Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Creu llythyr cwyno gan ddefnyddio templed

Defnyddiwch y llythyrau templed hyn i gwyno wrth siopau a busnesau. Mae pob llythyr yn cynnwys manylion y gyfraith rydych chi am i’r masnachwr ei dilyn.

Ysgrifennu llythyr cwyno

Os oes problem â nwyddau neu wasanaethau, e.e. maent yn ddiffygiol, cwynwch wrth y masnachwr. Os gwnaethoch brynu rhywbeth â cherdyn credyd neu gytundeb credyd, gallwch chi gwyno wrth y cwmni cyllid hefyd.

Cyn i chi ysgrifennu llythyr, gwnewch yn siŵr bod gennych chi enw a chyfeiriad cywir y masnachwr neu’r cwmni cyllid. Cofiwch wneud y canlynol:

  • rhoi eich rhif cyfeirnod, rhif eich cytundeb neu rif eich cyfrif, os oes gennych un
  • cadw copi o'ch llythyr ar gyfer eich cofnodion eich hun
  • anfon eich llythyr gyda’r post cofnodedig
  • ysgrifennu eto os na chewch ymateb i’ch llythyr ar ôl cyfnod rhesymol, e.e. 14 diwrnod

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU