Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cywiro eich ffurflen dreth a hawlio unrhyw ad-daliad

Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad, os ydych chi wedi anghofio rhoi rhywbeth ar eich ffurflen dreth, neu os ydych chi'n credu eich bod wedi talu'r swm anghywir o dreth, mae'n bosib y gallwch ddatrys hyn o hyd. Os bydd Cyllid a Thollau EM yn derbyn eich ffigurau newydd, byddwch yn cael ad-daliad, neu cewch wybod faint o dreth ychwanegol y bydd yn rhaid i chi ei thalu.

Cywiro camgymeriadau cyn pen 12 mis

Os byddwch yn gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth, fel arfer, bydd gennych chi 12 mis i'w gywiro o 31 Ionawr ar ôl i'r flwyddyn dreth ddod i ben. Gelwir hyn yn 'ddiwygiad'. Er enghraifft, ar gyfer ffurflen 2011-12, bydd gennych chi tan 31 Ionawr 2014 i’w diwygio.

Dim ond os cawsoch eich ffurflen dreth yn hwyr (ar ôl 31 Hydref) y cewch ei diwygio ar ôl y dyddiad hwn. Yn yr achos hwnnw, byddai gennych 12 mis o’r dyddiad cau ar gyfer ffeilio i gywiro camgymeriadau.

Os gwnaethoch ffeilio eich ffurflen dreth ar bapur, nid oes angen i chi anfon yr holl ffurflen dreth eto. Ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EM ac atodwch y tudalennau treth sydd wedi’u diwygio, gan nodi’n glir ‘diwygiad’. Bydd y cyfeiriad ar eich ffurflen dreth, ar eich cyfrifiad treth ac ar eich Datganiad Hunanasesu.

Os gwnaethoch ffeilio ar-lein, mae’n haws i wneud y diwygiad ar-lein hefyd.

Cael ad-daliad

Os ydych chi’n credu y dylech gael ad-daliad, bydd angen i chi roi gwybod sut yr hoffech ei gael i Gyllid a Thollau EM.

O ran cyfleustra i chi, gallwch ei gael wedi’i ddidynnu oddi ar unrhyw dreth a fydd yn ddyledus gennych ar eich Datganiad Hunanasesu nesaf:

  • os yw’n llai na £10
  • os bydd taliad treth yn ddyledus gennych yn fuan

Neu, gallwch ofyn am un o’r canlynol:

  • ad-daliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu – bydd hyn yn gyflym ac yn ddiogel
  • siec – ond bydd siec yn cymryd ychydig mwy o amser i'ch cyrraedd

Weithiau, mae’n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth – i sicrhau bod y ffigurau’n gywir – cyn gwneud ad-daliad.

Talu treth ychwanegol

Os bydd mwy o dreth yn ddyledus gennych o ganlyniad i'r diwygiadau i'ch ffurflen dreth, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i chi faint y bydd angen i chi ei dalu, a phryd a sut i'w dalu.

Cywiro camgymeriadau ar ôl 12 mis

Os bydd arnoch eisiau rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am gamgymeriad ar ôl 12 mis, bydd yn rhy hwyr i chi ddiwygio eich ffurflen. Yn hytrach, bydd yn rhaid i chi ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM a rhoi gwybod iddynt ynghylch y camgymeriad.

Cael ad-daliad

Yn y rhan fwyaf o achosion, cewch y dreth rydych wedi’i gordalu yn ôl, cyn belled â’ch bod yn ei hawlio mewn pryd. Mae’n rhaid i chi wneud hawliad o fewn pedair blynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth yr ydych yn ei hawlio ar ei chyfer. Er enghraifft os wnaethoch dalu ormod o dreth yn y flwyddyn dreth 2008-09, mae’n rhaid i chi wneud hawliad erbyn 5 Ebrill 2013. Os na fyddwch yn gwneud hawliad o fewn y terfyn amser, byddwch yn colli unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi.

Mae’n rhaid i chi wneud eich hawliad yn ysgrifenedig a dylai gynnwys:

  • y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddo
  • pam eich bod yn meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth
  • tystiolaeth o’r dreth sydd wedi cael ei thalu
  • eich llofnod
  • sut yr hoffech dderbyn unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus

Weithiau, mae’n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth – i sicrhau bod y ffigurau’n gywir – cyn gwneud ad-daliad.

O ran cyfleustra i chi, gallwch ei gael wedi’i ddidynnu oddi ar unrhyw dreth a fydd yn ddyledus gennych ar eich Datganiad Hunanasesu nesaf:

  • os yw’n llai na £10
  • os bydd taliad treth yn ddyledus gennych yn fuan

Neu, gallwch ofyn am un o’r canlynol:

  • ad-daliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu – bydd hyn yn gyflym ac yn ddiogel
  • siec – ond bydd siec yn cymryd ychydig mwy o amser i'ch cyrraedd

Talu treth ychwanegol

Os bydd mwy o dreth yn ddyledus gennych o ganlyniad i gamgymeriad rydych wedi’i gwneud, bydd eich Swyddfa Dreth yn cyfrifo faint sy’n ddyledus gennych ac yn gofyn i chi wneud taliad. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y swm sy’n ddyledus.

Llog ar daliadau hwyr ac ad-daliadau

Os byddwch yn talu treth yn hwyr neu os byddwch yn cael ad-daliad yn hwyr, bydd Cyllid a Thollau EM yn ychwanegu unrhyw log sy’n ddyledus. Bydd cyfraddau'r llog yn amrywio – gallwch ddod o hyd i'r gyfradd gyfredol drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch

I gael rhagor o gymorth, gallwch ffonio neu ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM.

Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu ond rydych am hawlio ad-daliad, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i wneud hyn.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU