Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n gymwys i gael disgownt ar eich Treth Cyngor, gallech gael gostyngiad neu gael eich eithrio'n llwyr rhag talu Treth Cyngor. Dyma rai sefyllfaoedd lle gall gostyngiadau ac eithriadau fod yn berthnasol.
Efallai y gallwch leihau eich bil:
Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Treth Cyngor.
Mae'r bil Treth Cyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn yn byw mewn cartref. Os mai dim ond un oedolyn sy'n byw mewn cartref (fel eu prif gartref), mae Treth y Cyngor yn gostwng 25 y cant. Nid yw'r bil yn codi os oes mwy na dau oedolyn yn y cartref.
Ni fydd rhai pobl yn cael eu cyfrif wrth gyfrifo faint o oedolion sy'n byw yn eich cartref. Os nad yw'r eiddo yn brif gartref i'r bobl sy'n byw yno, efallai y ceir gostyngiad.
Drwy ddilyn y ddolen isod, gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch gostyngiadau a phobl nad ydynt yn cael eu hystyried mewn asesiad Treth Cyngor yn adran 10 i 13 y daflen 'Treth Cyngor - arweiniad i'ch bil'.
Efallai y bydd ambell annedd hefyd, wedi'i heithrio rhag Treth Cyngor. Gallwch ddarllen y manylion am ba fath o anheddau sydd wedi'u heithrio yn adrannau 14 i 17 y daflen 'Treth Cyngor - arweiniad i'ch bil'.
Efallai y bydd rhai anheddau wedi'u heithrio rhag talu treth cyngor.
Gallwch ddarllen y manylion am ba fath o anheddau sydd wedi'u heithrio yn adrannau 14 i 17 y daflen 'Treth Cyngor - arweiniad i'ch bil'.
Defnyddiwch y dolenni isod i ganfod a ydych yn gymwys i gael gostyngiadau, eithriadau neu gymorth ariannol wrth dalu Treth Cyngor, ac er mwyn gwneud cais ar-lein. Bydd y dudalen a gyrhaeddwch yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi'n anabl a bod angen mwy o le arnoch, bydd y cynllun gostwng band ar gyfer anabledd yn eich helpu i gael gostyngiad ar eich Treth Cyngor. Ar ôl i chi gael y gostyngiad, bydd yn costio'r un fath â phetaech yn y band Treth Cyngor nesaf i lawr.
Os ydych ar incwm isel, neu'n byw gydag oedolyn arall (nid eich partner) sydd ar incwm isel, efallai y gallwch hawlio y Budd-dal Treth Cyngor neu'r Ad-daliad Ail Oedolyn. Gyda'r rhain bydd rhywfaint neu'r cyfan o'ch Treth Cyngor yn cael ei dalu ar eich rhan.
Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.