Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Golwg gyffredinol ar hawliau gofalwyr

Mae 'na rai hawliau penodol sy'n berthnasol i ofalwyr gan gynnwys hawliau cyflogaeth, hawl i asesiad a derbyn taliadau uniongyrchol.

Hawliau gofalwyr i asesiad

Dan Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000, mae gan ofalwyr 16 oed a throsodd sy'n darparu gofal sylweddol a chyson i rywun 18 oed a throsodd hawl i gael asesiad o'u hanghenion fel gofalwr.

Os oes mwy nag un gofalwr yn darparu gofal cyson yn eich cartref, mae gan y ddau ohonoch hawl i gael asesiad.

Ambell waith, efallai fod gan berson 16 neu 17 oed sy'n gofalu am rywun am gyfnod cyfyngedig hawl i gael asesiad. Mae gan y cyngor lleol gyfrifoldeb o hyd i sicrhau lles y gofalwr ifanc a'u bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol.

Os oes gennych gyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl, bydd eich anghenion fel gofalwr yn cael eu hystyried fel rhan o asesiad o anghenion y teulu. Mae gennych hawl i asesiad o anghenion y teulu dan Ddeddf Plant 1989. Does dim rhaid i chi fod yn fam nac yn dad i'r plentyn.

Y Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal)

Daeth y ddeddf i rym yn Ebrill 2005. Mae’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pob gofalwr yn gwybod bod ganddynt hawl i gael asesiad o’u hanghenion, ac i ystyried diddordebau allanol gofalwyr – gwaith, astudiaeth neu hamdden - wrth gynnal asesiad.

Gwasanaethau i ofalwyr

Mae Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 hefyd yn galluogi cynghorau lleol i gynnig cefnogaeth i ofalwyr. Gallant ddarparu unrhyw wasanaethau a fydd, yn eu barn hwy, yn cefnogi'r gofalwr yn ei rôl ofalu a'i helpu i ofalu am ei iechyd a'i les personol ei hun.

Gofalwyr a thaliadau uniongyrchol

Taliadau arian ydy'r taliadau uniongyrchol a roddir yn lle darpariaethau'r gwasanaethau cymdeithasol, i unigolion y mae asesiad wedi dangos bod angen gwasanaethau arnynt.

Gellir gwneud taliadau uniongyrchol i ofalwyr 17 oed a throsodd Ceir rhai amgylchiadau prin lle na roddir taliadau uniongyrchol a gall eich cyngor roi gwybod i chi am y rhain.

Hawliau gofalwyr a chyflogaeth

Dan Ddeddf Cyflogaeth 2002, mae gan rieni plant anabl dan 18 oed, lle mae'r rhieni'n gweithio, hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg. Ers Ebrill 2007, mae gennych hefyd hawl statudol i ofyn eich cyflogwr am weithio hyblyg os ydych yn gofalu am oedolyn sy’n berthynas neu’n byw yn yr un cyfeiriad â chi.

Hefyd, mae gan ofalwyr hawl i gymryd amser o'r gwaith (yn ddi-dâl) ar gyfer dibynyddion os bydd argyfwng yn codi.

Gall dychwelyd i weithio ar ôl bod yn ofalwr gael effaith ar unrhyw fuddion a budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn fel gofalwr. Bydd yr oriau a weithiwch, faint yr ydych yn ei ennill a'ch cynilion yn cael eu hystyried.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU