Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael copi o ysgariad neu ddiddymiad

Os ydych wedi bod yn briod neu wedi cofrestru partneriaeth sifil o'r blaen, bydd angen tystiolaeth arnoch i brofi eich bod yn awr yn rhydd i briodi neu i ffurfio partneriaeth sifil eto.

Tystiolaeth o ysgariad neu ddiddymiad

Mae tystiolaeth o ysgariad neu ddiddymiad yn cynnwys y canlynol:

  • dyfarniad absoliwt ysgariad neu orchymyn terfynol diddymu partneriaeth sifil gyda stamp gwreiddiol y llys arno
  • tystysgrif marwolaeth eich cyn ŵr, eich cyn wraig neu'ch cyn bartner sifil

Os oes arnoch angen copi o ddyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol diddymu partneriaeth sifil, gallwch gysylltu â'r llys lle rhoddwyd yr ysgariad neu'r diddymiad, neu â:

Prif Gofrestrfa’r Adran Deulu, First Avenue House, 42 - 49 High Holborn, Llundain, WC1V 6NP.
+44 (0) 7947 6000

Gallwch hefyd ffonio +44 (0) 20 7947 7016 i gael pecyn gwybodaeth.

Bydd angen i chi gael y dogfennau gwreiddiol - ni dderbynnir llungopïau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU