Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Pecynnau rhyngrwyd, teledu a ffôn - hawliau defnyddwyr

Mae llawer o gwmnïau yn cynnig darparu gwasanaethau ffôn, rhyngrwyd a theledu i'ch cartref erbyn hyn. Mynnwch wybod beth yw'r lleiaf y dylech ei ddisgwyl wrth drefnu pecyn a beth i'w ystyried wrth lofnodi contract.

Eich hawliau wrth brynu pecyn rhyngrwyd, teledu a ffôn

Cael cyngor gan Cyswllt Defnyddwyr

I gael cyngor defnyddwyr ymarferol ffoniwch 08454 04 05 06

Mae rhai cwmnïau yn cynnig pecynnau sy'n rhoi gwasanaethau ffôn, rhyngrwyd a theledu i chi am dâl misol parhaus. Mae hyn yn golygu, yn lle talu tri chwmni gwahanol am ffôn, rhyngrwyd a theledu, y byddwch yn talu un cwmni.

Rhaid i gwmni sy'n darparu gwasanaethau ffôn, rhyngrwyd a theledu:

  • ddarparu offer sy'n gweithio i chi - er enghraifft blwch pen set teledu
  • darparu gwasanaethau gyda sgil a gofal rhesymol - er enghraifft, os bydd angen gosod teledu cebl, ni fyddech yn disgwyl i'r ceblau fod yn rhy amlwg
  • darparu gwasanaethau o fewn amser rhesymol - er enghraifft, ni fyddech yn disgwyl iddi gymryd mwy na diwrnod i osod teledu lloeren

Os bydd eich cyflenwr yn methu â darparu gwasanaeth sy'n bodloni'r pwyntiau uchod, dylai ddatrys y broblem am ddim.

Os na all y cyflenwr ddatrys y broblem, mae'n bosibl y bydd gennych yr hawl i ganslo eich contract neu newid faint rydych yn ei dalu am y pecyn. Gallwch gael cyngor ar hyn gan Cyswllt Defnyddwyr, y gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr a ariennir gan y llywodraeth.

Cyn i chi lofnodi contract

Wrth edrych am becynnau cyfun, ystyriwch beth sydd ei angen arnoch ac a fydd y pecyn yn rhoi gwerth da am arian.

Efallai y bydd y pris misol cyfun yn rhatach na'r pris am yr holl wasanaethau ar wahân, ond efallai na fydd y gwasanaethau a gewch cystal. Er enghraifft, gallai'r cyflymder band eang fod yn arafach mewn pecyn cyfun neu efallai y bydd llai o ddewis o sianelau teledu ar gael i chi.

Cyn i chi lofnodi contract ar gyfer eich pecyn rhyngrwyd, teledu a ffôn, cadarnhewch a oes angen llinell ffôn BT arnoch. Os nad oes llinell o'r fath gennych, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl cysylltu i BT cyn y gallwch drefnu pecyn newydd.

Dylech hefyd ddarllen telerau ac amodau'r contract i weld a oes:

  • nifer gofynnol o fisoedd y bydd yn rhaid i chi dalu'r cwmni amdanynt
  • terfyn defnydd neu bolisi defnydd teg, e.e. sy'n nodi na allwch lawrlwytho ffeiliau mawr yn barhaus
  • tâl os byddwch am newid cwmnïau neu os byddwch yn symud tŷ cyn diwedd cyfnod gofynnol y contract
  • cost i uwchraddio unrhyw ran o'r pecyn yn ddiweddarach, e.e. er mwyn gwella cyflymder eich gwasanaeth band eang neu dderbyn sianelau manylder uwch (HD)

Os ydych yn rhentu eich cartref, cadarnhewch a oes angen caniatâd eich landlord arnoch i osod dysgl lloeren neu geblau y tu mewn.

Canslo eich contract

Edrychwch ar delerau ac amodau eich contract i weld a allwch ei ganslo. Os byddwch yn dod â chontract i ben yn gynnar, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu ffi.

Os gwnaethoch ymrwymo i becyn newydd ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post, fel arfer bydd gennych saith diwrnod gwaith i ganslo (gweler y ddolen isod).

Os nad ydych yn deall unrhyw ran o delerau ac amodau eich contract, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr.

Newid cyflenwyr ar gyfer band eang

Unwaith y byddwch wedi dewis eich pecyn cyfun, bydd angen Cod Awdurdodi Symud (MAC) arnoch er mwyn newid cyflenwr band eang.

Gofynnwch i ddarparwr eich gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) presennol am y cod hwn. Rhaid i'ch ISP ddarparu'r cod o fewn pum diwrnod gwaith. Bydd y cod yn para am 30 diwrnod.

Wedyn bydd angen i chi roi'r MAC i'ch cyflenwr newydd, a ddylai roi dyddiad trosglwyddo i chi.

Os na chewch ddyddiad trosglwyddo, gofynnwch i'ch ISP roi dyddiad i chi yn ysgrifenedig.

Os bydd oedi a'ch bod heb wasanaeth band eang, ni ddylech dalu hyd nes y cewch eich cysylltu.

Pan fydd pethau'n mynd o chwith

Os bydd problem gyda'r gwasanaeth, dylech gwyno i'r cwmni sy'n darparu eich pecyn ffôn, teledu a rhyngrwyd (gweler y ddolen isod).

Os na chaiff eich cwyn ei datrys, gallwch:

  • gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr
  • cwyno i'r gwasanaeth datrys anghydfodau ar gyfer darparwyr ffôn, teledu a rhyngrwyd, a fydd yn ymchwilio i'ch cwyn

Mae dau wasanaeth datrys anghydfodau: Swyddfa'r Ombwdsmon Telathrebu (Otelo) a Chynllun Dyfarnu Gwasanaethau Cysylltiadau a'r Rhyngrwyd (CISAS).

Bydd angen i chi roi wyth wythnos i'r cwmni ddatrys eich cwyn cyn y gallwch gwyno i'r gwasanaeth datrys anghydfodau.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU