Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Angladdau mwy gwyrdd

Os ydych chi'n trefnu angladd, mae'n bosib yr hoffech feddwl am ffyrdd o leihau ei effaith ar yr amgylchedd. Mae sawl peth y gallwch ei wneud; peidio â gwasgaru'r llwch mewn ardaloedd sensitif o safbwynt ecolegol, dewis arch yn ofalus a cheisio defnyddio deunyddiau pydradwy – mae’r rhain i gyd yn help.

Amlosgi mwy gwyrdd

Mae saith deg y cant o'r bobl ym Mhrydain yn dewis cael eu hamlosgi. Gallwch helpu i amlosgi mewn ffordd sy’n fwy caredig i'r amgylchedd drwy wneud y canlynol:

  • defnyddio dillad a wneir o ffibrau naturiol, sy'n rhyddhau llai o allyriadau na ffabrigau artiffisial
  • peidio â rhoi esgidiau, plastig na metel yn yr arch
  • dewis arch yn ofalus (gweler 'Arch fwy gwyrdd' isod)
  • ystyried defnyddio amdói a wnaed o ffibr naturiol yn hytrach nag arch – bydd rhai amlosgfeydd yn caniatáu hyn os nad yw'n peryglu iechyd a diogelwch pobl

Gwasgaru'r llwch

Ceisiwch beidio â gwasgaru'r llwch ar gopa mynyddoedd, gan y gall effeithio ar fywyd planhigion

Mae rhai pobl yn dymuno gwasgaru'r llwch mewn llefydd sy’n golygu rhywbeth iddynt. Mae’n dal yn bosib i chi wneud hyn gan helpu i warchod yr amgylchedd yr un pryd:

  • os ydych yn gwasgaru'r llwch dros dir, peidiwch â gwneud hynny ar gopa mynyddoedd, gan y gall y llwch effeithio ar fywyd planhigion
  • os byddwch yn gwasgaru'r llwch dros ddŵr ni fydd hynny'n cael llawer o effaith ar ansawdd y dŵr, ond mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd ganllawiau y gallwch eu dilyn – gweler y ddolen isod
  • gallai eitemau personol a thorchau gynnwys darnau plastig a metel a all niweidio bywyd gwyllt – ceisiwch beidio â rhoi'r rhain yn y dŵr na'u gadael ar lan y dŵr lle gallent syrthio i'r dŵr
  • os ydych yn claddu'r llwch, ystyriwch ddefnyddio cynhwysydd a fydd yn pydru'n naturiol

Dulliau claddu traddodiadol mwy gwyrdd

Os hoffech leihau effaith claddu ar yr amgylchedd, gallech ystyried:

  • gofyn i'ch trefnydd angladdau – os ydych yn defnyddio un – am gyngor ar sut i wneud yr angladd yn fwy gwyrdd
  • defnyddio blodau lleol neu eich blodau eich hun i addurno glan y bedd a'r arch
  • osgoi eitemau plastig na fyddant yn pydru
  • dewis arch yn ofalus (gweler 'Arch fwy gwyrdd' isod)

Arch fwy gwyrdd

Chwiliwch am arch a wnaed o ffynhonnell gynaliadwy

Os hoffech ddefnyddio arch fwy gwyrdd ar gyfer claddu neu amlosgi, gallech ystyried:

  • chwilio am arch a wnaed o ffynhonnell gynaliadwy – gall labeli sefydliadau megis y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC) neu gynlluniau'r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) ddweud hyn wrthych
  • ceisiwch osgoi defnyddio deunyddiau nad ydynt yn pydru fel plastig a metel, yn ogystal â farneisiau a phaent gwenwynig – gall y rhain i gyd greu allyriadau wrth amlosgi
  • os byddwch yn dewis arch gardfwrdd, gwnewch yn siŵr ei bod wedi'i gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu

Eneinio a’r amgylchedd

Mae rhai pobl yn dewis eneinio (a elwir hefyd yn 'driniaeth hylan') i gadw'r corff rhag pydru os bydd teulu a ffrindiau yn dewis gweld y corff. Wrth eneinio, mae rhai o'r cemegau a ddefnyddir - megis fformaldehyd - yn wenwynig. Dyma rai pethau efallai yr hoffech eu hystyried:

  • mae rhai parlyrau angladd yn cynnig rhoi'r corff mewn oergell yn hytrach na’i eneinio
  • nid yw eneinio'r corff yn ofyniad cyfreithiol yn y DU, felly os nad ydych am weld y corff mae'n bosib na fyddwch yn teimlo bod angen eneinio'r corff

Claddu naturiol neu mewn coedlan

Mae claddu naturiol yn golygu claddu ar dir glas neu safle claddu mewn coedlan. Caiff pobl eu claddu, heb gael eu heneinio, mewn arch a wnaed o ddeunyddiau pydradwy megis pren heb ei drin, gwiail, bambŵ neu gardfwrdd. Weithiau caiff amdói a wneir o gotwm neu wlân eu defnyddio yn hytrach nag arch.

Yn hytrach na defnyddio carreg fedd i ddynodi bedd, weithiau gellir defnyddio carreg fechan neu blac pren ar y llawr neu blannu coeden dros y bedd neu gerllaw.

Teithio i angladd ac oddi yno

Petaech yn llogi cerbyd cymunedol ac yn trefnu man casglu canolog, byddai hyn yn galluogi pobl i deithio gyda'i gilydd i'r angladd neu’r wylnos. Gall pobl gael cysur o fod mewn grŵp a threulio mwy o amser gyda'i gilydd. Gall hefyd leihau nifer y ceir a gaiff eu gyrru i'r angladd, a fydd felly'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Trefnu eich angladd gwyrdd eich hun

Drwy gynllunio ymlaen llaw cewch amser i ymchwilio i'r holl opsiynau ar gyfer cael angladd mwy gwyrdd. Ystyriwch roi copïau ysgrifenedig o'ch dymuniadau i aelodau o'ch teulu a'ch cyfreithiwr, yn hytrach na datgan eich dymuniadau yn eich ewyllys; yn aml, ni chaiff ewyllys ei darllen tan ar ôl yr angladd.

Yn ogystal â'r syniadau yn yr erthygl hon, gallech ystyried:

  • gofyn i bobl wneud cyfraniad i elusen yn hytrach na phrynu blodau
  • plannu coeden fel cofeb

Y mater ehangach

Mae claddu ac amlosgi yn defnyddio adnoddau ac ynni. Mae arch yn cael eu creu a'u hanfon ar draws pellteroedd maith weithiau, a gellir eu creu gyda phren o ddeunyddiau anghynaladwy. Mae amlosgi yn defnyddio llawer o ynni, a gall ryddhau llygryddion i'r atmosffer

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU