Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Priodasau mwy gwyrdd

Gallwch wneud gwahaniaeth ar ddydd eich priodas drwy ddewis eich lleoliad yn ofalus, gan ystyried dewisiadau trafnidiaeth ar gyfer eich gwesteion a dewis bwyd a diod sydd wedi’u cynhyrchu mewn ffordd sy’n garedig at yr amgylchedd.

Modrwyau priodas a dyweddïo

Mae cloddio am aur a gemfeini’n defnyddio llawer o ynni a dŵr, a gall hyn achosi niwed i’r amgylchedd. Gall eich dewisiadau chi wneud gwahaniaeth.

Hen fodrwyau a modrwyau wedi’u hailgylchu

Mae dewis hen fodrwy’n arbed defnyddio deunyddiau newydd. Chwiliwch am ocsiynau ac arwerthiannau ystad, neu ewch i farchnadoedd hen greiriau lleol, siopau gemwaith, siopau gwystl neu safleoedd ocsiwn ar-lein.

Gallwch hefyd brynu modrwyau sydd wedi’u creu o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Gall rhai cwmnïau hyd yn oed wneud modrwyau drwy doddi gemwaith nad oes eu hangen arnoch rhagor: chwiliwch ar-lein am ‘fodrwyau priodas wedi’u hailgylchu’.

Modrwyau masnach deg a moesegol

Mae dewis aur ac arian Masnach Deg yn golygu eich bod yn cefnogi cwmnïau sy’n trin eu gweithwyr yn deg. Gallwch hefyd ddewis diemwntau sydd heb gyfrannu at wrthdaro yn y man lle cawsant eu cloddio.

Gwahoddiadau priodas

Gwahoddiadau dros yr e-bost

Mae e-bostio eich gwahoddiadau yn arbed adnoddau ac ynni. Mae rhai gwefannau’n anfon gwahoddiadau electronig am ddim ac yn olrhain yr ymatebion. Dylech sicrhau bod pobl wedi derbyn y gwahoddiadau, rhag ofn iddynt gael eu hanfon i flwch negeseuon sothach y derbynyddion.

Gwahoddiadau drwy’r post

Gallwch wneud gwahoddiadau drwy’r post yn fwy gwyrdd drwy wneud y canlynol:

  • defnyddio papur sydd wedi’i ailgylchu o goedwigoedd cynaliadwy (edrychwch ar y ddolen isod)
  • gofyn i westeion ymateb dros yr e-bost
  • rhoi manylion y digwyddiad ar wefan fel nad oes angen i’r gwesteion argraffu gwybodaeth

Anrhegion priodas mwy gwyrdd

Ceir rhestrau o anrhegion ar-lein sy’n cynnig eitemau eco-gyfeillgar, neu gallech ddewis rhestr o gwmni sydd ag egwyddorion amgylcheddol cymeradwy.

Os oes gennych bopeth y mae eu hangen arnoch, ystyriwch osgoi cael anrhegion nad oes eu hangen arnoch drwy:

  • gael rhestr o anrhegion ‘moesegol’, gydag anrhegion sydd o fudd i bobl eraill, fel dŵr yfed diogel neu rwydi mosgito
  • gofyn i westeion gyfrannu at eich hoff elusen

Mae llawer o wefannau anrhegion sy’n cynnig anrhegion moesegol neu amgylcheddol; gallwch chwilio amdanynt ar-lein.

Dillad priodas

Caiff llawer o ddeunyddiau ac adnoddau eu defnyddio i wneud dillad priodas, ond dim ond unwaith y caiff llawer o’r dillad eu gwisgo. Mae llawer o ffyrdd o fod yn fwy gwyrdd.

Prynwch ddillad y gallwch eu gwisgo eto

Ystyriwch brynu ffrogiau morwynion priodas y gallant eu gwisgo ar ôl y briodas, neu rhowch y dewis iddynt wisgo eu hoff wisgoedd. Gallech wneud yr un fath ar gyfer gwisg y briodferch hefyd.

Ystyriwch ffrog briodas ail-law

Mae’n hawdd cael gafael ar ffrogiau priodas ail-law a gellir eu haddasu i’ch ffitio chi. Gallech roi cynnig ar y canlynol:

  • ocsiwn ar-lein neu wefannau arbenigol (chwiliwch ar-lein am ‘ffrogiau priodas ail-law’)
  • siopau hen bethau neu siopau elusen
  • ffeiriau ffasiwn hen greiriau

Gallech hefyd ystyried:

  • dewis deunyddiau organig a Masnach Deg ar gyfer ffrog newydd, a lleihau eich allyriadau trafnidiaeth drwy ddefnyddio gwniadwraig leol
  • llogi gwisgoedd priodas
  • gwerthu neu roi eich ffrog yn rhodd ar ôl y briodas fel y gellir ei defnyddio eto

Lleoliadau ar gyfer y seremoni a’r derbyniad

Gall dewis lleoliad sy’n lleihau’r pellter y mae’n rhaid i bobl ei deithio wneud eich priodas yn fwy gwyrdd. Dylech ystyried y canlynol:

  • dewis lleoliad yn agos i lle mae’r rhan fwyaf o’ch gwesteion yn byw
  • cadw’r seremoni a’r derbyniad yn agos at ei gilydd neu yn yr un adeilad
  • dod o hyd i rywle sy’n hwylus o ran trafnidiaeth gyhoeddus
  • chwilio am leoliadau a all ddarparu llety ar gyfer eich holl westeion, fel meysydd gwersylla neu hostelau ieuenctid

Dyma bethau eraill y gallech chwilio amdanynt:

  • lleoliadau sydd â pholisïau amgylcheddol – er enghraifft, eu bod yn ailgylchu gwastraff ac yn ceisio arbed ynni
  • lleoliadau sy’n gweini bwyd o ffynonellau lleol, tymhorol neu gynaliadwy
  • lleoliadau sy’n cefnogi achosion amgylcheddol, fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwarchodfeydd natur, coedwigoedd neu barciau

Teithio i briodas

Er mwyn lleihau allyriadau wrth deithio i briodas, ystyriwch:

  • ofyn i westeion rannu ceir a threfnu bws i fynd o un lleoliad i’r llall
  • annog gwesteion i wrthbwyso carbon eu teithiau hedfan – neu gynnig talu am hynny eich hun
  • cynnwys manylion trafnidiaeth gyhoeddus yn eich gwahoddiadau
  • cyrraedd y briodas mewn cert sy’n cael ei dynnu gan geffyl, tandem, rickshaw neu ar droed

Blodau ac addurniadau

Caiff llawer o flodau a ddefnyddir mewn priodasau eu hedfan i mewn i’r wlad neu eu tyfu mewn tai gwydr sy’n defnyddio llawer o ynni. Dylech ystyried y canlynol:

  • defnyddio blodau gwyllt tymhorol – neu ddewis planhigion mewn potiau a’u rhoi i westeion ar ôl y briodas
  • ailddefnyddio blodau o’r seremoni neu’r cinio ymarfer yn y derbyniad
  • defnyddio cerrig neu gregyn i angori blodau yn hytrach na sbwng blodau, nad oes modd ei ailddefnyddio na’i ailgylchu
  • benthyg ffiolau, goleuadau ac addurniadau o’r lleoliad – neu eu prynu o siopau elusen
  • dewis addurniadau y gellir eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu addurniadau ail-law (mae gwefannau ocsiwn ar-lein yn ffynonellau da)

Bwyd a diod

Gall ychydig o ddewisiadau syml wneud gwahaniaeth:

  • chwiliwch am fwyd a diod tymhorol, lleol – erbyn hyn mae modd prynu gwinoedd, cwrw a suddion ffrwythau Prydeinig
  • ystyriwch ddewisiadau organig a Masnach Deg: mae te a choffi yn ddewisiadau hawdd
  • rhowch y bwyd sydd ar ôl mewn cynhwysyddion y gellir eu hailddefnyddio a’u rhoi i’r gwesteion fynd â nhw adref gyda nhw
  • dylech osgoi platiau a chyllyll a ffyrc y gellir eu taflu, ac ailgylchu popeth sy’n bosibl

Conffeti a dewisiadau eraill

Gwnewch eich conffeti’n wyrdd drwy osgoi defnyddio ffoil sydd ddim yn pydru, neu gonffeti papur sy’n cynnwys cannydd a lliwiau artiffisial. Yn hytrach, gallai gwesteion daflu conffeti sy’n pydru, petalau wedi’u casglu o erddi ffrindiau a theuluoedd neu hyd yn oed hadau adar.

Mis mêl mwy gwyrdd

Ewch i ‘Gwyliau: dewisiadau mwy gwyrdd’ i weld ffyrdd y gallwch wneud eich mis mêl yn fwy gwyrdd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU