Twyll manylion personol
Twyll manylion personol (a elwir hefyd yn ddwyn manylion personol) yw lle mae rhywun yn esgus bod yn chi. Gallai wneud hyn er mwyn prynu pethau nad oes ganddo fwriad talu amdanynt yn eich enw chi. Gallwch chi a'ch banc gael y bil. Mae'n dod yn fwyfwy cyffredin, felly mae'n bwysicach byth eich bod yn cymryd camau i warchod eich manylion personol.
Arwyddion bod eich manylion personol wedi cael eu dwyn
Dyma rai arwyddion posib bod rhywun wedi dwyn eich manylion personol:
- taliadau anarferol neu daliadau debyd uniongyrchol yn ymddangos ar eich cyfriflenni banc
- post pwysig yn mynd ar goll – i fod yn siŵr, dylech wybod pryd rydych yn disgwyl cyfriflen banc neu lyfr siec newydd. Oni fydd yn cyrraedd, rhowch wybod i'ch banc
- rhywun wedi ymyrryd â chynnwys eich biniau ailgylchu a'ch biniau sbwriel
- biliau'n cyrraedd am bethau nad ydych wedi'u prynu neu am wasanaethau nad ydych wedi'u harchebu
- cardiau credyd newydd yn ymddangos ar eich cofnod credyd
Ambell awgrym: sut mae cadw'n ddiogel rhag dwyn manylion personol
Drwy ddefnyddio rhai o'ch manylion personol, gall troseddwyr wneud cais am gyfrifon banc, cardiau credyd, budd-daliadau a dogfennau swyddogol yn eich enw chi.
Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i gadw'n ddiogel.
Awgrymiadau ar-lein
I gadw’n ddiogel ar-lein:
- dilëwch negeseuon e-bost sy'n edrych yn amheus heb eu hagor
- cadwch 'firewall' da ar eich cyfrifiadur gartref
- peidiwch â defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer pob gwefan
- gwrthodwch roi manylion personol i unrhyw gwmni sy'n anfon negeseuon e-bost atoch neu'n eich ffonio yn annisgwyl
- peidiwch â gadael eich cerdyn credyd allan o'ch golwg wrth dalu mewn bwytai neu siopau
- peidiwch ag ymateb i negeseuon e-bost gan eich 'banc' yn gofyn i chi 'ail-gyflwyno' eich manylion personol; ni fydd eich banc go iawn yn gofyn i chi wneud hynny
- peidiwch â phrynu nwyddau ar-lein oni bai eich bod yn gallu gweld y clo aur ar y dudalen dalu, a chyfeiriad gwefan yn dechrau gyda 'https'
- dylech lwytho pob diweddariad diogelwch a 'phatsys' a gynigir gan eich cwmni meddalwedd cyfrifiadurol
Awgrymiadau all-lein
I gadw’n ddiogel all-lein:
- rhwygwch eich holl fanylion personol yn ddarnau mân cyn eu taflu i'r sbwriel; mae hyn yn cynnwys cyfriflenni banc, unrhyw beth sy'n cynnwys manylion Yswiriant Gwladol, gwybodaeth am eich cyflog a hyd yn oed hen gardiau aelodaeth
- torrwch yr enw a'r cyfeiriad oddi ar yr amlenni a gewch a chwalu'r manylion hyn yn ddarnau mân cyn taflu'r amlenni
- peidiwch byth â rhoi manylion personol i neb lle y gall rhywun arall eich clywed
- peidiwch â gadael dogfennau personol yn y golwg yn eich cartref; cadwch nhw yn rhywle diogel
- dywedwch wrth eich cwmni gwasanaethau a'ch awdurdod lleol (ar gyfer Treth Cyngor a'r gofrestr etholiadol) pan fyddwch yn symud tŷ
- cadwch eich rhifau PIN ar gyfer eich banc a'ch cerdyn credyd yn ddiogel – ni fydd yr un banc yn eich ffonio yn gofyn am eich PIN
- sicrhewch fod eich blwch llythyrau yn ddiogel, a bod lle i'r post fynd drwyddo a chwympo'n ddiogel i'r llawr
- os ydych chi'n byw mewn adeilad a rennir, gofynnwch i'ch banc os cewch chi gasglu cardiau debyd neu lyfrau siec newydd o'ch cangen
Cadw eich manylion personol i chi'ch hun
Dim ond os mai eich penderfyniad chi yw eu rhoi y dylai manylion personol gael eu datgelu. Ni fydd eich banc fyth yn gofyn am eich PIN neu'r cyfrinair ar gyfer eich cyfrif ar-lein, ac ni fydd unrhyw wefan arwerthiant, cerdyn credyd nac adwerthwyr ar-lein yn gofyn chwaith.
I gadw eich gwybodaeth yn ddiogel dylech wneud y canlynol:
- peidiwch byth â rhoi eich manylion personol i rywun sy'n eich ffonio, fel eich dyddiad geni neu enw eich mam cyn priodi
- dylech bob amser ddileu negeseuon e-bost yn gofyn i chi 'ddiweddaru' manylion eich cyfrif banc (gall twyllwyr ddefnyddio logos enwau siopau'r stryd fawr yn rhwydd, a bydd negeseuon e-bost twyllodrus yn aml yn ymddangos fel rhai go iawn)
Monitro eich adroddiad credyd
Gallwch archebu eich adroddiad credyd. Mae ffeil credyd yn un o'r tair prif asiantaeth archwilio credyd gan unrhyw un sydd wedi cofrestru i gael cerdyn credyd, benthyciad neu forgais erioed. Bydd y ffeil yn cynnwys manylion sefydliadau rydych chi wedi bod yn delio'n ariannol â nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Cost adroddiad credyd statudol drwy'r post yw £2. Pan fyddwch yn cael eich adroddiad, darllenwch ef yn fanwl.
Os ydych chi'n sylwi ar rywbeth nad yw'n gyfarwydd, rhowch wybod i'r asiantaeth archwilio credyd
Rhoi gwybod am bost sydd ar goll
Os ydych chi'n meddwl bod rhywun o bosib wedi atal neu ddwyn eich post, cysylltwch â'r Post Brenhinol.
Gallwch un ai roi gwybod am beth sydd wedi digwydd ar wefan y Post Brenhinol, neu siarad â chynghorydd gwasanaethau i gwsmeriaid drwy ffonio 08457 740 740. Byddant yn cyfeirio eich ymholiad at uned ymchwilio sy'n arbenigo mewn problemau â'r post.
Os ydych chi'n symud tŷ, gallwch hefyd drefnu i'r Post Brenhinol ailgyfeirio eich post am hyd at flwyddyn – hyd yn oed os byddwch yn symud dramor.