Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ar yr amod eich bod yn bodloni rhai amodau, gallwch barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU yn wirfoddol pan fyddwch chi dramor. Bydd cyfraniadau gwirfoddol yn cyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth, ac yn gwarchod eich hawl i gael rhai o lwfansau a budd-daliadau’r wladwriaeth os byddwch chi’n dychwelyd i’r DU.
Os hoffech chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol pan fyddwch chi dramor, rhaid i un o'r amodau canlynol fod yn berthnasol:
Bydd angen i chi fodloni meini prawf eraill hefyd, gan ddibynnu ar gyfraniadau ym mha ddosbarth yr hoffech chi eu talu. Mae’r adran isod ‘Cyfraniadau ym mha ddosbarth i’w talu’ yn sôn am hyn.
Os byddwch chi'n symud i fyw dramor, gallai parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU helpu i ddiogelu eich hawl i gael:
Gallwch gael gwybod pa rai o fudd-daliadau’r wladwriaeth yn y DU sy’n dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy ddilyn yr ail ddolen isod.
Yn gyffredinol, nid oes cysylltiad rhwng eich hawl i ofal iechyd tra byddwch chi dramor a’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Fel rheol, penderfynir ar hynny yn unol â’ch statws ‘preswylio’ a ‘preswylio’n arferol’ yn y DU – cewch wybod beth mae’r termau hyn yn ei olygu drwy ddilyn y ddolen isod.
I gael gwybod rhagor am sut y gallai symud dramor neu yn ôl i’r DU effeithio ar eich budd-daliadau – ac i gael arweiniad ar ofal iechyd pan fyddwch chi dramor neu ar ôl dychwelyd i’r DU – gweler taflen NI38 ‘Social Security abroad’ gan Gyllid a Thollau EM.
Os byddwch chi’n mynd dramor – hyd yn oed am gyfnod llai na blwyddyn dreth – gall hynny greu bylchau yn eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Efallai y bydd hyn yn lleihau nifer y blynyddoedd sy’n cyfrif tuag at Bensiwn llawn y Wladwriaeth ac yn cyfyngu eich hawl i gael rhai o fudd-daliadau’r wladwriaeth pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r DU.
Ar yr amod y byddwch chi’n gymwys i wneud cyfraniadau gwirfoddol tra byddwch chi dramor, fel rheol gallwch wneud iawn am unrhyw fwlch yn eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod y chwe blwyddyn dreth flaenorol. Os ydych chi dramor neu wedi bod dramor ac am gael gwybod a oes gennych chi fwlch yn eich cofnod, cysylltwch â Gweithiwr Achos Rhyngwladol yn y Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Ar yr amod eich bod yn bodloni’r amodau y soniwyd amdanynt yn gynharach, gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os ydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn byw dramor (ond ni chewch wneud hynny os ydych chi’n gyflogedig ac eisoes yn talu cyfraniadau Dosbarth 1).
Er mwyn talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol rhaid eich bod naill ai:
Dyma rai o fanteision cyfraniadau Dosbarth 2:
Os hoffech chi gael gwybod a ydych chi'n bodloni’r amodau ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol, cysylltwch â Gweithiwr Achos Rhyngwladol yn y Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os ydych chi’n ddi-waith neu ddim yn cael gwneud taliadau Dosbarth 2 a’ch bod yn bodloni’r amodau y soniwyd amdanynt yn gynharach, gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol. Gallwch hefyd dalu cyfraniadau Dosbarth 3 os nad ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau Dosbarth 1 neu Ddosbarth 2 yn y flwyddyn dreth er mwyn i’r flwyddyn gyfrif tuag Bensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau eraill y wladwriaeth.
Nid oes gan gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gymaint o fanteision â chyfraniadau Dosbarth 2. Er enghraifft, maent yn diogelu hawl eich cymar i gael budd-daliadau profedigaeth, ond nid ydynt yn rhoi hawl i chi gael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth pan fyddwch chi’n dychwelyd i’r DU.
Gallwch gael gwybod sut mae gwneud cais a thalu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn yr adrannau canlynol.
Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ffurflen CF83, ‘Ffurflen gais i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol dramor’. Mae’r ffurflen hon a'r nodiadau canllaw perthnasol ar gefn taflen NI38. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd at Weithiwr Achos Rhyngwladol yn y Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol mewn dwy ffordd:
Os hoffech chi enwebu asiant i wneud eich taliadau ar eich rhan, bydd angen i chi ddarparu ei fanylion wrth lenwi ffurflen CF83. Os oes angen i’ch asiant drafod eich cyfrif â Chyllid a Thollau EM, dylech hefyd lenwi ffurflen 64-8.