Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae nwyddau ffug yn cynnwys dillad a phersawr â label dylunydd ffug, a DVDs a gemau cyfrifiadurol dynwaredol. Os credwch eich bod wedi prynu eitem ffug, mae'n bosibl y bydd gennych hawliau o hyd y gallech eu defnyddio yn erbyn y gwerthwr. Mynnwch wybod y gyfraith a phwy all helpu.
Mae nwyddau ffug yn gopïau o bethau y mae pobl am eu prynu. Gelwir nwyddau ffug hefyd yn nwyddau 'dynwaredol'.
Y nwyddau ffug mwyaf cyffredin yw:
Mae llawer o'r eitemau hyn wedi'u diogelu gan hawlfraint neu nodau masnach. Mae hyn yn golygu mai dim ond y perchennog gwreiddiol sydd â'r hawl i wneud yr eitemau hynny. Wedyn gall y perchennog ennill arian pan gaiff y nwyddau eu gwerthu.
Os byddwch yn prynu nwyddau ffug dramor, gallech wynebu dirwy fawr yn y fan a'r lle
Gall pobl sy'n gwerthu nwyddau ffug wynebu dirwyon o hyd at £5,000 neu garchar os ydynt wedi eu dyfarnu'n euog o werthu nwyddau ffug yn y gorffennol.
Gall gwerthwyr hefyd wynebu camau cyfreithiol os caiff copïau eu gwneud o ddyluniadau neu nwyddau heb nod masnach. Gelwir hyn yn weithred 'twyllo' ('passing-off' yn Saesneg). Mae nodau masnach yn symbolau neu eiriau a gaiff eu rhoi ar nwyddau a gwasanaethau, e.e. logos neu enwau brand.
Os byddwch yn prynu nwyddau ffug dramor, gallech wynebu dirwy fawr yn y fan a'r lle.
Mae'n anghyfreithlon prynu neu lawrlwytho deunydd dynwaredol fel caneuon a ffilmiau. Mae cynlluniau ar droed hefyd i bobl sy'n lawrlwytho deunydd dynwaredol dderbyn llythyrau rhybudd gan eu darparwr gwasanaeth rhyngrwyd.
Gall fod yn anodd gwybod pa un a ydych yn prynu nwyddau ffug pan fyddwch yn prynu ar-lein neu'n gwneud cynnig am eitem ar safle arwerthu ar y rhyngrwyd.
Os byddwch yn prynu nwyddau o dramor ar-lein, gall tollau eu hatafaelu pan fyddant yn cyrraedd yn y DU. Byddwch yn colli'r nwyddau ac mae'n bosibl y byddwch yn colli'r arian y gwnaethoch ei dalu amdanynt.
Dylech gynnal gwaith ymchwil sylfaenol cyn i chi dalu unrhyw arian neu roi unrhyw fanylion cerdyn credyd. Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod sut y gallwch siopa'n ddiogel ar-lein.
I gael cyngor ymarferol i ddefnyddwyr, ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06
Mae gennych rai hawliau yn ôl y gyfraith sy'n eich diogelu os byddwch yn prynu nwyddau sy'n ddiffygiol. Gallwch ddefnyddio'r dolenni isod i gael gwybod eich hawliau.
Dylech fod yn gallu defnyddio'r hawliau hyn o hyd, e.e. i gael ad-daliad os na fydd y nwyddau 'yn unol â'r disgrifiad'. Ond gall fod yn anodd cysylltu â'r gwerthwr i ddatrys eich cwyn.
I gael mwy o gyngor ar eich hawliau os byddwch wedi prynu nwyddau ffug, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 040506.
Os byddwch am roi gwybod bod rhywun yn gwerthu nwyddau ffug, defnyddiwch y ddolen isod i gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr. Nid oes rhaid i chi roi eich enw.
Os byddwch am roi gwybod am feddyginiaethau ffug, gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i gysylltu â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.
Byddwch yn amheus o fargeinion. Os bydd rhywbeth yn llawer rhatach na'r disgwyl, edrychwch ar ansawdd y nwyddau. Edrychwch am enwau sydd wedi'u sillafu'n anghywir a logos sydd wedi'u dylunio'n wael.
Gofynnwch a oes gan y gwerthwr bolisi dychwelyd. Er mwyn dychwelyd rhywbeth, bydd angen i chi fod yn hyderus y gallwch ddod o hyd i'r gwerthwr ar ôl i chi brynu'r nwyddau.
Cymerwch ofal arbennig os bydd nwyddau'n cael eu gwerthu mewn mannau lle y bydd yn anodd cysylltu â'r gwerthwr yn ddiweddarach. Er enghraifft, marchnadoedd stryd, arwerthiannau cist car, tafarndai a ffeiriau cyfrifiadur.
Mae'n bosibl y bydd y nwyddau o ansawdd gwael neu'n beryglus. Er enghraifft, gall colur ffug achosi brech ar y croen a gall rhannau ceir ffug fod yn ddiffygiol ac achosi damweiniau.
Os bydd y nwyddau ffug yn ddiffygiol neu'n peidio â gweithio, gall fod yn anodd i chi eu dychwelyd neu gael ad-daliad.
Gall gwerthu nwyddau ffug ariannu troseddau cyfundrefnol, e.e. gwerthwyr cyffuriau.
Os byddwch yn prynu nwyddau ffug, ni fydd gwneuthurwr gwreiddiol y nwyddau yn cael unrhyw arian. Er enghraifft, yn y pen draw, bydd gan gwmni gemau cyfrifiadur lai o arian i'w wario ar greu gemau newydd.
Nid yw pobl sy'n gwerthu nwyddau ffug yn talu trethi ar yr hyn y maent yn ei werthu. Mae hyn yn golygu na all busnesau sy'n gwneud nwyddau dilys, e.e. bagiau llaw, gystadlu â'r prisiau a godir gan bobl sy'n gwneud ac yn gwerthu rhai ffug.