Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Dychwelyd eitemau diffygiol

Pan fyddwch yn prynu eitem gan fasnachwr a bod yr eitem honno yn ddiffygiol, dylech gael cynnig ei hatgyweirio, eitem newydd yn ei lle neu ad-daliad. Mynnwch wybod beth yw eich hawliau, pryd i ddychwelyd eitem a beth y gallwch ei wneud os byddwch yn anghytuno â masnachwr.

Eitemau diffygiol a hawliau defnyddwyr

Rhaid i unrhyw eitem y byddwch yn ei phrynu gan fasnachwr (e.e. siop neu siop ar-lein) fod:

  • o ansawdd boddhaol
  • yn addas at y diben
  • yn unol â'r disgrifiad ohoni

Os na fydd, mae'r eitem yn ddiffygiol a gallwch fel arfer gael un o'r canlynol:

  • yr eitem wedi'i hatgyweirio
  • eitem newydd yn ei lle
  • ad-daliad

Mae'n bosibl y bydd gennych hawliau eraill hefyd gan ddibynnu ble y gwnaethoch brynu'r eitem a sut y gwnaethoch dalu amdani (gweler y ddolen isod).

Dychwelyd eitem ddiffygiol

Os bydd rhywbeth rydych wedi'i brynu yn ddiffygiol, dywedwch wrth y masnachwr cyn gynted â phosibl. Gallai hyn olygu dychwelyd yr eitem i'r siop neu gysylltu â'r masnachwr i roi gwybod iddo bod problem.

Bydd angen i chi ddarparu prawf prynu, e.e. derbynneb neu anfoneb. Mae'n bosibl y bydd rhai masnachwyr yn derbyn bil cerdyn credyd neu gyfriflen banc, e.e. os bydd misoedd wedi mynd heibio ers i chi brynu'r eitem.

Ni allwch ddychwelyd eitem os mai chi a achosodd y nam. Er enghraifft, os gwnaethoch ollwng ffôn symudol a chracio'r sgrîn neu os na wnaethoch ddilyn y cyfarwyddiadau gofal ar gyfer dillad.

Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio o hyd o dan eich yswiriant cartref neu os oes gan yr eitem warant. Mae gwarant yn rhoi hawliau ychwanegol i chi, e.e. i gael yr eitem wedi'i hatgyweirio neu i gael eitem newydd os aiff rhywbeth o'i le. Edrychwch ar fanylion eich polisi i weld a allwch hawlio.

Ad-daliadau a nwyddau diffygiol

Fel arfer bydd masnachwr yn cynnig ad-daliad i chi am eitem ddiffygiol o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os bydd gennych brawf prynu, e.e. derbynneb
  • os na fyddwch wedi cael cyfle i ddefnyddio'r eitem neu os mai dim ond ychydig droeon y byddwch wedi defnyddio'r eitem

Os bu'r eitem gennych neu os buoch yn defnyddio'r eitem am gyfnod hwy, rydych chi wedi 'derbyn' y nwyddau yn ôl y gyfraith. Ni fydd hawl gennych i gael ad-daliad, ond dylai'r masnachwr gynnig atgyweirio'r eitem neu gynnig un arall yn ei lle.

Rhaid i waith atgyweirio drwsio'r nam gwreiddiol (e.e. sip wedi torri). Os na fydd, wedyn gallwch ofyn naill ai am ad-daliad neu am eitem newydd yn lle'r eitem ddiffygiol.

Efallai y bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol o ran pa un a ydych wedi derbyn y nwyddau.

Er enghraifft, mae'n debyg na fydd gennych yr hawl i ad-daliad os gwnaethoch ddefnyddio peiriant torri gwair am fisoedd ac y torrodd y llafn. Ond os gwnaethoch brynu'r peiriant torri gwair yn y gaeaf ac na allech ei ddefnyddio tan y gwanwyn, efallai y bydd yr hawl gennych i gael ad-daliad.

Bydd pob sefyllfa yn wahanol, felly dylech siarad â'r masnachwr cyn gynted ag y byddwch yn darganfod y nam.

Atgyweirio eitemau diffygiol a darparu eitemau newydd yn eu lle

Os na fydd masnachwr yn fodlon rhoi ad-daliad i chi am eitem ddiffygiol, fel arfer dylai gynnig atgyweirio'r eitem neu roi eitem newydd i chi yn ei lle am ddim. Gall hyn fod yn berthnasol hyd yn oed os byddwch wedi gwneud defnydd da o'r eitem. Mae'n dibynnu ar y canlynol:

• faint y gwnaethoch ei dalu am yr eitem
• ers faint y bu'r eitem gennych
• faint y disgwylir iddi bara

Er enghraifft, os torrodd oergell a brynoch am £400 ar ôl saith mis, mae'n debyg y byddech yn ei chael wedi'i hatgyweirio am ddim. Ond os torrodd yr un oergell ar ôl pedair blynedd, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cost gwaith atgyweirio.

Mae'r gyfraith yn gymhleth yn y maes hwn ac efallai y bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ar b'un a ddylai'r masnachwr gynnig atgyweiriad, eitem arall yn lle'r un diffygiol neu ad-daliad.

Os na fydd atgyweirio'r eitem na darparu eitem newydd yn ei lle yn ymarferol

Nid oes yn rhaid i fasnachwr gynnig eitem newydd yn lle eitem ddiffygiol nac atgyweirio'r eitem o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • bydd yn rhy gostus i'r masnachwr
  • bydd yn cymryd yn rhy hir
  • bydd yn achosi anghyfleustra sylweddol, e.e. byddwch heb ffôn am fisoedd

Os bydd hyn yn digwydd, dylai'r masnachwr naill ai:

  • gynnig ad-daliad rhannol i chi os byddwch yn dychwelyd yr eitem (er mwyn ystyried y defnydd a gawsoch o'r eitem)
  • gadael i chi gadw'r eitem a rhoi gostyngiad pris i chi i wneud iawn am y nam

Profi bod nwyddau yn ddiffygiol

Os gwnaethoch brynu'r eitem o fewn y chwe mis diwethaf, cyfrifoldeb y masnachwr yw profi nad oedd yr eitem yn ddiffygiol pan wnaethoch ei phrynu.

Os gwnaethoch brynu'r eitem dros chwe mis yn ôl, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi brofi nad difrod damweiniol na thraul gyffredin a achosodd y nam. Gallwch wneud hyn drwy gael ail farn gan arbenigwr annibynnol (gweler y ddolen isod).

Os na fyddwch yn cytuno ag ymateb y masnachwr

Cael cyngor gan Cyswllt Defnyddwyr

I gael cyngor defnyddwyr ymarferol ffoniwch 08454 04 05 06

Os na fyddwch yn cael ateb gan y masnachwr neu os na fyddwch yn fodlon ar gynnig y masnachwr, dylech wneud cwyn ysgrifenedig.

Os byddwch o'r farn nad yw'r masnachwr yn eich trin mewn ffordd deg o hyd, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU