Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Nadolig mwy gwyrdd

Gallwch wneud amryw o bethau cyn ac ar ôl y Nadolig er mwyn dathlu mewn ffordd fwy gwyrdd. O ailgylchu eich coeden i anfon e-gardiau, gall dewisiadau syml arbed arian i chi a helpu'r blaned.

Coed Nadolig

Ceisiwch brynu coeden Nadolig a dyfwyd yn lleol.

Os byddwch yn dewis coeden Nadolig go iawn eleni:

  • ceisiwch ddod o hyd i un a dyfwyd mewn ffordd gynaliadwy yn y DU – holwch eich adwerthwr neu edrychwch ar y rhestr isod
  • yn ddelfrydol, ceisiwch brynu coeden a dyfwyd yn lleol
  • os oes gennych ardd, ystyriwch gael coeden fyw gyda gwreiddiau mewn pot – gallwch ei phlannu yn eich gardd ar ôl y Nadolig a'i hailddefnyddio'r flwyddyn ganlynol

Mae ar goed artiffisial angen mwy o ynni ac adnoddau i'w cynhyrchu, ac ni ellir eu hailgylchu gan amlaf. Fodd bynnag, gallent fod yn opsiwn os byddech fel arall yn gyrru'n bell i nôl coeden bob blwyddyn, neu os na fyddech yn gallu ei hailgylchu. Caiff coed artiffisial eu llunio i bara, felly gwnewch eich un chi yn fwy gwyrdd drwy ddal gafael arni cyhyd â phosib.

Anrhegion mwy gwyrdd

Mae’n hawdd gwneud eich anrhegion yn fwy gwyrdd:

  • os ydych yn prynu nwyddau trydanol, ceisiwch ddewis y rheini sy’n gallu rhedeg ar y prif gyflenwad ac sydd â label Energy Saving Recommended – byddwch yn arbed ynni ac arian i’r sawl a fydd yn cael yr anrheg hefyd
  • yn hytrach na phrynu eitem, prynwch brofiad arbennig fel tocynnau i'r theatr neu anrheg foesol megis acer o fforest law
  • ceisiwch brynu anrhegion a wnaed o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu ac y mae’n bosib eu hailgylchu, a chwiliwch am nwyddau tebyg Masnach Deg
  • os ydych yn prynu ar gyfer grŵp mawr o bobl, gallech leihau nifer yr anrhegion drwy drefnu bod pawb yn rhoi eu henwau mewn het ac yna’n dewis enw un unigolyn o'r het i brynu anrheg iddo, gan gadw at y swm y cytunwyd arno
  • does dim rhaid i anrhegion fod yn newydd sbon bob amser – mae gan siopau elusen amrywiaeth eang o anrhegion, o ddillad a llyfrau i gerddoriaeth a gemwaith

Cardiau Nadolig a phapur lapio

Beth am anfon e-gardiau yn hytrach na chardiau papur eleni?

Gallwch leihau effaith cardiau a phapur mewn amryw o ffyrdd syml:

  • ystyriwch anfon e-gardiau yn hytrach na chardiau papur
  • prynwch bapur lapio a chardiau wedi’u hailgylchu mewn siopau sy'n rhoi cyfran o'r elw i achosion elusennol neu i gynlluniau gwyrdd
  • clymwch anrhegion gyda rhuban neu gortyn yn hytrach na defnyddio tap selo er mwyn ei gwneud yn haws ailddefnyddio’r papur lapio'r flwyddyn nesaf
  • gallwch wneud tagiau anrheg drwy ddefnyddio hen gardiau cyfarch, a gellir lapio anrhegion gan ddefnyddio unrhyw fath o bapur anghyffredin, neu hyd yn oed hen gylchgronau a phapurau newydd

Addurniadau a goleuadau

Bydd addurniadau naturiol fel celyn ac uchelwydd yn creu awyrgylch Nadoligaidd mwy traddodiadol, a gellir eu compostio ar ôl hynny. Gallech wneud y canlynol hefyd:

  • dewis siocled, addurniadau coed Nadolig neu Galendr Adfent Masnach Deg
  • prynu goleuadau Nadolig a wnaed gyda deuodau sy’n allyrru golau (LEDs) – mae’r rhain yn para'n hirach a hyd at 90 y cant yn fwy effeithlon na goleuadau traddodiadol

Bwyd a diod y Nadolig

Mae logo’r Cyngor Stiwardiaeth Forol yn dweud wrthych fod y pysgod wedi dod o bysgodfeydd cynaliadwy.

Gallwch arbed arian a gwastraffu llai o fwyd er mwyn cael Nadolig mwy gwyrdd drwy wneud y canlynol:

  • peidio â phrynu mwy o fwyd nag y mae ei angen arnoch
  • ceisio prynu bwyd lleol tymhorol – ym mis Rhagfyr, mae'r bwyd tymhorol yn cynnwys ysgewyll (sbrowts), pwmpen, pannas a bresych coch
  • chwilio am fwyd sydd â labeli organig, LEAF neu MSC, sy'n dweud wrthych i’r bwyd gael ei gynhyrchu mewn ffordd sy’n garedig wrth yr amgylchedd
  • defnyddio unrhyw fwyd a diod sydd dros ben
  • compostio croen llysiau, bagiau te a hyd yn oed bocsys wyau

Arbed ynni dros y Nadolig

Drwy ddilyn ychydig o gamau syml, gallwch ddefnyddio llai o ynni a lleihau’ch biliau tanwydd dros y Nadolig:

  • diffoddwch eich goleuadau Nadolig yn ystod y dydd a phan fyddwch yn mynd i’r gwely
  • gwnewch yn siŵr fod eich peiriant golchi llestri yn llawn dop o sosbenni a phedyll cyn ei ddefnyddio – mae hanner llwyth yn defnyddio llawer mwy na hanner yr ynni a’r dŵr a ddefnyddir mewn llwyth llawn
  • mae’r ‘rheolau’ gwyrdd arferol ar gyfer arbed ynni yn berthnasol dros y Nadolig: diffoddwch oleuadau diangen, peidiwch â gadael peiriannau yn y modd segur, a gofynnwch am fylbiau golau rhad-ar-ynni gan Siôn Corn

Ailgylchu ar ôl y Nadolig

Gallwch ailgylchu coed Nadolig, cardiau, papur lapio a hyd yn oed anrhegion nad oes arnoch eu heisiau.

Mae ailgylchu yn ffordd wych o arbed ynni a gwarchod yr amgylchedd:

  • os na allwch ailblannu eich coeden Nadolig, holwch a yw’ch cyngor lleol yn fodlon ei hailgylchu
  • rhowch anrhegion nad oes arnoch eu heisiau i siop elusen neu fudiad fel Freecycle
  • ailgylchwch eich cardiau Nadolig – mae cynlluniau fel rhai Coed Cadw (The Woodland Trust) yn defnyddio’r elw i blannu miloedd o goed
  • peidiwch ag anghofio ailgylchu papur lapio, amlenni, deunydd pacio a stampiau hyd yn oed (holwch eich hoff elusen neu ewch â nhw i’ch siop Oxfam agosaf)
  • cofiwch waredu batris yn y ffordd briodol – gofynnwch i’ch cyngor lleol a oes ganddynt gynllun ailgylchu neu ewch â nhw i’ch safle cyfleuster dinesig lleol (canolfan gwastraff ac ailgylchu)

Additional links

Gwybodaeth a gwasanaethau pasbort ar Cross & Stitch

Mae Cross & Stitch yn awr yn gartref i wasanaethau pasbortau i ddinasyddion y DU. Dilynwch y ddolen isod naill ai os ydych am wneud cais heddiw neu gael gwybod mwy yn unig

Allweddumynediad llywodraeth y DU