Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru priodas neu bartneriaeth sifil dramor

Chewch chi ddim cofrestru seremoni dramor mewn swyddfa gofrestru. Fodd bynnag, cewch wneud cais i'ch dogfennau gael eu hanfon o'r wlad berthnasol i'w cyflwyno i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Yna, bydd yn haws i chi gael copïau o gofnod eich priodas neu gofnod eich partneriaeth sifil.

Beth y mae angen i chi ei wneud

Gallwch greu cofnod o'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil dramor unrhyw adeg ar ôl y seremoni. Bydd angen i chi gael y dogfennau gwreiddiol, neu gopïau ardystiedig, gan yr awdurdod tramor – nid yw hon yn broses awtomatig.

I greu'r cofnod:

  • rhaid bod eich priodas neu'ch partneriaeth sifil wedi digwydd yn un o'r gwledydd a enwir yn y ddogfen PDF isod
  • rhaid bod un ohonoch yn ddinesydd Prydeinig - dim ond y person hwnnw gaiff wneud cais am gyflwyno'r manylion

Dim ond is-gennad y rhanbarth lle cynhaliwyd y briodas gaiff anfon y dogfennau i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, ac ni fydd y Swyddfa'n rhyddhau dogfennau gwreiddiol unwaith maent wedi cael eu cyflwyno.

Cewch gadarnhad pan fydd y dogfennau wedi cael eu cyflwyno i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Bydd priodasau a phartneriaethau sifil tramor yn cael eu cofnodi yn y mynegeion cyhoeddus.

Cael copi o'ch cofnod priodas neu'ch cofnod partneriaeth sifil dramor

Ar ôl iddynt gael eu cofnodi, gallwch ofyn am gopïau ardystiedig o'r dogfennau, felly ni fydd yn rhaid i chi gysylltu â'r awdurdod tramor. Llungopïau du a gwyn o'r deunyddiau sydd ym meddiant y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yw'r rhain, ac ni fyddant yn cael eu rhoi ar ffurf tystysgrif Brydeinig. Rhoddir llungopïau dan sêl y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ac fe'u derbynnir fel arfer fel tystiolaeth swyddogol o'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfreithloni dogfennau, cysylltwch â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Os oes angen unrhyw wybodaeth arall arnoch am briodi neu ffurfio partneriaeth sifil dramor, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Cysylltu â Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Cymru a Lloegr

marriages.gro@ips.gsi.gov.uk

civilpartnerships.gro@ips.gsi.gov.uk

Priodasau a Phartneriaethau Sifil, Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol/General Register Office, Trafalgar Road, Southport, PR8 2HH
Ffôn: +44 (0) 151 471 4803 - rhwng 9.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener
Ffacs: +44 (0) 151 471 4523

Ar gyfer digwyddiadau sydd wedi'u cofrestru yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU