Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol – gwybodaeth sylfaenol

Weithiau, nid oes raid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan nad ydych chi'n gweithio neu gan nad ydych chi'n ennill digon efallai. Ond mae’n bosib y bydd modd i chi dalu cyfraniadau gwirfoddol er mwyn gallu parhau i hawlio rhai o fudd-daliadau’r wladwriaeth, gan gynnwys Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Beth yw cyfraniadau gwirfoddol?

Os yw eich sefyllfa waith neu’ch sefyllfa bersonol yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar hyn o bryd, neu os nad oes gennych chi hawl i gael credydau Yswiriant Gwladol, mae’n bosib y byddwch yn dal i allu talu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Bydd cyfraniadau gwirfoddol yn cyfrif tuag at rai o fudd-daliadau’r wladwriaeth a gallant hefyd gynyddu swm y budd-dal a gewch.

Fel arfer, cyfraniadau Dosbarth 3 yw’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu’n wirfoddol, ond os ydych chi’n hunangyflogedig neu’n byw dramor, mae’n bosib y gallech dalu cyfraniadau Dosbarth 2 yn wirfoddol.

Pryd allech chi dalu cyfraniadau gwirfoddol

Efallai y byddwch yn dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn wirfoddol os ydych chi:

  • yn ddi-waith a ddim yn hawlio budd-daliadau
  • wedi’ch cyflogi, ond ddim yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dydych chi ddim yn cael credydau Yswiriant Gwladol
  • yn hunangyflogedig ac mae gennych chi ‘dystysgrif Eithriad Enillion Isel’ sy’n golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 – dilynwch y ddolen isod
  • yn wraig briod neu’n weddw sy’n canslo ei ‘thystysgrif dewis cyfradd is’ ar ganol blwyddyn dreth – dilynwch y ddolen isod
  • yn byw dramor

Pan na allwch chi dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3

Mae rhai amgylchiadau lle na fyddwch yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3. Yr amgylchiadau mwyaf cyffredin yw:

  • os ydych chi’n wraig briod – neu’n weddw – a gwnaethoch ddewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is am y flwyddyn dreth gyfan rydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 ar ei chyfer
  • os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y flwyddyn dreth rydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 ar ei chyfer
  • os oes gennych chi hawl i gael credydau Yswiriant Gwladol (ond mae ambell eithriad i hyn)

Faint mae cyfraniadau gwirfoddol yn ei gostio?

Os ydych chi am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13 bydd rhaid i chi dalu:

  • £13.25 yr wythnos ar gyfer cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3
  • £2.65 yr wythnos ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 2

Os ydych chi’n hunangyflogedig, mae rhai amgylchiadau lle na fyddwch yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 2 yn wirfoddol – gweler yr adran isod ynghylch cyfraniadau gwirfoddol os ydych chi’n hunangyflogedig.

Dewisiadau o ran cyfraniadau gwirfoddol os ydych chi’n hunangyflogedig

Os ydych chi’n hunangyflogedig, gallwch ddewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 2 hyd yn oed os nad oes rhaid i chi eu talu. Fel arfer, mae’n well i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2 yn wirfoddol na thalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3. Bydd yn costio llai i chi a chewch ystod ehangach o fudd-daliadau'r wladwriaeth.

Efallai y byddwch yn dewis talu cyfraniadau Dosbarth 2 yn wirfoddol pan fydd eich enillion yn isel neu am eich bod yn gweithio y tu allan i’r DU. Ond, mae rhai amodau y bydd rhaid i chi eu bodloni ar gyfer talu cyfraniadau Dosbarth 2 yn wirfoddol os ydych chi'n gweithio y tu allan i'r DU. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen dan yr adran nesaf 'Talu cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer cyfnodau a dreuliwyd dramor'.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae’r math o gyfraniadau y byddwch yn eu talu yn effeithio ar y budd-daliadau y gallwch eu cael yn ein harweiniad ar Yswiriant Gwladol a budd-daliadau’r wladwriaeth.

Talu cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer cyfnodau a dreuliwyd dramor

Mae’n bosib y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol os ydych chi’n byw dramor. Efallai y byddwch yn gallu eu talu hefyd ar gyfer cyfnod yn y gorffennol lle roeddech chi dramor. Mae rheolau arbennig yn gysylltiedig â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer cyfnodau lle rydych chi dramor. Gallwch weld beth yw’r rheolau drwy ddilyn y ddolen isod.

Oes angen i chi ychwanegu at eich cyfraniadau?

Os oes gennych chi fylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, gall hyn effeithio ar eich hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau profedigaeth penodol. Mae'n bosib yr hoffech chi ystyried llenwi'r bylchau drwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Ond ni fydd bob amser yn fanteisiol i chi dalu cyfraniadau gwirfoddol, ac nid dyma fydd y peth iawn i chi ei wneud bob tro. Mae’n dibynnu ar nifer o bethau, gan gynnwys faint rydych chi eisoes wedi’i gyfrannu a’r dyddiad y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth i’ch helpu i benderfynu a yw’n werth i chi dalu cyfraniadau gwirfoddol drwy ddilyn y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU