Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os hoffech gael seremoni priodas grefyddol, gallwch briodi mewn eglwys Anglicanaidd neu mewn unrhyw adeilad crefyddol arall sydd wedi'i gofrestru ar gyfer priodasau yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfer priodasau sifil neu bartneriaethau sifil, gallwch fynd i swyddfa gofrestru neu leoliad cymeradwy.
Os hoffech briodi yn Eglwys Cymru neu yn Eglwys Lloegr, dylech siarad â ficer yr eglwys yr hoffech briodi ynddi. Fel arfer, nid oes angen i chi gynnwys eich swyddfa gofrestru leol.
Os ydych yn dymuno cael seremoni grefyddol mewn rhywle arall ar wahân i'r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Lloegr, dylech wneud y canlynol fel arfer:
Bydd angen i chi ddod ag o leiaf dau o bobl eraill gyda chi er mwyn iddynt lofnodi eu bod yn dyst i'ch priodas.
I gael mwy o wybodaeth am gyflwyno hysbysiad, darllenwch yr erthygl ar Briodas a phartneriaeth sifil: eich dyletswyddau cyfreithiol isod
Gellir cynnal seremoni priodas sifil neu bartneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru neu yn Lloegr, neu mewn unrhyw leoliad a gymeradwyir gan yr awdurdod lleol. Mae'r rhain yn cynnwys plastai ac adeiladau mawreddog eraill, gwestai a thai bwyta.
Bydd angen i chi roi rhybudd ffurfiol o'r briodas neu'r bartneriaeth sifil i ddechrau.
Ar ddiwrnod eich priodas neu'ch partneriaeth sifil, bydd angen i chi ddod ag o leiaf dau berson arall gyda chi a all lofnodi eu bod yn dyst i'ch priodas.
Ni cheir defnyddio dim cynnwys crefyddol mewn seremoni priodas sifil, ond mae'n bosib y cewch drefnu i ychwanegu cyffyrddiadau personol megis cerddoriaeth nad yw'n grefyddol at y geiriad cyfreithiol, ac y cewch ffilmio'r seremoni. Bydd y swyddfa gofrestru lle'r ydych yn bwriadu priodi yn gallu rhoi gwybod mwy i chi am y dewisiadau sydd ar gael.
Caiff Partneriaeth Sifil ei ffurfio'n gyfreithlon drwy lofnodi cofrestr partneriaeth sifil. Yn yr un modd â phriodas sifil, bydd hon hefyd yn ddi-grefydd, ond dylai cyplau sy'n dymuno trefnu seremoni drafod hyn gyda swyddogion y swyddfa gofrestru.
Priodasau a phartneriaethau sifil Welsh
Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil yn Gymraeg yn unrhyw le caiff y Gymraeg ei defnyddio'n gyffredinol. Dylech chi, eich tystion a phwy bynnag sy'n cynnal y briodas fod yn deall yr hyn a ddywedir. Nid oes yn rhaid i chi roi rhybudd yn Gymraeg.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch priodi neu ffurfio partneriaeth sifil dramor, dylech gysylltu â Llysgenhadaeth neu Uchel Gomisiwn y wlad dan sylw. Efallai y gofynnir i chi am 'dystysgrif dim rhwystr'. Mae'n rhaid i rai awdurdodau tramor gael y ddogfen hon er mwyn galluogi pobl nad ydynt yn frodorion i briodi yn eu gwlad. Os gofynnir i chi am dystysgrif, cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru leol gan ddefnyddio'r teclyn canfod Swyddfa Gofrestru Leol isod.
Os gofynnir i chi ddarparu 'Apostille', sef cadarnhad ffurfiol bod llofnod, sêl neu stamp sy'n ymddangos ar ddogfen yn ddilys, cysylltwch â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar +44 (0)20 7008 1111.
Beth y mae angen i chi ei wneud | Cost |
---|---|
Rhoi rhybudd cyn cofrestru priodas neu bartneriaeth sifil | £30.00 y pen |
Cofrestru priodas neu bartneriaeth sifil mewn swyddfa gofrestru | £40.00 |
Cofrestru priodas neu bartneriaeth sifil mewn lleoliad cymeradwy | Yr awdurdod lleol sy'n pennu'r gost o gynnal seremoni gan yr uwcharolygydd cofrestru. Mae'n debygol y codir tâl ychwanegol gan berchnogion yr adeilad am gael ei ddefnyddio. |
Cost seremoni grefyddol yn yr Eglwys yng Nghymru neu yn Eglwys Lloegr | Holwch ficer yr eglwys yr ydych yn bwriadu priodi ynddi i gael gwybod am y ffioedd. |
Cost seremoni grefyddol mewn adeilad ar wahân i'r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Lloegr | Os nad oes gan yr adeilad Unigolyn Awdurdodedig, bydd ffi o £47.00 am y cofrestrydd. Mae'n bosib y codir ffioedd ychwanegol gan ymddiriedolwyr yr adeilad a'r unigolyn sy'n perfformio'r seremoni. |
Cost tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil ar y diwrnod | £3.50 |
Gallwch archebu rhagor o gopïau o'ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil unrhyw bryd yn y dyfodol, naill ai drwy eich swyddfa gofrestru leol, yn bersonol, drwy'r post, dros ffacs neu ar-lein.
Ni chodir tâl am gywiro cofnod o'ch priodas neu bartneriaeth sifil. Os gwelwch fod camgymeriad ar eich tystysgrif, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol:
Ffôn: +44 (0) 151 471 4814 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 5pm)
Drwy'r post: Priodasau a Phartneriaethau Sifil/Marriages & Civil Partnerships, y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol/General Register Office, Trafalgar Road, Southport, PR8 2HH
E-bost:
marriages.gro@ips.gsi.gov.uk
civilpartnerships.gro@ips.gsi.gov.uk
Ffacs: +44 (0) 1633 652975
Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol drwy ddefnyddio'r dolenni isod.