Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Prynu car ail-law - archwiliadau y dylech eu gwneud

Cyn i chi brynu car ail-law, dylech gynnal archwiliadau i weld a yw honiadau'r gwerthwr am y car yn gywir. Mynnwch wybod beth y dylech chwilio amdano pan fyddwch yn edrych ar gar ac yn mynd am dro prawf.

Prynu car ail-law

Cyn i chi brynu car ail-law, dylech:

  • archwilio cyflwr y car, gan gynnwys archwiliadau mecanyddol
  • cadarnhau hanes y car
  • mynd am dro prawf yn y car

Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg y byddwch yn prynu car diffygiol neu gar sydd wedi'i ddwyn.

Os nad ydych yn teimlo'n hyderus ynghylch cynnal yr archwiliadau ar y car eich hun, gallwch dalu arbenigwyr i wneud hyn ar eich rhan, e.e. gwasanaeth achub cerbydau.

Mynnwch gael yr atebion i unrhyw gwestiynau rydych wedi'u gofyn i'r gwerthwr yn ysgrifenedig cyn i chi brynu'r car. Mae hyn yn golygu y bydd gennych brawf o'r honiadau a wnaed gan y gwerthwr.

Mae ble y byddwch yn prynu eich car yn newid pa hawliau a fydd gennych os bydd y car yn datblygu diffyg yn ddiweddarach (gweler y ddolen isod).

Archwilio cyflwr car

Gallwch brofi cyflwr car drwy edrych ar:

  • bod y peintwaith mewn cyflwr da o hyd
  • nad yw rhiniogau, bwâu olwynion na gwaelod drysau wedi rhydu
  • nad yw teiars wedi'u difrodi nac wedi treulio
  • bod gwregysau diogelwch yn gweithio
  • nad oes unrhyw arwydd o ollwng ar seliau drysau na ffenestri
  • bod gwaith trydanol yn gweithio, e.e. goleuadau ac yn y dangosfwrdd

Os bydd car wedi bod mewn damwain ddifrifol, gall hyn achosi difrod parhaol sy'n golygu nad yw'n ddiogel.

Ymhlith yr arwyddion bod car wedi bod mewn damwain mae'r canlynol:

  • nid yw cist y car yn cau'n iawn
  • mae gwaith weldio wedi'i wneud ar yr injan
  • mae atgyweiriadau wedi'u gwneud i gist y car - dylech hefyd edrych o dan garped cist y car
  • mae paneli corff y car wedi'u hatgyweirio - holwch y gwerthwr os bydd gennych unrhyw amheuaeth
  • mae lliw y peintwaith yn anghyson neu mae'r paneli yn lliwiau gwahanol

Mynd am dro prawf mewn car

Dylech bob amser geisio mynd am dro prawf mewn car cyn i chi ei brynu. Wrth yrru'r car, dylech sicrhau'r canlynol:

  • nid yw'r car yn tynnu i un ochr pan fyddwch yn brecio
  • nid yw'r breciau'n gwichian
  • nid oes arogl cryf o betrol neu olew sy'n awgrymu bod nam ar yr injan
  • nid oes unrhyw synau anarferol yn yr injan
  • nid yw'r olwyn lywio yn crynu
  • bod modd newid gêr yn llyfn ac nid yw'r gêrs yn cloi
  • nid yw'r injan yn swnio'n wahanol pan gaiff y cydiwr ei bwyso - gallai hyn awgrymu problemau gyda'r gêr a'r cydiwr

Unwaith y byddwch wedi gorffen y tro prawf, gadewch yr injan wedi tanio tra byddwch yn edrych o dan y foned a gweddill y car. Cadarnhewch y canlynol:

  • nid yw'r injan yn ratlo
  • nid oes unrhyw olew yn gollwng
  • nid oes unrhyw fwg glas na du o'r bibell wacáu (sy'n awgrymu injan sydd wedi treulio)
  • nid oes unrhyw fwg llwyd o'r bibell wacáu (sy'n awgrymu bod dŵr yn gollwng i mewn i'r injan)

Cadarnhau hanes y car

Cadarnhewch fod y car yn eiddo i'r gwerthwr. Os bydd y car wedi'i ddwyn neu fod benthyciad car yn ddyledus arno, cymerir y car oddi arnoch ac ni fyddwch yn cael eich arian yn ôl.

Os bydd rhywun wedi ymyrryd â rhif adnabod cerbyd (VIN) y car, mae'n arwydd bod y car wedi'i ddwyn (gweler y ddolen isod). Dylai'r VIN ar y car (sydd fel arfer o dan y foned ac ar ffenestri'r car) fod yr un peth â'r rhif sydd ar dystysgrif gofrestru'r car.

Gallwch hefyd dalu cwmni i gynnal archwiliad o hanes cerbyd ar unrhyw gar rydych am ei brynu. Bydd hyn yn dangos:

  • unrhyw gyllid sy'n ddyledus ar y car
  • hen hawliadau yswiriant ar y car
  • os cofnodir bod y car wedi'i ddwyn

Gallwch ddod o hyd i gwmnïau sy'n cynnal yr archwiliadau hyn mewn cylchgronau moduro neu drwy chwilio am 'vehicle history checks' ar-lein.

Clocio ceir

Clocio ceir yw pan fo'r cloc milltiroedd wedi'i droi'n ôl i leihau nifer y milltiroedd sydd ar y cloc. Bydd hyn yn cynyddu gwerth y car ar gam.

Ymhlith yr arwyddion bod car wedi'i glocio mae'r canlynol:

  • mae rhifau'r cloc milltiroedd allan o'u lle
  • mae nifer y milltiroedd ar y dystysgrif MOT ddiwethaf neu ddogfennau hanes gwasanaeth y car yn fwy na darlleniad y cloc milltiroedd
  • mae'r nobyn gêr, yr olwyn lywio a darnau rwber y pedalau wedi'u hailosod er mwyn gwneud i'r car edrych yn fwy newydd

Gofynnwch i ddeliwr pa archwiliadau y mae wedi'u cynnal ar y car a beth mae wedi'i ganfod am nifer y milltiroedd.

Os byddwch o'r farn bod car wedi'i glocio, rhowch wybod i Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cynghori a ariennir gan y llywodraeth.

Os bydd y car yn ddiffygiol

Hyd yn oed os byddwch yn cynnal yr archwiliadau hyn, gall diffyg ddatblygu ar gar rydych wedi'i brynu. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod beth yw eich hawliau o ran cael atgyweiriad, car arall yn lle'r car diffygiol neu ad-daliad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU