Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Bod yn ddiogel ar-lein

Pan fyddwch yn defnyddio'r rhyngrwyd efallai eich bod wedi'ch cysylltu â miloedd o gyfrifiaduron eraill yr ydych yn cyfnewid gwybodaeth a data â nhw, gan gynnwys manylion personol. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod eich cyfrifiadur, eich gwybodaeth a'ch preifatrwydd mor ddiogel â phosibl.

Bod yn ymwybodol o'r risgiau

Firysau

Meddalwedd dinistriol yw firysau sy'n gallu rhedeg ar eich cyfrifiadur yn ddiarwybod i chi. Maent yn gwasgaru drwy'r rhyngrwyd a thrwy negeseuon e-bost drwy atodi'u hunain i ddogfennau a rhaglenni ar eich cyfrifiadur. Gall firysau greu niwed drwy ddileu ffeiliau a gadael i ddrwgweithredwyr fonitro'ch cyfrifiadur a dwyn gwybodaeth bersonol. Gallant arafu'ch cyfrifiadur a gellir cymryd dyddiau i gael gwared arnynt.

Ysbïwedd

Meddalwedd yw ysbïwedd sy'n cael ei llwytho i lawr yn aml gyda meddalwedd arall, megis meddalwedd rhannu cerddoriaeth. Mae'n gadael i droseddwyr sganio'ch cyfrifiadur am wybodaeth sydd wedi'i storio arno, gosod hysbysebion naid, a gadael firysau trwodd.

Botrwydi

Rhwydwaith o gyfrifiaduron sy'n cael eu defnyddio gyda'i gilydd wedi'u heintio â firws yw botrwyd y gellir eu rheoli o bell. Bydd gan yr ymosodwr wedyn fynediad i'r cyfrifiaduron a gall eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau maleisus megis anfon spam. Gellir gwneud hyn i gyd heb i ddefnyddwyr y cyfrifiadur wybod beth sy'n digwydd.

Mesurau diogelwch y gallwch eu cymryd

Defnyddiwch y fersiwn diweddaraf un o'ch system weithredu

Eich system weithredu yw'r prif ddarn o feddalwedd sy'n rheoli eich cyfrifiadur. Y systemau mwyaf cyffredin sy'n cael eu defnyddio yw Microsoft Windows (a ddefnyddir ar PCs), Macintosh OS (a ddefnyddir ar Macs) a Linux (a ddefnyddir ar gyfrifiaduron Linux). Mae'r feddalwedd hon wedi'i gosod ar bob cyfrifiadur newydd. Y fersiwn diweddaraf o'r feddalwedd yw'r mwyaf diogel fel arfer. Mae'r fersiynau diweddaraf ar gael fel arfer gan gynhyrchydd y feddalwedd, a gellir eu llwytho i lawr am ddim.

Sicrhewch fod gennych fur cadarn bwrdd gwaith

Meddalwedd neu galedwedd yw'r mur cadarn sy'n gweithredu fel hidlydd rhwng eich cyfrifiadur neu eich rhwydwaith a'r rhyngrwyd. Trwy ddefnyddio mur cadarn mae mynediad heb awdurdod i'ch cyfrifiadur yn cael ei atal ac mae'n rhwystro mwydod (math arall o feddalwedd faleisus).

Mae muriau cadarn bwrdd gwaith ar gyfer cyfrifiaduron unigol ar gael yn siopau'r stryd fawr. Mae gan rai systemau gweithredu fur cadarn yn gynwysedig ond holwch y gwneuthurwr i gael gwybod a yw'n darparu digon o ddiogelwch.

Defnyddio'r feddalwedd gwrth-firws ddiweddaraf

Bydd meddalwedd gwrth-firws yn archwilio'ch cyfrifiadur am firysau ac yn rhoi gwybod ichi am unrhyw rai y bydd yn eu hadnabod. Mae'n bwysig cadw'r feddalwedd yn gyfredol, gan fod firysau newydd yn cael eu creu drwy'r amser.

Defnyddio cyfrineiriau cryf

Mae llawer o wefannau yn defnyddio cyfrineiriau i amddiffyn pwy ydych chi. Os bydd cyfrineiriau yn mynd i'r dwylo anghywir neu os ydynt yn hawdd eu dyfalu, bydd eich manylion personol yn fregus iawn.

Cyfrineiriau da:

  • Ni ddylid byth eu rhannu - yn cynnwys gyda staff llinellau cymorth, na'u hysgrifennu ar bapur ac ni ddylid gadael i neb arall eich gwylio yn eu defnyddio
  • rhaid iddynt fod yn saith nod o leiaf
  • rhaid iddynt fod yn gymysgedd o brif lythrennau a llythrennau bach, rhifau a nodau eraill ar y bysellfwrdd
  • dylid eu newid yn rheolaidd - argymhellir eu newid bob tri mis
  • ni ddylid defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer yr holl safleoedd a ddefnyddir gennych

Monitro defnydd eich teulu o'r rhyngrwyd

Sicrhewch fod pawb yn ymwybodol o faterion diogelwch ar y rhyngrwyd - yn enwedig pobl ifanc, a all ddefnyddio rhaglenni rhannu ffeiliau, negeseua gwib ac ystafelloedd sgwrsio yn fwy nag oedolion. Ystyriwch gyfyngu ar y safleoedd y gallant fynd iddynt a beth y gallant ei lwytho oddi ar y we. Gellir gwneud hyn fel arfer drwy'r gosodiadau ar eich porwr, neu gallwch brynu meddalwedd.

Ffyrdd eraill o aros yn ddiogel

Gallech chi:

  • osgoi datgelu gwybodaeth bersonol gymaint ag y bo modd
  • dim ond agor atodiadau e-bost oddi wrth bobl yr ydych yn eu hadnabod
  • bod yn ofalus wrth rannu ffeiliau a llwytho meddalwedd oddi ar y we, gan y gall y rhain ledaenu firysau'n hawdd a chuddio ysbïwedd.

I gael mwy o gymorth am sut i osgoi twyll rhyngrwyd, darllenwch yr erthygl 'Sut i osgoi twyll ar-lein'.

myguide: canllaw cam wrth gam syml i ddiogelwch ar y rhyngrwyd

A oes gennych ffrind neu aelod o'r teulu a hoffai fynd ar-lein, ond eu bod yn poeni am firysau, spam neu dwyll ar-lein? Gallant ddysgu sut i ddiogelu eu hunain gyda chanllaw syml 30 munud i ddiogelwch ar y rhyngrwyd myguide.

Darllenwch 'Helpu rhywun i ddechrau arni ar-lein' i gael rhagor o wybodaeth am myguide.

Yn yr adran hon...

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU