Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallai cynnal a chadw eich car yn rheolaidd arbed arian i chi dros amser. Yn bwysicach, byddwch hefyd yn sicrhau bod eich car yn ddiogel ar y ffordd. Mynnwch wybod sut i ddewis mecanig ceir a beth i'w wneud os bydd gennych broblem.
Mae mecanigion ceir yn darparu gwasanaeth drwy gynnal atgyweiriadau a chyflenwi nwyddau drwy osod rhannau newydd. Mae hyn yn golygu y cewch eich diogelu gan Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i unrhyw nwyddau a gyflenwir fod o ansawdd boddhaol. Rhaid i unrhyw wasanaethau y byddwch yn eu prynu:
Bydd ystyr 'rhesymol' yn wahanol ym mhob achos. Os bydd gennych broblem, efallai y bydd angen i chi gael cyngor ar ystyr 'rhesymol' yn eich sefyllfa (gweler y dolenni isod).
Ceisiwch ddewis garej sy'n perthyn i god ymarfer fel Cod Motor Codes Limited ar gyfer Rhoi Gwasanaeth ac Atgyweirio. Cynllun arall yw cod ymarfer y Swyddfa Masnachu Teg, a gaiff ei redeg gan y Gymdeithas Adeiladwyr ac Atgyweirwyr Cerbydau.
Gallwch hefyd ofyn i'ch ffrindiau a'ch teulu a oes ganddynt unrhyw argymhellion. Dylech hefyd gael dyfynbris (pris sefydlog) am unrhyw waith gan sawl garej cyn gwneud eich penderfyniad.
Bydd garej da:
Ni fydd garej da yn gosod rhannau newydd yn lle rhannau sydd heb ôl traul, ond bydd yn dweud wrthych pryd y bydd yn debygol y bydd angen gosod rhannau newydd. Os oes rhannau newydd wedi'u gosod, gofynnwch am gael gweld yr hen rannau a chadarnhewch y canlynol:
Lawrlwythwch y daflen ar gael gwasanaeth car i gael mwy o gyngor ar fynd â'ch car at fecanig.
Os bydd gennych gŵyn, cysylltwch â'r garej cyn gynted â phosibl. Os byddwch yn anfodlon o hyd a bod y garej yn aelod o gymdeithas fasnach neu god ymarfer, gallwch fynd â'r mater atynt. Efallai y bydd ganddynt wasanaeth datrys anghydfod annibynnol.
Os bydd gennych anghydfod ynghylch gwaith ar gar newydd gyda gwarant, dylai gweithgynhyrchydd y car allu helpu. Caiff y rhan fwyaf o geir newydd a werthir yn y DU eu diogelu gan God Ceir Newydd Motor Codes, sy'n cynnwys gwasanaeth datrys anghydfod.
Os byddwch yn anfodlon o hyd, gallech fynd â'ch cwyn i'r llys. Gofynnwch am gyngor gan Cyswllt Defnyddwyr neu'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu swyddfa safonau masnach y cyngor.