Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Genedlaethol yn creu ffyrdd mwy diogel a chyfleus i chi o brofi pwy ydych chi drwy basportau biometrig, cardiau adnabod cenedlaethol, ac amrywiaeth o wasanaethau gwirio hunaniaeth.
Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn cael ei ddatblygu gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau a’r Asiantaeth Ffiniau'r DU. Pan fyddwch yn cofrestru eich diddordeb yn y byddwch yn cael e-gylchlythyrau rheolaidd a fydd yn eich helpu gyda'r canlynol:
Rhaid i chi fod yn 16 oed o leiaf i gofrestru. Bydd y wybodaeth a roddwch wrth gofrestru hefyd yn cael ei defnyddio gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i’w helpu i ddiwallu'ch anghenion.
Os hoffech wybod mwy am sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio, ei gadw neu ei ddiogelu, ceir mwy o wybodaeth yn y datganiad preifatrwydd isod.
Fel chi, bydd eich cerdyn adnabod yn unigryw. Bydd yn cynnwys eich llun a gwybodaeth bersonol sylfaenol ar flaen y cerdyn. Caiff yr wybodaeth hon hefyd ei chynnwys ar sglodyn y cerdyn gydag olion dau o'ch bysedd.
Mae cael cerdyn adnabod yr un mor syml â gwneud cais am eich pasport oedolyn cyntaf. Caiff ceisiadau am gardiau adnabod eu prosesu a’u rheoli yn yr un ffordd ddiogel â cheisiadau am basport.
Ac os ydych yn ddinesydd Prydeinig, byddwch yn gallu teithio yn Ewrop gyda'ch cerdyn adnabod ac ni fydd angen eich pasport arnoch.
Mae’r llywodraeth yn bwriadu canolbwyntio ar gyflwyno cardiau adnabod (am dâl o £30) i’r sawl a fydd yn elwa ohono fwyaf, yn enwedig pobl ifanc yn 16 oed a throsodd.
Erbyn hyn gall dinasyddion Prydeinig sy’n byw a gweithio yng ngogledd-orllewin Lloegr wneud apwyntiad i gofrestru ar gyfer cerdyn adnabod.
Darparwyd gan the Identity and Passport Service