Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Dreth Gyngor - pwy sy'n talu a faint a delir

Mae'r Dreth Gyngor yn helpu i dalu am wasanaethau lleol megis yr heddlu a'r gwasanaeth casglu sbwriel. Mae'r Dreth Gyngor yn berthnasol i bob eiddo domestig, gan gynnwys tai, byngalos, fflatiau, maisonettes, cartrefi symudol a chychod preswyl, pa un a yw'r preswylydd yn berchen ar yr eiddo neu'n ei rentu.

Sut y cyfrifir y Dreth Gyngor

Cafodd pob darn o eiddo ei brisio a'i roi mewn 'band prisio' - yn Lloegr mae'r bandiau hyn wedi eu seilio ar werth yr eiddo ar 1 Ebrill 1991, yn hytrach na'u gwerth ar hyn o bryd. Mae'r band prisio'n pennu faint o Dreth Gyngor y bydd yn rhaid i chi ei thalu.

Mae’r tabl isod yn dangos y gwahanol fandiau. Isod, gallwch weld y band ar gyfer eich eiddo chi.

Bandiau Prisio

Band prisio Treth Gyngor Amrediad gwerthoedd yn Lloegr
A hyd at £40,000
B dros £40,000 a hyd at £52,000
C dros £52,000 a hyd at £68,000
D dros £68,000 a hyd at £88,000
E dros £88,000 a hyd at £120,000
F dros £120,000 a hyd at £160,000
G dros £160,000 a hyd at £320,000
H dros £320,000

Cofiwch y bydd y bandiau prisio'n wahanol yng Nghymru a'r Alban.

Beth i’w wneud os ydych yn meddwl bod eich band treth yn anghywir

Os ydych chi'n credu bod eich band Treth Gyngor yn anghywir, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich cartref yn y band cywir. Gallwch siarad ag aelod o dîm y Dreth Gyngor a fydd yn ateb eich cwestiynau ac yn egluro sut y cyfrifwyd eich band Treth Gyngor. Efallai y gallant ail ystyried eich band hefyd.

Apelio i'r tribiwnlys prisio

Mae tribiwnlysoedd prisio yn delio gydag apeliadau sy'n ymwneud â'r Dreth Gyngor. Mae hyn yn digwydd pan na fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu'r cyngor yn cytuno gyda rhywun sy'n gwrthwynebu eu bil Treth Gyngor, neu os nad yw rhywun a dalodd eu Treth Gyngor yn fodlon â phenderfyniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu eu cyngor.

Prisio'r Dreth Gyngor

Os ydych chi wedi cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wrthwynebu'ch band Treth Gyngor, rhaid iddynt roi penderfyniad i chi o fewn pedwar mis. Byddan nhw'n egluro'u penderfyniad ac yn dweud wrthych sut y gallwch apelio. Bydd angen i chi apelio o fewn tri mis i dderbyn y penderfyniad, un ai drwy lythyr, drwy e-bost neu ar ffurflen apelio, y gallwch ei chael o'r tribiwnlys prisio neu oddi ar wefan y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio.

Apelio'n erbyn hysbysiad annilysrwydd y Dreth Gyngor

Os yw'r Tribiwnlys Prisio yn penderfynu nad oedd eich gwrthwynebiad i'r prisio yn dilyn y rheoliadau, neu nad oes gennych hawl i wrthwynebu, yna efallai y byddan nhw'n anfon hysbysiad annilysrwydd i chi - bydd hwn yn dweud wrthych pam nad yw eich apêl yn ddilys. Bydd y llythyr hwn yn dweud wrthych sut y gallwch apelio i'r tribiwnlys prisio, os nad ydych yn cytuno â'r hysbysiad.

Gallwch apelio'n erbyn yr hysbysiad annilysrwydd o fewn pedair wythnos ar ôl derbyn y penderfyniad, un ai drwy lythyr, drwy e-bost neu ar ffurflen apelio. Gallwch gael y ffurflen oddi ar wefan y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio.

Faint fyddwch chi'n ei dalu mewn gwirionedd

Mae faint o'r Dreth Gyngor y byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar eich band eiddo ac ar eich cyngor lleol - mae pob cyngor yn gosod eu cyfradd eu hunain ar gyfer y Dreth Gyngor.

Gall eich cyngor ddweud wrthych beth yw'r cyfraddau yn eich ardal chi.

Pwy sy'n gyfrifol am dalu'r bil?

Ceir un bil Treth Gyngor ar gyfer pob cartref. Fel arfer, rhaid i'r person sy'n byw yn yr eiddo dalu'r bil. Bydd cyplau priod a phartneriaid sy'n byw gyda'i gilydd ill dau'n gyfrifol am dalu'r bil.

Y person ar frig neu agosaf at frig y rhestr ganlynol yw'r person sy'n gyfrifol am dalu'r bil:

  • person sy'n byw yn yr eiddo ac yn berchen arno
  • person sy'n byw yn yr eiddo a chanddynt brydles (mae hyn yn cynnwys 'tenantiaid sicr' o dan Ddeddf Tai 1988)
  • person sy'n byw yn yr eiddo ac sy'n denant 'statudol' neu'n denant 'diogel'
  • person sy'n byw yn yr eiddo a chanddynt ganiatâd i fyw yno er nad ydynt yn denant
  • person sy'n byw yn yr eiddo (sgwatiwr, er enghraifft)
  • person a chanddynt brydles o chwe mis neu ragor ar yr eiddo, ond nad ydynt yn byw yno
  • person sy'n berchen ar yr eiddo ond nad ydynt yn byw yno

Ni allwch fod yn gyfrifol am dalu'r bil os ydych chi o dan 18.

Os ydych chi'n dal yn ansicr pwy sy'n gyfrifol am dalu'r bil, gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i gael cymorth.

Pan fydd eiddo'n wag

Os yw eiddo'n wag, efallai y bydd y person sydd fel arfer yn gyfrifol am dalu yn cael gostyngiad neu'n cael ei eithrio rhag talu'r dreth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ostyngiadau ac eithriadau yn adran 10 i 13 ar y daflen 'y Dreth Gyngor - arweiniad i'ch bil' (mae hon i'w gweld yn yr adran 'Mwy o ddolenni defnyddiol' isod).

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth neu wneud cais ar-lein.

Y Dreth Gyngor a symud tŷ

Os ydych yn symud tŷ, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor. Rhaid i chi wneud hyn fel nad ydych yn talu gormod o Dreth Gyngor ar eich hen dŷ ac fel eich bod yn talu'r swm iawn ar y tŷ newydd. Pan fyddwch yn symud:

  • dywedwch wrth eich cyngor ar ba ddyddiad y byddwch yn symud er mwyn iddynt addasu'r bil ar gyfer eich hen gartref (efallai y cewch ad-daliad)
  • dywedwch wrth eich cyngor (neu wrth eich cyngor newydd os ydych yn symud i ardal wahanol) pryd y byddwch yn symud i mewn i'r tŷ newydd er mwyn iddynt allu dechrau'r bil ar gyfer eich tŷ newydd o'r dyddiad cywir

Allweddumynediad llywodraeth y DU