Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gennych hawliau penodol pan fyddwch yn prynu rhywbeth ar-lein neu drwy'r post, dros y ffôn neu drwy'r teledu. Mynnwch wybod sut mae'r hawliau hyn yn eich diogelu os bydd problem gyda'ch archeb neu os byddwch am ganslo am eich bod wedi newid eich meddwl.
Gwyliwch y canllaw byr hwn ar eich hawliau wrth brynu ar-lein
Mae'r gyfraith yn rhoi hawliau i chi pan fyddwch yn prynu nwyddau neu wasanaethau heb gyswllt wyneb yn wyneb. Mae'n cwmpasu:
Dywed y gyfraith:
Os na roddir dyddiad dosbarthu, gallwch gael ad-daliad llawn os na chaiff eitemau eu dosbarthu o fewn 30 diwrnod i gyflwyno eich archeb.
Mae'r rheolau arferol sy'n gymwys i siopa ar y stryd fawr hefyd yn gymwys i werthu o bell. Felly, rhaid i eitemau fod:
Mynnwch wybod mwy am yr hawliau siopa hyn drwy ddilyn y ddolen isod.
Os byddwch yn prynu rhywbeth heb gyswllt wyneb yn wyneb, fel arfer bydd gennych 'gyfnod ailystyried' o saith diwrnod gwaith. Mae'n eich galluogi i ganslo'r archeb am unrhyw reswm a chael eich arian yn ôl.
Os byddwch yn penderfynu canslo eich archeb o fewn y cyfnod ailystyried, rhaid i chi ddweud wrth y masnachwr yn ysgrifenedig.
Nid oes gennych yr hawl hon i ganslo:
Os byddwch eisoes wedi talu am yr eitemau neu'r gwasanaethau, rhaid i'r masnachwr roi ad-daliad i chi o fewn 30 diwrnod ar ôl i chi ganslo'r cytundeb.
Bydd y cyfnod ailystyried o saith diwrnod gwaith fel arfer yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i chi gael y nwyddau.
Ond bydd yn rhaid i'r masnachwr ddweud y canlynol wrthych yn ysgrifenedig:
Os na fyddwch yn cael y wybodaeth hon, bydd eich cyfnod ailystyried yn ymestyn i uchafswm o dri mis a saith diwrnod gwaith. Er enghraifft, os bydd y masnachwr yn cymryd mis i ddweud wrthych yn ysgrifenedig, byddwch yn cael cyfnod ailystyried o fis a saith diwrnod gwaith.
Os anfonir yr eitem anghywir atoch chi neu os bydd yr eitem yn ddiffygiol, gallwch ei dychwelyd a gofyn am eich arian yn ôl. Yn yr achosion hyn, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gost o ddychwelyd yr eitemau.
Gall gwerthwyr fod wedi'u lleoli yn unrhyw le yn y byd - hyd yn oed os bydd gan wefan gyfeiriad gwe yn y DU sy'n gorffen gyda '.co.uk'. Os bydd y masnachwr wedi'i leoli y tu allan i'r UE, dylech ddarllen telerau ac amodau'r contract i weld cyfraith pa wlad fydd yn berthnasol.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod at bwy y dylid cwyno os bydd pethau'n mynd o chwith wrth brynu o dramor.
Ceir gwefannau sgamio sy'n cynnig eitemau i'w gwerthu er mwyn cael eich arian a'ch manylion personol, fel rhif eich cerdyn credyd. Ymhlith sgamiau eraill, mae gwerthwyr yn gwerthu eitemau am brisiau chwyddedig neu gynhyrchion na chânt eu dosbarthu. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau.
I gael cyngor defnyddwyr ymarferol, ffoniwch 08454 04 05 06
Os bydd angen i chi gwyno am rywbeth rydych wedi'i brynu, dylech bob amser ddychwelyd at y masnachwr yn gyntaf, ee y wefan neu'r sianel teledu.
Os na fyddwch yn cael ateb gan y gwerthwr neu os na fyddwch yn cytuno â'i ymateb, dylech wneud cwyn ysgrifenedig.
Os byddwch wedi talu gan ddefnyddio credyd (ee cerdyn credyd), gallwch hefyd gwyno i'r cwmni cyllid (gweler y ddolen isod).
Os gwnaethoch dalu drwy ddefnyddio Visa, Mastercard neu Maestro, efallai y gallwch gwyno i'w gynllun 'chargeback'. Bydd yn eich diogelu os bydd problem gyda'r nwyddau neu os bydd y gwerthwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Bydd angen i chi gysylltu â chwmni'r cerdyn i hawlio.
Os gwnaethoch brynu'r eitem gan bapur newydd cenedlaethol, gallwch gwyno i'r cynllun Diogelu Archebion o Gartref.
Gallwch gael cyngor ar anghydfodau gan Gyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.