Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Llythyr ‘Bwlch yn eich cofnod Yswiriant Gwladol’

Os nad oes gennych chi ddigon o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol ar gyfer blwyddyn dreth benodol, mae’n bosib y cewch lythyr yn dweud wrthych chi na fydd y flwyddyn yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth na'ch budd-daliadau profedigaeth. Bydd y llythyr yn egluro sut gall cyfraniadau gwirfoddol wneud i’r flwyddyn gyfrif, a beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod yr wybodaeth ynglŷn â'r bwlch yn anghywir.

Sut gall bylchau ymddangos yn eich cofnod Yswiriant Gwladol

Mae’n bosib y bydd bwlch yn eich cofnod o gyfraniadau am eich bod:

  • wedi bod mewn cyflogaeth, ond yn ennill llai na'r terfyn enillion is o £97 yr wythnos (cyfraddau'r flwyddyn dreth 2010-11)
  • wedi bod yn ddi-waith a ddim yn hawlio budd-daliadau
  • wedi bod yn hunangyflogedig ac wedi'ch eithrio rhag gorfod talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 oherwydd eich bod wedi gwneud cais am ‘CA6812 tystysgrif Eithriad Enillion Isel’ ac wedi cael un – dilynwch y ddolen isod
  • wedi bod yn byw dramor

Cyfnodau sy’n cael eu cynnwys yn y llythyr

Fel arfer, bydd llythyrau yn cael eu hanfon rhwng mis Medi a mis Ionawr. Byddant yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn dreth ddwy flynedd yn ôl
  • faint o ‘flynyddoedd cymhwyso’ sydd gennych chi eisoes, hyd at, ac yn cynnwys, y flwyddyn dreth cyn honno lle mae gennych chi fwlch ynddi

Er enghraifft, os byddwch yn cael llythyr rhwng mis Medi 2012 a mis Ionawr 2013 (blwyddyn dreth 2012-13) bydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw fylchau ym mlwyddyn dreth 2010-2011 a faint o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych chi hyd at flwyddyn dreth 2009-10.

Blwyddyn gymhwyso yw blwyddyn dreth lle rydych chi wedi talu, neu'n cael eich trin fel eich bod wedi talu, neu lle rydych chi wedi cael eich credydu â digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau profedigaeth penodol.

Beth fydd angen i chi ei wneud pan gewch chi’r llythyr?

Dylech wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn eich llythyr yn gywir, cyn un ai:

  • dweud wrth Gyllid a Thollau EM os ydych chi'n credu nad oes bwlch – gweler yr adran nesaf ynghylch beth i'w wneud os bydd yr wybodaeth yn eich llythyr yn anghywir
  • penderfynu a ydych chi am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol i lenwi’r bwlch

Nid bil na gorchymyn i dalu yw’r llythyr. Felly, eich penderfyniad chi fydd a ydych chi am dalu cyfraniadau gwirfoddol i wneud i’r flwyddyn gyfrif tuag at fudd-daliadau’r Wladwriaeth. Ond os byddwch yn penderfynu peidio â llenwi'r bwlch, ni fydd y flwyddyn yn cyfrif tuag at eich budd-daliadau’r Wladwriaeth, hyd yn oed os ydych wedi talu rhai cyfraniadau ar gyfer y flwyddyn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth i’ch helpu i benderfynu a fyddech yn manteisio o dalu cyfraniadau gwirfoddol drwy ddilyn y ddolen isod. Byddwch hefyd yn canfod tablau i’ch helpu i gyfrifo effaith talu, neu beidio â thalu cyfraniadau gwirfoddol ar Bensiwn y Wladwriaeth.

Beth i’w wneud os bydd yr wybodaeth yn eich llythyr yn anghywir

Os ydych chi’n credu bod yr wybodaeth yn eich llythyr yn anghywir, dylech wneud un o’r canlynol:

  • llenwi a dychwelyd ffurflen CA93A 'Bwlch yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol – gwybodaeth ychwanegol', a fydd wedi'i amgáu â’ch llythyr
  • cysylltu â Chyllid a Thollau EM ar 0845 915 5996 (llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn)

Os ydych chi’n byw dramor

Os ydych chi’n byw dramor, dylech wneud un o'r canlynol:

  • llenwi’r adran ‘gwybodaeth ychwanegol’ yn eich llythyr a’i anfon i Gyllid a Thollau EM
  • cysylltu â Chyllid a Thollau EM ar +44 191 203 7010 (llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)

Allweddumynediad llywodraeth y DU