Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae apelio yn erbyn eich bil Treth Gyngor

Os ydych yn teimlo bod eich bil Treth Gyngor yn anghywir, dywedwch wrth eich cyngor yn syth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i dalu'r bil onid ydych wedi gwneud trefniadau eraill gyda'r cyngor. Gallwch hefyd apelio yn erbyn eich bil.

Beth i'w wneud os ydych chi'n anghytuno

Os ydych chi'n anghytuno â phenderfyniad eich cyngor am y bil neu eich cyfrifoldeb i dalu Treth Gyngor, dylech gysylltu â'r cyngor i geisio datrys y mater. Ar ôl i chi gysylltu â'r cyngor, os yw'r mater yn dal heb ei ddatrys cewch apelio gerbron tribiwnlys prisiant, sef corff annibynnol sydd ar wahân i'r cyngor (sy'n pennu'r bil).

Pryd i apelio

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor os ydych o'r farn:

  • fod y cyngor yn anfon biliau i'r person anghywir ar gyfer eich cartref
  • y dylai eich cartref fod wedi'i eithrio rhag y Dreth Gyngor
  • bod swm y bil yn anghywir, er enghraifft, os ydych chi'n meddwl bod gennych chi hawl i gael gostyngiad
  • nad yw'r cyngor wedi lleihau'r bil ar gyfer anabledd

Sut i apelio

Fel cam cyntaf, dylech ysgrifennu at eich cyngor gan roi'r rhesymau pam rydych chi'n meddwl bod eich bil yn anghywir. Wrth ysgrifennu, rhowch eich enw a'ch cyfeiriad a nodwch pa benderfyniadau rydych chi'n anghytuno â hwy. Yna, gall y cyngor ofyn i chi am fwy o wybodaeth er mwyn iddynt allu penderfynu.

Gall y cyngor naill ai:

  • penderfynu bod y bil yn anghywir ac anfon un newydd atoch
  • penderfynu bod y bil yn gywir ac egluro pam

Apelio gerbron Tribiwnlys Prisiant

Pryd i apelio
Os ydych chi'n credu bod penderfyniad y cyngor yn anghywir, neu os na fyddwch yn clywed gan y cyngor o fewn dau fis o ysgrifennu atynt, gallwch apelio gerbron y 'Tribiwnlys Prisiant'.

Ceir terfynau amser ar gyfer apelio gerbron y tribiwnlys. Y rhain yw:

  • dau fis ar ôl i'r cyngor ddweud wrthych am ei benderfyniad
  • pedwar mis ar ôl i chi ysgrifennu am y tro cyntaf, os na fyddwch yn clywed gan y cyngor

Sut i apelio gerbron y Tribiwnlys Prisiant
Rhaid i chi apelio'n ysgrifenedig. Dylai eich llythyr i'r Tribiwnlys egluro pa benderfyniad yr ydych yn apelio yn ei erbyn, a pham eich bod yn anghytuno ag ef. Os ydych chi'n apelio am nad yw'r cyngor wedi penderfynu, dylech ddweud wrth y Tribiwnlys mai dyna'r rheswm am eich apêl.

Efallai y bydd yn bosibl i chi a'r cyngor egluro eich achosion i'r Tribiwnlys yn ysgrifenedig yn hytrach na gorfod mynd i wrandawiad. Fel arall, bydd y Tribiwnlys yn cysylltu â chi i drefnu gwrandawiad ffurfiol ac yn anfon taflen atoch yn esbonio trefn y gwrandawiad.

Ni fydd gwrandawiadau'n para mwy na diwrnod fel arfer, ac ni fydd yn costio dim i chi oni bai eich bod yn penderfynu cyflogi rhywun fel twrnai i gyflwyno eich achos.

Os bydd y Tribiwnlys yn cytuno â chi, bydd y cyngor yn diweddaru eich bil ac yn addasu eich taliadau misol.

Lle i gael mwy o wybodaeth

Gallwch weld gwybodaeth am apelio yn erbyn eich bil Treth Gyngor yn adrannau 30 i 32 y daflen 'y Dreth Gyngor - arweiniad i'ch bil'.

Gallwch hefyd gael cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim am apelio yn erbyn eich bil Treth Gyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Apelio yn erbyn eich band Treth Gyngor

Os ydych yn credu bod band prisio'ch Treth Gyngor yn anghywir, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

I gael gwybod mwy, darllenwch y daflen 'y Dreth Gyngor - arweiniad i fandiau prisio ac apeliadau' a/neu ewch i wefan yr Asiantaeth isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU