Mae'n bosib y bydd modd i chi hawlio am gyfnod sydd wedi mynd heibio os oes rheswm dilys pam nad oeddech yn gallu ei hawlio'n gynt.

Allweddumynediad llywodraeth y DU