Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwyliau cyfnodrannu - eich hawliau


Gyda gwyliau cyfnodrannu, byddwch fel arfer yn talu cyfandaliad ymlaen llaw am yr hawl i aros mewn llety o'r un safon bob blwyddyn. Mynnwch wybod beth i'w ddisgwyl gan eich gwerthwr, pa ddogfennau y dylai eu rhoi i chi a'ch hawl i ganslo.

Sut mae gwyliau cyfnodrannu yn gweithio

Gyda gwyliau cyfnodrannu, byddwch yn prynu cyfran mewn eiddo dramor am gyfnod penodol bob blwyddyn.

Byddwch fel arfer yn talu cyfandaliad untro ar gyfer nifer yr wythnosau rydych am eu treulio yn eich eiddo cyfnodrannu. Bydd rhai wythnosau e.e. yn ystod gwyliau'r ysgol, yn ddrutach nag eraill.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn talu £10,000 er mwyn prynu wythnos gyntaf mis Ebrill mewn fflat un ystafell wely yn Tenerife.

Bydd gennych hawl i ddefnyddio bob wythnos rydych wedi'i phrynu am nifer benodol o flynyddoedd e.e. 20 mlynedd.

Ar ben y cyfandaliad, bydd hefyd yn rhaid i chi dalu:

  • taliadau cynnal a chadw bob blwyddyn ar gyfer eich eiddo cyfnodrannu
  • yr holl gostau teithio eraill, e.e. hediadau a llogi car

Os na allwch fynd ar eich gwyliau yn ystod y dyddiadau rydych wedi talu amdanynt, efallai y gallwch gronni'r amser fel y gallwch ei ddefnyddio'n ddiweddarach. Codir ffi am hyn.

Prynu gwyliau cyfnodrannu - eich hawliau

Os byddwch yn ymuno â chynllun cyfnodrannu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'n llofnodi'r contract yn y DU, mae gennych hawl i:

  • ganslo am unrhyw reswm o fewn 14 diwrnod i lofnodi eich contract - mae'n anghyfreithlon i werthwyr gymryd blaendal gennych yn ystod y cyfnod hwn
  • cael gwybodaeth allweddol cyn i chi lofnodi'r contract, gan gynnwys disgrifiad o'r eiddo, dyddiad dechrau'r contract, y pris a thaliadau fel ffioedd gweinyddol
  • cael copi o'ch contact – os na chewch gopi, ni all y gwerthwr eich rhwymo i unrhyw beth yn y contract
  • cael ffurflen ganslo gyda'ch contract
  • cael y contract ysgrifenedig mewn iaith Ewropeaidd o'ch dewis

Mae'r AEE yn cynnwys yr holl wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Os byddwch yn llofnodi'r contract y tu allan i'r AEE, bydd eich hawliau yn dibynnu ar:

  • gyfraith y wlad lle mae eich eiddo cyfnodrannu wedi’i leoli (gweler y ddolen isod)
  • telerau ac amodau eich contract

Sut i ganslo eich contract cyfnodrannu

Ar gyfer contractau a lofnodir yn y DU a chynlluniau yn yr AEE, ysgrifennwch at y gwerthwr o fewn 14 diwrnod gan nodi eich bod am 'dynnu'n ôl' o'ch contract.

Os gwnaethoch drefnu gyda'r gwerthwr i fenthyca arian er mwyn ymuno â'r cynllun, mae'n rhaid iddo ganslo'r cytundeb credyd (benthyciad) hwn hefyd.

Os gwnaethoch lofnodi eich contract mwy na 14 diwrnod yn ôl, ni allwch ganslo fel arfer oni bai na roddodd y gwerthwr y canlynol i chi:

  • gwybodaeth allweddol cyn i chi lofnodi'r contract (gelwir hon hefyd yn 'wybodaeth cyn contract')
  • ffurflen ganslo ar adeg llofnodi eich contract

Os bydd hyn yn digwydd, bydd y cyfnod sydd gennych i ganslo yn ymestyn hyd at:

  • dri mis a 14 diwrnod os na chewch gopi ysgrifenedig o'r wybodaeth allweddol
  • blwyddyn a 14 diwrnod os na chewch ffurflen ganslo gyda'ch contract

Cyn gynted ag y cewch y wybodaeth hon, bydd y cyfnod canslo yn lleihau i 14 diwrnod.

Cyflwyniadau gwerthu

Mae rhai cwmnïau cyfnodrannu yn ceisio pwyso arnoch i lofnodi contract. Byddwch yn aml yn dod i gysylltiad â nhw pan fyddwch ar eich gwyliau a byddant yn cynnig anrheg i chi os byddwch yn mynd i gyflwyniad.

Cyn i chi gytuno ar unrhyw gynnig:

  • gofynnwch am gael mynd â'r contact i ffwrdd gyda chi - ceisiwch gyngor cyfreithiol ar y gwerthiant
  • cadarnhewch brisiau hediadau a gwyliau i'r un cyrchfan os nad oedd gennych eiddo cyfnodrannu
  • sicrhewch fod popeth a gafodd ei addo i chi yn y cyflwyniad wedi'i gadarnhau’n ysgrifenedig

Os byddwch yn credu bod y cwmni cyfnodrannu yn ffug, gallwch roi gwybod amdano i Action Fraud a'r heddlu.

Gwerthu eich gwyliau cyfnodrannu

Os ydych yn berchen ar wyliau cyfnodrannu ond nid ydych am eu defnyddio mwyach, gallwch fel arfer werthu'r blynyddoedd sy'n weddill.

Efallai y bydd y cwmni a werthodd y gwyliau cyfnodrannu i chi yn cytuno i'w prynu oddi wrthych neu efallai y bydd 'cwmni ailwerthu gwyliau cyfnodrannu' yn cynnig pris gwell i chi.

Bydd y pris a gewch am y blynyddoedd sy'n weddill fel arfer yn llawer is na'r pris gwreiddiol a dalwyd gennych.

Mae cwmnïau ailwerthu ffug ar gael hefyd a all gysylltu â chi gan honni eu bod wedi dod i hyd i rywun a fydd yn prynu eich gwyliau cyfnodrannu. Byddant yn gofyn i chi wneud taliad ymlaen llaw er mwyn talu costau gweinyddol. Unwaith y byddwch yn talu'r arian, bydd y cwmni yn diflannu.

Os bydd cwmni ailwerthu yn cysylltu â chi, peidiwch â thalu unrhyw ffioedd ymlaen llaw a gwnewch dipyn o ymchwil i'r cwmni e.e. drwy chwilio ar-lein am enw'r cwmni.

Cwynion am wyliau cyfnodrannu

Os oes gennych gŵyn am eich gwyliau cyfnodrannu, cysylltwch â'r gwerthwr yn gyntaf.

Os na fyddwch yn cytuno â'i ymateb, gallwch:

  • gwyno i gymdeithas fasnach os yw eich cwmni cyfnodrannu yn aelod ohoni (gweler y dolenni isod)
  • cysylltu â Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU