Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol?

Mae pob un ohonom yn defnyddio amrywiaeth o ddogfennau i brofi pwy ydym ni, gan gynnwys pasportau, trwyddedau gyrru a biliau gwasanaethau. Ond nid oedd yr un o'r rhain wedi'u bwriadu i fod yn ddogfennau 'adnabod'. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn cyfuno dogfennau adnabod pwrpasol, megis pasportau a chardiau adnabod, er mwyn darparu amrywiaeth o wasanaethau adnabod ar gyfer unigolion a busnesau.

Prif nodweddion y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol

Ni fydd angen amrywiaeth o ddogfennau arnoch gyda cherdyn y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol ac mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau newydd. Bydd y cerdyn adnabod hefyd yn ddilys i ddinasyddion Prydeinig ar gyfer teithio yn Ewrop.

Pasportau a chardiau adnabod

Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau sy'n cyhoeddi pasportau yn y DU, ond nawr mae hefyd yn cyhoeddi cardiau adnabod. Mae cardiau adnabod ac e-basportau yn defnyddio eich manylion biometrig neu'ch nodweddion corfforol unigryw (eich wyneb a'ch olion bysedd) er mwyn eich cysylltu â'ch hunaniaeth fywgraffyddol unigryw chi (gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, a'ch dyddiad geni) ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol. Gallwch ddefnyddio eich pasport neu eich cerdyn adnabod er mwyn profi pwy ydych chi.

Y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol

Mae'r Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol yn cadw eich manylion yn ddiogel. Caiff eich manylion biometrig eu cadw ar wahân i'ch manylion bywgraffyddol. Dim ond gwybodaeth bersonol sylfaenol fel eich enw, eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni a gaiff eu cadw ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol. Nid yw'r Gofrestr yn cadw gwybodaeth sensitif megis crefydd, ethnigrwydd na chofnodion treth, iechyd neu droseddol.

Cadarnhau pwy ydych chi

Drwy gysylltu unigolyn gydag un hunaniaeth gan ddefnyddio ei fanylion biometrig, mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn ei gwneud yn llawer anoddach creu hunaniaeth ffug. Bydd hyn yn lleihau'r buddion a geir o ddwyn manylion personol rhywun arall. Ar ôl i fanylion biometrig unigolyn gael eu storio ar y Gofrestr, ni fydd yn gallu hawlio hunaniaeth ychwanegol. Nod hyn yw gwneud bywyd yn haws a chymdeithas yn fwy diogel.

Cyfleus iawn i ddinasyddion

Gall y cerdyn adnabod ddisodli'r amrywiaeth o ddogfennau a ddefnyddir ar hyn o bryd i brofi pwy ydych chi, gan wneud bywyd yn haws ac arbed amser. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwasanaethau newydd yn gwneud profi pwy ydych chi dros y ffôn neu dros y we hefyd yn fwy diogel. Bydd yn darparu manteision tebyg ar gyfer darparwyr, defnyddwyr a hawlwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Diogelu'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau

Mae twyll manylion personol yn mynd ag adnoddau oddi ar y bobl y mae arnynt y mwyaf o'u hangen, ac mae'n annheg ar y miliynnau o ddinasyddion gonest sy'n ariannu gwasanaethau a budd-daliadau drwy dalu trethi ac Yswiriant Gwladol. Drwy ddarparu gwell gwasanaeth i gadarnhau pwy ydych chi, mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn helpu i sicrhau y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio gan y rheini sydd â'r hawl i'w defnyddio ac nid y rheini sy'n camddefnyddio'r system.

Cryfhau rheolau mewnfudo a brwydro yn erbyn gweithio anghyfreithlon

Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn helpu cyflogwyr i gael gwybod statws mewnfudo ymgeiswyr swyddi ac am unrhyw gyfyngiadau fisa a allai olygu nad oes ganddynt hawl gyfreithiol i weithio yn y DU.

Mynd i'r afael â therfysgaeth a throseddu cyfundrefnol

Rydym yn gwybod bod troseddwyr a therfysgwyr yn defnyddio manylion personol sydd wedi'u dwyn a hefyd yn defnyddio mwy nag un hunaniaeth, felly byddai unrhyw beth y gellir ei wneud i atal hunaniaethau ffug rhag cael eu creu yn helpu i rwystro eu gweithgareddau. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn rhwystro pobl rhag cofrestru mwy nag un hunaniaeth. Felly, er na all y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol atal troseddau a therfysgaeth ar ei ben ei hun, gall ei gwneud yn anoddach i droseddwyr a therfysgwyr gynllwynio a rhoi eu gweithgareddau ar waith.

Y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol a'r buddion i chi

Gweld eich cofnod ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol

Pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd i rywun edrych ar eich cofnod, cedwir trywydd archwilio pan edrychir ar eich cofnod er budd i chi. Byddwch yn gallu gweld pryd yr edrychwyd ar y cofnod – yn debyd i gyfriflen banc. Ni chaiff y rhesymau dros edrych ar eich cofnod eu cofnodi – dim ond y ffaith i'ch cofnod gael ei weld, a phwy welodd eich cofnod.

Cewch wybod pa wybodaeth sydd gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau amdanoch drwy gyflwyno ffurflen i wneud 'cais am weld gwybodaeth' (ceir dolen ati isod).

Gofalu am fuddion eich hunaniaeth

Bydd Comisiynydd Hunaniaeth annibynnol yn edrych ar ôl buddion y cyhoedd. Mae'r comisiynydd yn adolygu'r ffordd y mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn gweithio, a sut y defnyddir cardiau adnabod gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'n adrodd yn ôl yn flynyddol ar ei ganfyddiadau.

Yn ogystal, mae paneli cyhoeddus a grŵp arbenigol wedi cael eu creu er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn cael ei graffu'n annibynnol. Bydd y paneli yn gwrando ar farn y cyhoedd cyn penderfynu a yw'r gwasanaeth yn bodloni eu hanghenion. Bydd y grŵp arbenigol yn darparu arbenigedd a chyngor annibynnol.

Diweddaru'ch manylion

Mae'n bwysig eich bod yn diweddaru'ch gwybodaeth ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol. Er enghraifft, os ydych chi'n newid eich enw ar ôl priodi, neu'n newid eich cyfeiriad ar ôl symud tŷ, bydd angen i chi roi gwybod i ni. Ar ôl cadarnhau mai chi yw perchennog cyfreithlon y cofnod hunaniaeth, dylai'r broses o wneud newidiadau fod yn syml.

Dan Ddeddf Cardiau Adnabod 2006, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu cosb sifil o hyd at £1,000 os nad ydych chi'n diweddaru'ch manylion ar y Gofrestr Hunaniaeth Cenedlaethol drwy roi gwybod i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau.

Cewch wybod rhagor am reolau a chosbau cardiau adnabod drwy ddarllen y cod ymarfer sydd wedi'i gymeradwyo gan y Senedd (ceir dolen ato isod).

Cerdyn adnabod ar gyfer dinasyddion tramor

Ym mis Tachwedd 2008, cyhoeddwyd y cardiau adnabod cyntaf ar gyfer dinasyddion tramor i bobl o'r tu allan i Ardal Economaidd Ewrop yr oeddynt wedi cael caniatâd i aros yn y DU am gyfnod hirach fel myfyrwyr, neu ar sail eu priodas, neu eu partneriaeth, gyda dinasyddion y DU.

Ym mis Mawrth 2009, ymestynnwyd y cynllun ar gyfer sawl categori arall o ymgeiswyr fisa.

Bydd pob dinesydd tramor sy'n dod i'r DU yn cael cerdyn o fewn tair blynedd, yn ogystal â'r rheini sy'n aros yn y DU am gyfnod hirach o fwy na chwe mis.

Amcangyfrifir y bydd 90 y cant o'r holl ddinasyddion tramor yn y DU wedi cael cerdyn adnabod erbyn diwedd 2015. Yn ogystal â bod yn ddogfen fewnfudo ar gyfer dinasyddion tramor, bydd y cerdyn yn gadael iddynt brofi eu hawl i fyw yn y DU, ac i weithio, astudio neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus yma.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i gael gwybod pa gategoriau o ymgeiswyr y mae'n ofynnol iddynt gael cardiau adnabod ar hyn o bryd, dilynwch y ddolen isod.

Darparwyd gan the Identity and Passport Service

Allweddumynediad llywodraeth y DU