Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn wahanol i'ch rhif ffôn cartref, nid yw rhifau ffôn 08 a 03 yn gysylltiedig â lleoliad y busnes. Gall cost ffonio rhifau 08 amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr, ond nid yw rhifau 03 yn costio dim mwy na galwad genedlaethol o unrhyw fath o ffôn neu ddarparwr.
Os ydych yn un o gwsmeriaid BT, caiff cost galwadau ffôn i rifau 08 eu rheoleiddio gan Ofcom (y Swyddfa Gyfathrebiadau).
Mae rhifau rhadffôn 0800 a 0808 yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid BT.
I weld cost galwadau i'r holl rifau 08 eraill, dilynwch y ddolen i Ofcom isod.
Nid yw prisiau darparwyr eraill, gan gynnwys darparwyr ffonau symudol, yn cael eu rheoleiddio felly gallai'r gost amrywio. Dylech gysylltu â'ch darparwr gwasanaeth i gael rhagor o wybodaeth.
Nid yw galwadau i rifau 03 yn costio dim mwy na galwad i rif 01 neu 02 ar y gyfradd genedlaethol. Cânt eu cyfrif hefyd fel munudau cynwysedig mewn contract ffôn, yn yr un modd â galwadau i rifau 01 a 02.
Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i alwadau o unrhyw fath o linell ffôn, gan gynnwys ffôn symudol, BT, llinell ffôn sefydlog arall neu flwch ffôn.
Nid yw rhannu refeniw – lle gall y sefydliad sy'n derbyn yr alwad gael cyfran o'r hyn y mae'r defnyddiwr yn ei dalu i wneud galwad – ar gael ar alwadau i rifau 03.
Gall rhifau 08 helpu i gynnal amryw o wasanaethau a systemau galwadau sy'n galluogi staff canolfan alwadau i ateb galwadau yn gyflymach.
Gan nad oes ffin ddaearyddol ar rifau 08, yn aml gellir trosglwyddo cwsmeriaid i sawl lleoliad (megis tair canolfan alwadau sy'n defnyddio'r un rhif), neu eu trosglwyddo i'r ganolfan alwadau sydd agosaf at y cwsmer.
Yn aml iawn mae'r rhifau hyn yn cynnwys systemau adfer mewn trychinebau, sy'n golygu petai llifogydd, er enghraifft, wedi effeithio ar un ganolfan alwadau, câi'r holl alwadau eu hailgyfeirio i ganolfan alwadau arall gan ddefnyddio'r un rhif.
Un o nodweddion eraill rhifau 08 yw eu bod yn rhoi'r dewis i sefydliadau 'rannu refeniw'. Ystyr hyn yw y gall y sefydliad godi tâl am y gwasanaethau a gynigiant, megis canolfan alwadau sydd ar agor 24 awr y dydd, neu dalu am linell gynghori, drwy gael rhywfaint o gost yr alwad.