Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pryd a sut mae ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os oes gennych chi fylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae’n bosib y gallwch dalu’r diffyg drwy wneud taliadau gwirfoddol untro. Os nad ydych chi’n gweithio nac yn cael credydau Yswiriant Gwladol, mae'n bosib y byddwch hefyd yn gallu gwneud taliadau rheolaidd i warchod eich cofnod cyfraniadau ar gyfer y dyfodol.

Cyfyngiadau amser ar gyfer talu diffyg yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os ydych chi am dalu diffyg yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, fel arfer, bydd rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y telir y cyfraniadau ar ei chyfer.

Gallwch wneud hyn hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os byddwch yn talu dros ddwy flynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth berthnasol, bydd y gyfradd fel arfer yn codi.

Fodd bynnag, ceir eithriadau (i gyfyngiadau amser a/neu'r cyfraddau y bydd rhaid i chi eu talu) ar gyfer rhai blynyddoedd treth penodol.

Cyfyngiadau amser chwe blynedd arferol

Blwyddyn dreth gyda bwlch yn y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Rhaid i gyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 gael eu talu erbyn:
2006-07 5 Ebrill 2013
2007-08 5 Ebrill 2014
2008-09 5 Ebrill 2015
2009-10 5 Ebrill 2016
2010-11 5 Ebrill 2017
2011-12 5 Ebrill 2018

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 ar gyfer blwyddyn dreth 2006-07

Mae’n bosib y gallech dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 ar gyfer blwyddyn dreth 2006-07 ar y cyfraddau gwreiddiol o £2.10 (Dosbarth 2) neu £7.55 (Dosbarth 3) os byddwch chi:

  • yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny
  • â’r hawl i gael credydau ar gyfer rhieni a gofalwyr – dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am hyn
  • yn gwneud y taliad erbyn 5 Ebrill 2013

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 3 ar gyfer y blynyddoedd treth 1993-94 i 2007-08

Mae’n bosib y gallech dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 3 ar gyfer y blynyddoedd treth 1993-94 i 2007-08 ar y cyfraddau gwreiddiol:

  • os dyfarnwyd credydau Yswiriant Gwladol i chi ar gam pan roeddech chi’n ddi-waith, yn sâl neu ar gwrs hyfforddi cymeradwy – cewch ragor o wybodaeth drwy ddilyn y drydedd ddolen isod
  • os byddwch yn gwneud y taliad erbyn 5 Ebrill 2014

Diffyg yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol – prynu blynyddoedd ychwanegol o gyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3

O 6 Ebrill 2009 ymlaen, os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2008 a 5 Ebrill 2015, mae’n bosib y gallech dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 am hyd at chwe blynedd yn ychwanegol – yn mynd yn ôl i 1975-76 – i lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gallwch wneud hyn yn ogystal â gwneud cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 am y chwe blynedd diwethaf neu am unrhyw un o’r blynyddoedd treth lle mae cyfyngiadau amser estynedig ar gyfer talu – gweler yr adran uchod. Byddwch yn talu ar y gyfradd wythnosol gyfredol – felly os byddwch yn talu erbyn 5 Ebrill 2013, £13.25 fydd y gyfradd.

Bydd gennych chi chwe blynedd ar ôl y dyddiad y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 3. Cewch wybod rhagor drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut mae talu diffyg mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol drwy ddefnyddio unrhyw rai o'r dulliau talu hyn:

  • gwasanaeth bancio ar y we neu fancio dros y ffôn eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu (gan gynnwys cyfrif banc o dramor)
  • Giro Banc, os yw eich banc yn cynnig y gwasanaeth hwn
  • siec, arian parod neu gerdyn debyd mewn Swyddfa Bost
  • anfon siec drwy’r post

Cewch wybod rhagor am opsiynau talu yn yr arweiniad ‘Sut mae talu Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 3’ drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut mae talu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 os nad ydych chi’n gweithio nac yn cael credydau Yswiriant Gwladol

Os nad ydych chi’n gweithio nac yn cael credydau Yswiriant Gwladol, mae’n bosib y byddwch yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 er mwyn:

  • gwneud yn siŵr y cewch well Pensiwn gan y Wladwriaeth pan fyddwch yn ymddeol
  • cadw eich hawl i gael rhai budd-daliadau profedigaeth penodol

Mae dwy brif ffordd o dalu eich cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3:

  • yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol
  • bob chwarter – os ydych chi'n byw yn y DU, cewch fil bob 13 wythnos

Talu mewn ôl-daliadau fyddwch chi gyda’r ddau ddull o dalu.

Sut mae talu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 ar gyfer cyfnodau a dreuliwyd dramor

Mae rheolau arbennig os ydych chi:

  • yn byw dramor ac am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 2
  • am dalu cyfraniadau gwirfoddol am gyfnod yn y gorffennol pan oeddech chi’n byw dramor

Penderfynu a oes angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 3

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i chi dalu cyfraniadau gwirfoddol, darllenwch yr erthygl ‘A oes angen i chi ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol?’.

Allweddumynediad llywodraeth y DU