Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Is os ydych chi wedi contractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol neu os oes gennych chi gynllun pensiwn rhanddeiliad neu bersonol, mae'n bosib y byddwch yn gallu 'contractio allan' o Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch naill ai’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is neu’n cael ad-daliad o'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi wedi'u talu.

Contractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Caiff Ail Bensiwn y Wladwriaeth, a elwir weithiau’n Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, ei dalu ar ben Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Os ydych chi’n gyflogai, bydd gennych chi hawl i gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth os ydych chi'n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gyfradd lawn. Os yw eich enillion rhwng y ‘terfyn enillion is’ (£107 yr wythnos ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13) a’r ‘trothwy sylfaenol' (£146 yr wythnos ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13), fel arfer, byddant yn cyfrif tuag at Ail Bensiwn y Wladwriaeth hyd yn oed os nad ydych chi'n talu unrhyw gyfraniadau.

Gallwch ‘gontractio allan’ o Ail Bensiwn y Wladwriaeth naill ai:

  • os byddwch yn ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol eich cyflogwr sydd wedi’i gontractio allan, neu
  • os oes gennych gynllun pensiwn personol neu randdeiliad priodol

Os byddwch yn contractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn colli rhywfaint o’ch hawl i’w gael, neu'ch hawl i gyd. Yn hytrach, daw eich pensiwn o’ch cynllun pensiwn.

Eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol os byddwch yn contractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn contractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth, bydd gennych chi’r hawl i gael ad-daliadau ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd y rhain yn cael eu talu i’ch cynllun pensiwn i wneud iawn am yr Ail Bensiwn y Wladwriaeth yr ydych wedi rhoi’r gorau iddo.

Os byddwch yn contractio allan ac yn talu i mewn i gynllun pensiwn galwedigaethol

Os byddwch yn contractio allan gan eich bod yn aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol eich cyflogwr:

  • byddwch chi a’ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is
  • bydd eich cyflogwr yn talu o leiaf y swm sydd wedi’i gynilo mewn cyfraniadau yn y cynllun
  • bydd Cyllid a Thollau EM yn talu ad-daliad ychwanegol i’r cynllun yn seiliedig ar eich oedran a’ch enillion os mai ‘cynllun pwrcasu arian wedi’i gontractio allan’ yw eich cynllun

Cynllun lle bydd eich pensiwn yn dibynnu ar faint sydd wedi cael ei dalu i mewn ac ar werth eich cronfa pan fyddwch yn ymddeol yw cynllun pwrcasu arian wedi’i gontractio allan.

Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich enillion ar gyfradd is hyd at y ‘pwynt cronni uchaf’. Mae’r gyfradd yn 10.6 y cant, yn hytrach na’r gyfradd arferol o 12 y cant (cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13).

Os byddwch yn contractio allan ac yn talu i mewn i gynllun pensiwn personol

Os byddwch yn contractio allan gan fod gennych chi gynllun pensiwn personol neu randdeiliad priodol, byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gyfradd lawn. Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd Cyllid a Thollau EM yn talu ‘isafswm cyfraniadau’ i’r cynllun. Yr isafswm cyfraniadau fydd y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau contractio allan a’r cyfraddau heb gontractio allan, yn ogystal ag ad-daliad yn seiliedig ar eich oedran a’ch enillion.

Ar yr un pryd, bydd Cyllid a Thollau EM hefyd yn talu’r gostyngiad treth y mae gennych chi’r hawl i’w gael i mewn i’r cynllun.

Bydd y datganiad blynyddol y bydd darparwr eich pensiwn yn ei anfon atoch yn dangos swm yr isafswm cyfraniadau y mae Cyllid a Thollau EM wedi eu talu i’ch cynllun pensiwn.

Gallwch ddilyn y ddolen gyntaf isod i gael gwybod rhagor am yr isafswm cyfraniadau gan gynnwys sut cânt eu cyfrifo.

Eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol os na fyddwch yn contractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn dewis peidio â chontractio allan, byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y ffordd arferol. Ni fydd gennych chi hawl i gael unrhyw ad-daliad, ond byddwch yn cronni eich hawl i gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Newidiadau i gontractio allan o fis Ebrill 2012 ymlaen

O fis Ebrill 2012 ymlaen, ni fyddwch yn gallu contractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth drwy wneud y canlynol:

  • ymuno â chynllun pensiwn personol neu gynllun bensiwn rhanddeiliad
  • ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol pwrcasu arian wedi’i gontractio allan (cynllun 'cyfraniadau diffiniedig')

Cewch wybod mwy am y newidiadau, gan gynnwys beth fydd yn digwydd os ydych chi eisoes yn talu i un o’r cynlluniau hyn, drwy ddilyn y ddolen isod.

Os ydych chi wedi contractio allan i gynllun pensiwn galwedigaethol cyflog terfynol, ni fydd y newid yn effeithio arnoch.

Ble mae cael mwy o help

Os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth am eich pensiwn a chontractio allan, dylech gysylltu â darparwr eich cynllun neu siarad â chynghorydd ariannol annibynnol yn gyntaf.

Gallwch ysgrifennu i Gyllid a Thollau EM yn:

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM / HMRC National Insurance Contributions Office
Gwasanaethau i’r Diwydiant Pensiynau (Pensiynau Personol) / Services to Pensions Industry (Personal Pensions)
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Gallwch chi hefyd ffonio Llinell Gymorth Cyllid a Thollau EM ar gyfer Pensiynau sy’n cael eu Contractio Allan drwy ddilyn y ddolen cyntaf isod.

Gallwch gael gwybod rhagor am bensiynau sy’n cael eu contractio allan drwy ddilyn yr ail ddolen isod.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU