Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Prynu car - eich hawliau

Pan fyddwch yn prynu car, bydd y gyfraith yn rhoi hawliau penodol i chi a fydd yn eich diogelu os bydd y car yn ddiffygiol. Mynnwch wybod beth yw'r hawliau hyn ac at bwy y dylid cwyno os aiff pethau o chwith.

Eich hawliau pan fyddwch yn prynu car

Cael cyngor gan Cyswllt Defnyddwyr

Gwyliwch fideo ar brynu car ail-law

Pan fyddwch yn prynu car gan ddeliwr ceir neu ddeliwr ceir ar-lein (a elwir yn fasnachwyr hefyd), rhaid i'r car:

  • fod o ansawdd boddhaol, e.e. ni ddylai fod crac yn y ffenestr flaen
  • bod yn addas at y diben, e.e. os byddwch yn gofyn am gar a all dynnu carafán, dylai allu gwneud hynny
  • bod fel y disgrifiad, e.e. dylai'r car gyfateb i'r disgrifiad ohono a roddwyd mewn sgwrs neu ar hysbyseb

Os na fydd car yn bodloni unrhyw un o'r pwyntiau hyn, bydd yn ddiffygiol ac fel arfer bydd gennych hawl i:

  • atgyweiriad
  • car arall yn ei le
  • ad-daliad

Os byddwch yn prynu car gan fasnachwr ar-lein neu dros y ffôn, bydd gennych hefyd hawl i gael cyfnod 'ailystyried'. Bydd hyn yn rhoi saith diwrnod gwaith ar ôl dosbarthu'r car i chi ganslo eich archeb am unrhyw reswm a chael eich arian yn ôl.

Os byddwch yn prynu car gan werthwr preifat neu mewn arwerthiant ceir i fasnachwyr, bydd gennych lai o hawliau. Dim ond y canlynol y mae'n rhaid iddo fod yn wir am y car:

  • yn cyfateb i'r disgrifiad a roddir gan y gwerthwr
  • bod yn eiddo i'r gwerthwr, e.e. nid yw'r car wedi'i ddwyn neu'n eiddo i gwmni cyllid gan nad yw benthyciad y car wedi'i dalu

Cyn i chi brynu car, dylech gynnal archwiliadau i leihau'r risg ei fod yn ddiffygiol neu wedi'i ddwyn (gweler y ddolen isod).

Os bydd ymwadiad ar y car rydych yn ei brynu

Bydd rhai masnachwyr ceir yn ceisio defnyddio ymwadiadau fel 'gwerthu fel y gwelwch', 'gwerthiant masnach yn unig' neu 'dim ad-daliad' er mwyn cyfyngu ar eich hawliau. Mae hyn yn erbyn y gyfraith a gallwch roi gwybod am unrhyw fasnachwr sy'n gwneud hyn i Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.

Delwyr ceir sy'n dweud mai gwerthwyr preifat ydynt

Bydd rhai delwyr ceir yn ffugio eu bod yn werthwyr preifat er mwyn cael gwared ar geir diffygiol. Ymhlith yr arwyddion y gall gwerthwr preifat fod yn ddeliwr ceir mae'r canlynol:

  • nid yw enw'r gwerthwr yn ymddangos ar y llyfr log fel y ceidwad cofrestredig olaf
  • mae'r un rhif ffôn yn ymddangos mewn sawl hysbyseb ceir
  • caiff ceir eu hysbysebu i'w gwerthu mewn meysydd parcio neu fannau cyhoeddus eraill

Os byddwch o'r farn bod gwerthwr preifat yn ddeliwr ceir, rhowch wybod i Cyswllt Defnyddwyr.

Os byddwch yn prynu car diffygiol gan werthwr preifat sydd mewn gwirionedd yn ddeliwr ceir, byddai gennych yr hawl i gael atgyweiriad, car arall yn lle'r car diffygiol neu ad-daliad.

Arwerthiannau ceir ail-law - eich hawliau

Gall gwerthwyr mewn arwerthiannau gyfyngu ar eich hawliau drwy osod arwyddion o amgylch y car neu wybodaeth yng nghatalog yr arwerthiant fel:

  • 'gwerthu fel y gwelwch' - mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i'r car fod o ansawdd boddhaol
  • 'nid yw eich hawliau cyfreithiol yn gymwys' - mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i'r gwerthwr atgyweirio, darparu car arall na rhoi ad-daliad i chi os bydd y car yn ddiffygiol

Eich cyfrifoldeb chi yw archwilio car mewn arwerthiant (gweler y ddolen isod).

Mae;n anghyfreithlon i dai arwerthu roi hanes anghywir y cerbyd yng nghatalog yr arwerthiant, oherwydd gallai hyn olygu eich bod yn prynu car sydd wedi'i ddwyn. Gallwch roi gwybod i Cyswllt Defnyddwyr am dai arwerthu rydych yn amau eu bod yn gwneud hyn.

Dychwelyd car diffygiol i fasnachwr

Os byddwch yn canfod diffyg ar gar rydych wedi'i brynu gan fasnachwr, dylech gysylltu â'r masnachwr ar unwaith.

Os bydd y masnachwr yn cytuno i ymdrin â'r diffyg, bydd yr hyn a gynigir gan y masnachwr yn dibynnu ar y canlynol:

  • am ba hyd rydych wedi cael y car - os byddwch wedi defnyddio'r car gryn dipyn, mae'n annhebygol y cewch ad-daliad llawn
  • pa mor ddifrifol yw'r diffyg
  • p'un a yw'r diffyg yn digwydd dro ar ôl tro
  • cost cynnal yr atgyweiriadau neu roi car arall yn ei le

Mae'r gyfraith yn gymhleth yn y maes hwn ac efallai y bydd angen i chi gael cyngor ar b'un a ddylai'r masnachwr gynnig atgyweiriad, car arall yn lle'r un diffygiol neu ad-daliad.

Os bydd angen i chi gwyno

Cael cyngor gan Cyswllt Defnyddwyr

Os na chaiff problem gyda'ch car ei datrys, ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06

Os hoffech wneud cwyn am eich car, yn gyntaf dylech gysylltu â'r canlynol:

  • y masnachwr os gwnaethoch brynu'r car gan ddeliwr
  • y gwerthwr os yw'n werthiant preifat neu os gwnaethoch brynu eich car gan dŷ arwerthu
  • y cwmni cyllid os gwnaethoch brynu'r car gan ddefnyddio cerdyn credyd neu fenthyciad a drefnwyd gan y masnachwr

Nid oes yn rhaid i'r tŷ arwerthu roi manylion gwerthwr i chi.

Os na chaiff y broblem ei datrys:

  • ysgrifennwch lythyr dilynol mewn perthynas â'ch cwyn
  • cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr
  • dylech gwyno i gymdeithas fasnach fel Motor Codes os yw'r deliwr yn aelod

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU