Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal)

Mae'r Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) yn sicrhau bod gofalwyr yn medru manteisio ar gyfleoedd y bydd pobl heb gyfrifoldebau gofal yn aml yn eu cymryd yn ganiataol, megis gwaith, astudio neu weithgareddau hamdden.

Cyfrifoldebau’r awdurdod lleol o dan y Ddeddf

Daeth y Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) i rym yn Ebrill 2005 a'i bwriad yw darparu sylfaen gref ar gyfer arfer gwell gan gynghorau a'r gwasanaeth iechyd. Bydd yn adeiladu ar ddeddfwriaeth gyfredol a'r gefnogaeth sydd eisoes ar gael ar gyfer gofalwyr trwy:

  • osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau y bydd pob gofalwr yn gwybod bod ganddynt hawl i gael asesiad anghenion
  • gosod dyletswydd ar gynghorau i ystyried diddordebau allanol gofalwr (gwaith, astudiaeth neu hamdden) wrth gynnal asesiad
  • hyrwyddo proses o gydweithio gwell rhwng cynghorau a'r gwasanaeth iechyd i sicrhau y darperir cefnogaeth i ofalwyr mewn modd cydlynol

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU