Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Cwyno am nwyddau a brynwyd ar gredyd

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cytundeb credyd, bydd hawliau gennych sy'n eich diogelu os bydd y nwyddau'n ddiffygiol neu os bydd cwmni'r masnachwr yn mynd i'r wal. Mynnwch wybod beth y gallwch hawlio ar ei gyfer a phryd.

Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le gyda nwyddau neu wasanaethau a brynwyd ar gredyd

Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le gyda rhywbeth rydych wedi'i brynu, fel arfer bydd gennych hawl i gael yr eitem wedi'i thrwsio neu eitem arall yn ei lle neu ad-daliad gan y masnachwr. Gelwir y rhain yn hawliau defnyddwyr.

Gallwch hefyd wneud hawliad mewn perthynas â'r diffyg gan eich cwmni cyllid os gwnaethoch dalu am yr eitem neu'r gwasanaeth gydag un o'r canlynol:

  • cerdyn credyd
  • cerdyn siop
  • cytundeb 'sêl credyd' – mae'r masnachwr yn darparu'r nwyddau a'r cyllid, ee rydych yn prynu gwely o siop ac yn talu amdano â thaliadau misol

Mae hyn yn golygu y gallwch wneud hawliad gan y cwmni cyllid:

  • os nad yw'r masnachwr yn fodlon trwsio neu newid yr eitem na rhoi ad-daliad
  • os yw cwmni'r masnachwr wedi mynd i'r wal

Bydd eich hawliau'n wahanol os byddwch yn prynu rhywbeth gyda benthyciad hurbwrcas neu werthu amodol a'i fod yn ddiffygiol (gweler y ddolen isod).

Pryd y gallwch wneud hawliad

Cael cyngor gan Cyswllt Defnyddwyr

I gael cyngor defnyddwyr ymarferol, ffoniwch 08454 04 05 06

Os bydd rhywbeth yn costio rhwng £100 a £30,000, gallwch wneud hawliad gan eich cwmni cyllid mewn perthynas â diffygion neu os bydd cwmni'r masnachwr yn mynd i'r wal.

Os bydd rhywbeth yn costio mwy na £30,000 a'ch bod wedi'i brynu ar ôl 1 Chwefror 2011, efallai y gallech hawlio yn erbyn eich cwmni cyllid.

Os gwnaethoch dalu am rywbeth gyda cherdyn credyd Mastercard neu Visa, bydd gennych hefyd yr opsiwn o wneud hawliad drwy eu cynllun 'chargeback'. Er enghraifft, gallwch wneud hawliad drwy chargeback os oes diffyg gyda rhywbeth y gwnaethoch ei brynu a oedd yn costio llai na £100.

I gael cyngor ynghylch pwy i hawlio ganddynt, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.

Sut i wneud hawliad

Dylech wneud eich hawliad i'r cwmni cyllid yn ysgrifenedig a chynnwys copïau o unrhyw dderbynebau. Anfonwch eich llythyr gan ddefnyddio 'recorded delivery' fel bod gennych brawf o'ch hawliad.

Os ydych yn hawlio o dan gynllun chargeback, ysgrifennwch at gwmni'r cerdyn cyn gynted y byddwch yn gwybod bod problem. Fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud hawliad o fewn 120 o ddiwrnodau i brynu'r nwyddau neu'r gwasanaeth.

Cwyno am nwyddau neu wasanaethau sy'n costio mwy na £30,000

Os oes rhywbeth a brynwyd gennych yn costio mwy na £30,000, dim ond os gwnaethoch ei brynu cyn 1 Chwefror 2011 y gallwch wneud hawliad yn erbyn y cwmni cyllid.

Ni allwch wneud hawliad:

  • os gwnaethoch dalu gyda cherdyn credyd
  • os yw'r cytundeb credyd am fwy na £60,020
  • gwnaethoch gymryd y benthyciad am resymau busnes
  • gwnaethoch drefnu'r benthyciad eich hun
  • nid yw eich cytundeb credyd yn nodi ei fod ar gyfer rhywbeth penodol, fel car neu gegin newydd

I ddechrau hawliad, cwynwch wrth y masnachwr yn gyntaf. Os na fyddwch yn cytuno gyda'r hyn y mae'r masnachwr yn ei gynnig i chi, gallwch wneud hawliad gan eich cwmni cyllid.

Beth sy'n digwydd os caiff eich hawliad ei wrthod?

Os bydd y cwmni cyllid yn gwrthod eich digolledu, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Bydd angen i chi roi wyth wythnos i'r cwmni cyllid ddatrys eich problem cyn i chi gwyno i'r ombwdsmon.

Os na all yr ombwdsmon eich helpu, efallai y bydd angen i chi gymryd camau yn erbyn y masnachwr neu'r cwmni cyllid er mwyn datrys eich anghydfod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU