Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwyliau pecyn

Yn y DU, mae'r rhaid i'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gwerthu gwyliau pecyn gydymffurfio â'r Rheoliadau Teithio Pecyn. Mae'r rhain yn nodi cyfrifoldebau trefnwyr teithio i'w cwsmeriaid a beth y gallwch ei wneud os nad ydych yn fodlon ar eich gwyliau.

Beth yw gwyliau pecyn?

Mae gwyliau pecyn yn cynnwys o leiaf ddau o'r canlynol:

  • trafnidiaeth
  • llety
  • gwasanaethau twristiaeth, fel cynrychiolydd teithiau neu deithiau dydd

Caiff y math hwn o wyliau ei drefnu ymlaen llaw a'i werthu am bris cynhwysol, sy'n golygu eich bod yn talu am bob dim gyda'i gilydd. Mae'n rhaid iddo hefyd gwmpasu cyfnod o fwy na 24 awr neu gynnwys llety dros nos.

Fel defnyddiwr, cewch eich diogelu o dan Reoliadau Teithio Pecyn, Gwyliau Pecyn a Theithiau Pecyn 1992. Dylech fod yn ymwybodol nad yw'r rheoliadau teithio pecyn yn berthnasol i lawer o drefniadau gwyliau. Er enghraifft, os byddwch yn creu eich pecyn eich hun ar y rhyngrwyd drwy ddefnyddio cyflenwyr gwahanol ar gyfer trafnidiaeth a llety.

Os byddwch yn gwneud trefniadau drwy un wefan, cadarnhewch gyda'r wefan a yw'n darparu gwyliau pecyn i chi sydd wedi'u diogelu o dan y rheoliadau. Os nad yw'n gwneud hynny, efallai y gallwch ystyried prynu yswiriant teithio rhag ofn bod y cyflenwyr yn mynd yn fethdalwyr.

Dewis eich gwyliau

Dewiswch asiantau teithio a gweithredwyr teithiau sy'n perthyn i gymdeithas fasnach gydnabyddedig sydd â chod arfer. Chwiliwch am ABTA (Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain) neu AITO (y Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Annibynnol) ar daflenni neu anfonebau.

Yr hyn i'w wneud os bydd eich cwmni hedfan neu gwmni teithio yn mynd i'r wal

Mae'r erthygl Cross & Stitch, 'Eich hawliau os bydd cwmni hedfan neu gwmni teithio yn mynd i'r wal', yn rhoi gwybod i chi sut i gael eich arian yn ôl a datrys unrhyw broblemau ymarferol.

Cyngor i deithwyr diymgeledd

Mae'r cwmwl lludw o'r llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ wedi achosi i hediadau yn y DU ac o'i amgylch gael eu canslo a'u gohirio. Dilynwch y ddolen i gael cyngor ar eich hawliau fel teithiwr cwmni hedfan yn Ewrop neu os ydych wedi prynu gwyliau pecyn. Darllenwch fwy am yr hyn i'w wneud os ydych dramor a bod eich hediad yn cael ei ganslo.

Yswiriant teithio

Gall trefnu yswiriant teithio eich helpu i gael help ariannol ac ymarferol os bydd rhywbeth yn mynd o'i le ar eich taith.

Pan fyddwch yn prynu gwyliau pecyn, efallai y cynigir yswiriant teithio i chi. Ni chaniateir i gwmnïau teithio godi pris uwch arnoch os nad ydych yn prynu eu hyswiriant.

Gwyliau yn ystod gwyliau'r ysgol

Gall fod yn anodd dod o hyd i fargen i'r teulu yn ystod gwyliau'r ysgol. Er mwyn dangos pa gynigion sydd ar gael, mae gan y Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Annibynnol (AITO), wefan gwyliau ysgol i hysbysebu gwyliau a gynigir gan eu haelodau. Mae'r rhain yn cynnwys gwyliau gyda lleoedd am ddim i blant neu ostyngiadau am drefnu'n gynnar.

Pererindodau'r Hajj ac Umrah

Mae'r teithiau hyn yn fwy tebygol o fod yn becynnau ac o gael eu diogelu o dan y rheoliadau teithio pecyn. Mae'n bwysig dewis cwmni ag enw da i drefnu hyn ar eich rhan gan fod cymaint o weithredwyr ffug ar gael.

Mae eich pecyn Hajj neu Umrah yn debygol o gynnwys hediadau. Mae'n rhaid bod unrhyw weithredwr teithiau sy'n trefnu pecynnau â hediadau feddu ar Drwydded Trefnwyr Teithiau Hedfan (ATOL) gyfredol. Gallwch gadarnhau ar-lein a oes trwydded gan weithredwr teithiau.

Trefnu eich taith

Os oes gennych unrhyw geisiadau arbennig, sicrhewch eich bod yn eu nodi ar y ffurflen trefnu gwyliau. Cyn i'r contract gael ei gwblhau, mae'n rhaid i wybodaeth am y canlynol gael ei rhoi i chi:

  • basbortau a fisâu
  • gofynion iechyd
  • trefniadau dychwelyd i'ch mamwlad (sut i gyrraedd adref) os bydd y gweithredwr yn mynd i'r wal

Cyn i chi deithio

Cyn i chi adael, mae'n rhaid i chi gael copi ysgrifenedig o'r contract, ynghyd â'ch holl fanylion trefnu. Dylai'r rhain gynnwys:

  • y deithlen (ble rydych yn mynd ar eich taith a phryd)
  • cysylltiadau trafnidiaeth
  • enw a chyfeiriad cynrychiolydd cwmni i chi ei ddefnyddio tra byddwch ar eich taith
  • yr hyn a fydd yn digwydd os bydd y gweithredwr teithiau yn mynd yn fethdalwr cyn i chi fynd ar eich gwyliau neu tra byddwch ar eich gwyliau

Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon ar eich gwyliau

Yn ddelfrydol, dylech roi gwybod i gynrychiolydd y cyrchfan am eich pryderon ar unwaith. Efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn am ffurflen gwyno neu nodi eich cwyn yn ysgrifenedig mewn llythyr ar wahân.

Os na chaiff pethau eu hunioni ar unwaith, dylech gasglu tystiolaeth am y broblem fel ffotograffau a datganiadau gan bob eraill sydd ar eu gwyliau. Pan gyrhaeddwch adref, edrychwch ar daflen eich gwyliau. Mae'n drosedd i weithredwyr teithiau eich camarwain am y gwyliau.

Yna, cysylltwch â'r gweithredwr teithiau ac anfon copïau o'ch tystiolaeth ato - cofiwch gadw'r copïau gwreiddiol. Esboniwch beth aeth o'i le a rhowch wybod iddo faint o iawndal rydych am ei gael.

Os na chaiff eich cwyn ei datrys, cysylltwch ag ABTA (Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain) neu AITO (y Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Annibynnol) os yw'r gweithredwr teithiau yn aelod ohonynt. Mae'r ddwy yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfod annibynnol.

Os bydd angen i chi gymryd camau cyfreithiol

Os nad yw'r gweithredwr teithiau yn aelod o ABTA nac AITO, gallech gyflwyno eich achos i'r llys mân hawliadau (llys siryf yn yr Alban). Gallwch gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr neu eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol am gyngor.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU