Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Hyd at 1977, gallai gwragedd priod a gwragedd gweddw ddewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfradd is fel cyflogai, a dewis peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 fel gweithiwr hunangyflogedig.
Os ydych chi’n gyflogai a’ch bod chi, neu’ch cyflogwr, yn dal ‘tystysgrif dewis’ ddilys – ffurflen CA4139, ffurflen CF383 neu ffurflen CF380A – gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar y gyfradd is.
Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint y byddwch yn ei ennill. Y gyfradd is ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13 yw:
Mae Marie yn ennill £350 yr wythnos. Mae hi’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar y gyfradd is o 5.85 y cant ar £204 (£350 - £146), sef £11.93 yr wythnos.
Mae Sarah yn ennill £1,000 yr wythnos. Mae hi’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar y gyfradd is o 5.85 y cant ar £671 (£817 - £146) o’i henillion, sef £39.25. Mae hefyd yn talu 2 y cant yn ychwanegol ar y gwahaniaeth rhwng £817 a £1,000 (£183), sef £3.66. Y cyfanswm y mae’n ei dalu bob wythnos yw £42.91 (£39.25 + £3.66).
Os ydych chi’n hunangyflogedig ac yn dal ‘tystysgrif dewis’ ddilys – ffurflen CA4139, ffurflen CF383 neu ffurflen CF380A – does dim angen i chi dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2. Ond mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4 os yw eich elw trethadwy blynyddol dros swm penodol. Byddwch yn talu 9 y cant ar elw rhwng £7,605 a £42,475 a 2 y cant yn ychwanegol ar elw dros y swm hwnnw.
Nid yw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar y gyfradd is yn cyfrif tuag at ‘fudd-daliadau ar sail cyfraniadau’ megis Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth na budd-daliadau profedigaeth. Felly, os ydych chi wedi dewis talu’r rhain (fel cyflogai) neu wedi dewis peidio â thalu cyfraniadau Dosbarth 2 (fel gweithiwr hunangyflogedig) ni fyddwch yn gallu hawlio budd-daliadau ar sail eich cofnod cyfraniadau chi, fel rheol. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwch yn dal i allu cael rhywfaint o fudd-daliadau ar sail cyfraniadau eich gŵr (neu eich diweddar ŵr).
I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol is yn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau'r wladwriaeth, dilynwch y ddolen isod.
Os nad oes gennych chi dystysgrif dewis, am ba bynnag reswm, ond eich bod chi'n credu bod gennych chi hawl i gael un, dylech lenwi:
Gallwch lwytho’r ffurflenni hyn o wefan Cyllid a Thollau EM. Neu gallwch ffonio’r Llinell Ymholiadau Yswiriant Gwladol i Unigolion ar 0845 302 1479. Mae'r llinell ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio ar wyliau banc.
Anfonwch eich ffurflen i Gyllid a Thollau EM yn:
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol / National Insurance Contributions Office
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ
Byddwch yn colli’r hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 is (fel cyflogai) neu i beidio â thalu cyfraniadau Dosbarth 2 (fel gweithiwr hunangyflogedig) os byddwch:
Byddwch chi hefyd yn colli’r hawl os, am ddwy flwyddyn dreth yn olynol, nad ydych chi:
Os ydych chi’n gweithio ac yn colli'ch hawl, bydd angen i chi wneud y canlynol:
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr:
Os ydych chi’n hunangyflogedig ac yn colli’ch hawl, bydd angen i chi wneud y canlynol:
Rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM cyn gynted â’ch bod am dalu cyfraniadau Dosbarth 2, neu mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Os byddwch yn colli’ch gŵr, ni fyddwch yn colli’ch hawl i dalu cyfraniadau is yn awtomatig. Mae’n bosib y byddwch yn gallu cadw’ch hawl am gyfnod penodol ar ôl y dyddiad y bu farw eich gŵr. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Ymholiadau Yswiriant Gwladol i Unigolion ar 0845 302 1479. Mae’r llinell ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.