Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Trwyddedau

Pa fath o drwydded yr ydych yn chwilio amdani? Darllenwch y manylion isod am drwyddedau gyrru, trwyddedau hapchwarae, trwyddedau priodas, a mwy.

Trwyddedau gyrru

Gwybodaeth am drwyddedu gyrwyr gan y DVLA - cael trwydded newydd neu ddiweddaru trwydded, beth gewch chi ei yrru, ardystiadau a chymwysterau, rheolau meddygol a mwy.

Mae'r DVLA wedi cyflwyno gwasanaeth diogel lle gallwch wneud cais ar-lein am drwydded newydd neu ddiweddaru eich trwydded. Gallwch wneud y canlynol:

  • gwneud cais am eich trwydded dros dro gyntaf
  • newid manylion eich cyfeiriad
  • cyfnewid eich trwydded bapur am drwydded cerdyn-llun
  • cael trwydded newydd os yw'ch trwydded ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difwyno
  • adnewyddu eich trwydded os ydych chi'n 70 oed neu'n hŷn
  • gweld neu argraffu eich cais presennol
  • gweld y manylion sydd ar eich trwydded

Trwyddedau eiddo

Ers 6 Ebrill 2006 mae angen trwyddedu eiddo a elwir yn 'Dai Amlfeddiannaeth'.

Trwyddedu alcohol

Cyflwynodd Deddf Trwyddedu 2003 fathau newydd o drwydded a newidiodd y ffordd y rheolir trwyddedau alcohol.

Trwyddedu gynnau a drylliau

Gwybodaeth am drwyddedu gynnau, gan gynnwys sut i wneud cais am dystysgrif gynnau/drylliau pelets ar Gronfa Ddata Gyfreithiol Genedlaethol yr Heddlu.

Trwyddedau bysgio

Nid yw bysgio ynddo'i hun yn anghyfreithlon, er bod llawer o awdurdodau lleol wedi pasio isddeddfau yn gwahardd bysgio. Os ydych am fysgio byddai'n ddefnyddiol cysylltu â'ch cyngor lleol i weld a oes unrhyw isgyfreithiau wedi'u pasio yng nghyswllt bysgio. Ni chaniateir i blant o dan 14 oed fysgio.

Trwyddedau priodas

Gwybodaeth am briodi, cyd-fyw, partneriaethau sifil (ar gyfer cyplau o'r un rhyw) ac ysgaru.

Trwyddedau hapchwarae

Mae'r Comisiwn Hapchwarae yn rheoleiddio hapchwarae er budd y cyhoedd drwy atal troseddau mewn hapchwarae, a sicrhau bod hapchwarae'n digwydd yn agored ac yn deg, a thrwy ddiogelu plant a phobl agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan hapchwarae.

Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am reoleiddio betio (ar y cwrs ac oddi arno), casinos, neuaddau bingo, peiriannau gemau, loterïau a hapchwarae o bell.

Nid yw'r Comisiwn yn gyfrifol am reoli betio eang na'r Loteri Genedlaethol - yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol a'r Comisiwn Loteri Cenedlaethol ar y cyd sy'n gyfrifol am y rhain.

Allweddumynediad llywodraeth y DU