Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n hunangyflogedig, chi sy'n gyfrifol am dalu eich treth a'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun. Bydd angen ichi gadw cofnodion busnes a manylion eich incwm er mwyn ichi allu llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad flynyddol. Efallai hefyd y bydd angen ichi gofrestru ar gyfer TAW.
Mae'n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod yn hunangyflogedig cyn gynted ag y bo modd - hyd yn oed os ydych chi eisoes yn llenwi ffurflen dreth. Oni ddywedwch wrthynt cyn gynted ag y byddwch yn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu cosb.
Gallwch gofrestru:
Unwaith y byddwch wedi cofrestru'n hunangyflogedig, byddwch yn drethdalwr Hunanasesu. Bydd rhaid ichi lenwi ffurflen dreth bob blwyddyn er mwyn i chi roi manylion eich enillion ac unrhyw incwm arall yr ydych yn ei gael yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Defnyddir y wybodaeth hon i gyfrifo faint o dreth y bydd yn rhaid ichi ei thalu.
Gallwch gael gwybod mwy ynghylch Treth Incwm, dyddiadau cau ar gyfer ffurflenni treth a manteision ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein drwy ddilyn y dolenni isod.
Fel arfer rhaid ichi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ac os bydd eich elw blynyddol dros swm penodol rhaid ichi dalu cyfraniadau Dosbarth 4 hefyd.
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gyfradd wastad o £2.40 yr wythnos (2010-2011) os yw eich enillion dros £5,075 y flwyddyn.
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cyfrif tuag at rai budd-daliadau, megis Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, Absenoldeb Mamolaeth a Budd-dal Profedigaeth. Nad yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cyfrif tuag at Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, Tâl Salwch Statudol na Lwfans Ceisio Gwaith, ac felly, efallai y dylech ystyried gwneud trefniadau eraill megis pensiwn personol ac yswiriant diogelu incwm.
Gallwch gofrestru ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 pan fyddwch yn cofrestru'n hunangyflogedig – cewch wybod sut mae gwneud hyn yn yr adran ‘Cofrestru gyda Chyllid a Thollau EM’. Ar ôl i chi gofrestru, gallwch ddewis talu naill ai bob chwarter neu drwy ddebyd uniongyrchol misol – cewch wybod mwy drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod.
Eithriadau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
Os ydych yn ennill llai na £5,075 y flwyddyn, gallwch wneud cais am dystysgrif eithriad enillion isel a pheidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2. Fodd bynnag, efallai y penderfynwch barhau i'w talu'n wirfoddol er mwyn cadw'ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill.
Mae faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 y byddwch yn eu talu mewn unrhyw flwyddyn dreth yn dibynnu ar eich elw yn y flwyddyn honno. Rydych yn talu 8 y cant ar elw blynyddol rhwng £5,715 a £43,875 (2010-11) ac 1 y cant ar unrhyw elw uwchlaw'r swm hwnnw.
Rydych yn cyfrifo'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar eich ffurflen dreth a'u talu gyda'ch Treth Incwm. Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yn cyfrif tuag at eich hawl i fudd-daliadau.
Os yw trosiant eich busnes yn fwy na'r trothwy ar gyfer TAW (£68,000 ar hyn o bryd) gan amlwf, bydd yn rhaid ichi gofrestru ar gyfer TAW. Hyd yn oed os yw eich trosiant o dan y trothwy, efallai y byddai o fudd ichi gofrestru'n wirfoddol.
Os oes gennych chi gyfrifydd gallant hwy eich cynghori neu gallwch ffonio Llinell Gymorth TAW Cyllid a Thollau EM ar 0845 0109 000, ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yn unol â'r gyfraith, rhaid ichi gadw cofnodion ar gyfer eich busnes ac ar gyfer unrhyw incwm arall yr ydych yn ei dderbyn. Gwneir hynny er mwyn ichi allu llenwi'ch ffurflen dreth a dangos bod y ffigurau'n gywir. Bydd angen i chi gadw'r canlynol o leiaf:
Bydd cofnodion da hefyd yn arbed amser ichi ac yn eich helpu i redeg eich busnes yn fwy effeithlon.