Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Prynu dodrefn a hawliau defnyddwyr

Pan fyddwch yn prynu dodrefn, mae gennych hawliau sy'n eich diogelu os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. Mynnwch wybod beth i'w wneud os bydd eich dodrefn yn ddiffygiol neu os bydd problem o ran dosbarthu neu osod y dodrefn, ac wrth bwy y gallwch gwyno.

Dodrefn - eich hawliau

Mae'r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i unrhyw ddodrefn a brynwch gan fasnachwr fod:

  • yn unol â'r disgrifiwyd - gan gyfateb i'r disgrifiad ar y pecyn neu'r hyn y dywedodd y masnachwr wrthych
  • o ansawdd boddhaol, e.e. ni ddylai semau'r dodrefn fod yn dod yn rhydd
  • yn addas at y diben - yn addas at y defnydd a ddisgrifir ac unrhyw ddefnydd penodol y gwnaethoch ei egluro i'r masnachwr, e.e. dylai bwrdd plygu blygu

Os na fydd eich dodrefn yn bodloni unrhyw rai o'r pwyntiau uchod, mae'n ddiffygiol ac fel arfer bydd gennych yr hawl i'w gael wedi'i atgyweirio, i gael dodrefn newydd yn ei le neu i gael ad-daliad.

Os byddwch yn prynu dodrefn ar-lein neu dros y ffôn, ffacs neu drwy'r post, fel arfer bydd gennych saith diwrnod gwaith i:

  • ganslo eich archeb
  • dychwelyd y dodrefn ar ôl i chi ei dderbyn

Os gwnaed eich dodrefn yn arbennig ar eich cyfer, ni fyddwch fel arfer yn gallu canslo eich archeb oni fydd y dodrefn yn ddiffygiol.

Mae'n bosibl y bydd rhai masnachwyr yn caniatáu i chi ddychwelyd dodrefn os na fydd yn ddiffygiol, e.e. os nad yw'n ffitio yn eich tŷ pan fydd yn cyrraedd. Os byddwch am ddychwelyd rhywbeth, cysylltwch â'r masnachwr cyn gynted â phosibl.

Dodrefn a diogelwch tân

Rhaid i bob dodrefn â gorchudd, e.e. soffa, a brynwch gan fasnachwr gyrraedd safonau diogelwch tân - hyd yn oed os mai eitem ail-law rydych yn ei phrynu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid bod profion diogelwch wedi'u cynnal ar y llenwadau a'r ffabrig.

Dylai dodrefn newydd arddangos labeli diogelwch tân - ar y soffa mae'n bosibl y bydd y label o dan y clustogau. Edrychwch am y label cyn i chi brynu.

Os byddwch yn prynu rhywbeth ail-law, mae'r masnachwr yn gyfrifol am sicrhau bod y dodrefn yn cyrraedd safonau diogelwch tân.

Trefnu gwarant

Mae'n bosibl y bydd y masnachwr yn ceisio gwerthu gwarant i chi pan fyddwch yn prynu dodrefn. Mae gwarant yn rhoi hawliau ychwanegol i chi, e.e. i gael yr eitem wedi'i hatgyweirio neu i gael eitem newydd os aiff rhywbeth o'i le.

Cyn i chi brynu gwarant, edrychwch ar y polisi i weld beth mae'n ei gynnig.

Mae'n bosibl y bydd difrod i ddodrefn wedi'i gwmpasu gan eich polisi yswiriant cartref, e.e. os mai llifogydd fydd wedi achosi'r difrod.

Mae'n bosibl y bydd dodrefn newydd yn cynnwys gwarant am ddim gan y gweithgynhyrchwr.

Sut y byddwch yn talu a'ch hawliau

Os byddwch yn prynu dodrefn gan ddefnyddio cerdyn credyd neu gytundeb credyd wedi'i drefnu gan y siop, bydd gennych ddiogelwch ychwanegol. Bydd y cwmni cyllid yn rhannu cyfrifoldeb gyda'r masnachwr os bydd y dodrefn yn ddiffygiol. Mae hyn yn golygu y gallwch gwyno i'ch cwmni cyllid os bydd rhywbeth yn mynd o'i le (gweler y ddolen isod).

Os byddwch yn talu gan ddefnyddio Visa, Mastercard neu Maestro, mae'n bosibl y bydd eu cynllun 'chargeback' yn berthnasol os bydd y dodrefn yn ddiffygiol neu os bydd y gwerthwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Bydd angen i chi gysylltu â chwmni'r cerdyn i geisio hawlio ad-daliad.

Problemau wrth osod dodrefn

Os bydd problem wrth osod eich dodrefn, dim ond os oedd y gwaith gosod yn rhan o'ch trefniant wrth brynu'r dodrefn y bydd y masnachwr yn gyfrifol. Er enghraifft, os oedd y pris yn cynnwys cyflenwi'r carped a'i osod.

Os gwnaethoch dalu gosodwr ar wahân, dylech hawlio yn erbyn y gosodwr hwnnw.

Problemau o ran derbyn y dodrefn

Mae'r hawl gennych i ofyn am ad-daliad os na fydd eich dodrefn yn cyrraedd ar y dyddiad y cytunwyd arno'n ysgrifenedig gyda'r masnachwr.

Os cawsoch ddyddiad derbyn amcangyfrifedig ac nad yw eich dodrefn yn cyrraedd, dylech ysgrifennu at y masnachwr a rhoi dyddiad terfynol ar gyfer derbyn y dodrefn. Os na fyddwch wedi derbyn y dodrefn erbyn y dyddiad hwn, gallwch ofyn am ad-daliad.

Sut i gwyno am ddodrefn

Cadarnhau a yw'r masnachwr yn aelod o'r Ombwdsmon Dodrefn

Yn gyntaf ysgrifennwch at y masnachwr gan egluro'ch cwyn.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cwyn ysgrifenedig, dylech glywed gan y masnachwr o fewn cyfnod rhesymol, e.e. 14 diwrnod.

Os na fyddwch yn cael ymateb neu os na fyddwch yn cytuno â'r ymateb, edrychwch i weld a yw'r masnachwr yn aelod o gymdeithas fasnach, e.e. yr Ombwdsmon Dodrefn. Mae'n sefydliad annibynnol sy'n helpu i ddatrys anghydfodau am ddodrefn, gan gynnwys problemau gyda darparwyr carpedi, ceginau ac ystafelloedd ymolchi.

Os bydd y masnachwr yn aelod o'i gynllun, gall yr ombwdsmon eich helpu chi a'r masnachwr i ddod i gytundeb. Os na allwch chi a'r masnachwr gytuno, gall yr ombwdsmon benderfynu ar yr achos.

Ni all yr ombwdsmon benderfynu ar achosion lle mae'r dodrefn yn werth mwy na £5000 neu'n hŷn na chwe blynedd.

Os nad yw eich masnachwr yn aelod o gymdeithas fasnach a'ch bod am barhau â'ch cwyn, mae'n bosibl y bydd angen arbenigwr arnoch i:

  • archwilio eich dodrefn
  • cyflwyno adroddiad annibynnol

Bydd yn rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn. Dilynwch y ddolen isod i gael cyngor ar arbenigwyr ac anghydfodau.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU