Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae angen i chi 'roi hysbysiad' a darparu rhywfaint o ddogfennau a gwybodaeth bersonol er mwyn priodi neu ffurfio partneriaeth sifil. Ceir cyfreithiau hefyd ynghylch mewnfudo a'ch statws preswylio.
Mae'n ofyniad cyfreithiol rhoi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil ymlaen llaw. Caiff eich hysbysiad ei arddangos yn gyhoeddus am 15 diwrnod, a gellir caniatáu awdurdodi eich priodas neu'ch partneriaeth sifil ar ôl hyn. Mae pob hysbysiad yn ddilys am flwyddyn, ond os byddwch yn penderfynu newid lleoliad, bydd yn rhaid rhoi hysbysiadau newydd.
Os byddwch yn priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu yn Eglwys Lloegr, nid oes yn rhaid i chi roi hysbysiad priodas fel arfer.
Os ydych yn cynnal priodas sifil neu bartneriaeth sifil, bydd angen i'r ddau neu'r ddwy ohonoch fynd i'ch swyddfa gofrestru leol i roi hysbysiad. Os ydych yn bwriadu cynnal eich priodas neu'ch partneriaeth sifil mewn ardal wahanol, dylech hefyd gysylltu â swyddfa gofrestru leol yn yr ardal honno cyn i chi roi hysbysiad, er mwyn sicrhau y bydd swyddogion ar gael ar y diwrnod.
Mae'n rhaid i'r ddau neu'r ddwy ohonoch roi hysbysiad yn bersonol - ni all neb arall wneud hyn ar eich rhan.
Os ydych yn rhoi hysbysiad yng Nghymru, gallwch wneud hyn yn Saesneg, neu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Os byddwch yn cyflwyno hysbysiad dwyieithog, mae'n rhaid i'r cwpl sy'n cyflwyno'r hysbysiad a'r swyddog fod yn deall Welsh. Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru o leiaf un swyddog neu ddirprwy sy'n siarad Welsh.
Cyn i chi roi hysbysiad, dylech sicrhau eich bod yn gallu bodloni'r cyfreithiau ynghylch preswylio a rheolau mewnfudo.
Mae'n rhaid i'r ddau neu'r ddwy ohonoch fod wedi byw yn yr ardal yr ydych yn dymuno rhoi hysbysiad am o leiaf saith niwrnod llawn, yn syth cyn rhoi hysbysiad.
Er enghraifft, os byddwch yn cyrraedd ddydd Mawrth 1 Ebrill, bydd y cyfnod saith niwrnod yn dechrau ar y diwrnod canlynol, ddydd Mercher 2 Ebrill, a daw i ben ddydd Mawrth 8 Ebrill. Yna gallwch roi hysbysiad ddydd Mercher 9 Mawrth.
Mae hyn yn berthnasol i bawb gan gynnwys y rheini sy'n teithio o dramor ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil yng Nghymru ac yn Lloegr. Rhestrir eithriadau i hyn isod, ond dim ond os bydd y naill barti neu'r llall yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo:
Ar gyfer priodasau:
Ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil
Os ydych chi neu'ch partner yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo, bydd angen un o'r canlynol arnoch er mwyn rhoi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil:
Bydd angen i chi hefyd roi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil yn un o'r 76 o swyddfeydd cofrestru dynodedig yng Nghymru ac yn Lloegr. Bydd angen i chi fynd i'r swyddfa gofrestru gyda'ch gilydd.
Nid ydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo os oes gennych yr hawl i breswylio yn y DU, neu os ydych yn un o'r canlynol:
Mae angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
Gofynnir i chi am dystiolaeth ddogfennol gyda rhywfaint o'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu, er enghraifft eich cenedligrwydd, felly fe'ch cynghorir i fynd â'ch pasport gyda chi. Bydd angen i chi hefyd roi tystiolaeth o unrhyw briodas neu bartneriaeth sifil flaenorol.
Os ydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol i gadarnhau eich bod yn bodloni'r gofynion cymhwyso.
Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.