Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r camau sy'n rhaid eu cymryd pan fydd tenant yn marw yn dibynnu ar ai'r cyngor neu landlord preifat sy'n berchen ar y cartref. Hefyd, daw ffactorau eraill i'r fei os yw'r ymadawedig yn rhannu'r cartref ar rent gyda rhywun arall.
Os oedd yr ymadawedig yn byw mewn cartref sy'n eiddo i landlord preifat, y contract rhwng yr ymadawedig a'r landlord sy'n pennu'r drefn os yw tenant yn marw. Er nad yw pob contract yn union yr un fath, fel arfer, rhaid rhoi cyfnod o rybudd i'r landlord i ddod â'r contract i ben.
Dan rai amgylchiadau, gellir trosglwyddo'r denantiaeth i unigolyn arall, yn dibynnu ar y math o denantiaeth a'r union sefyllfa. Os nad ydych chi'n siŵr pa fath o denantiaeth oedd gan yr ymadawedig, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y denantiaeth, cysylltwch â'r awdurdod tai lleol.
Os ydych chi'n ŵr/gwraig, partner, partner sifil neu aelod arall o deulu'r ymadawedig, ac rydych chi wedi bod yn byw yn y cartref yn ddi-dor am o leiaf 12 mis, mae gennych chi hawl i etifeddu'r denantiaeth. Serch hynny, dim ond unwaith y caniateir gwneud hyn. Felly, ni fydd hi'n bosib trosglwyddo'r denantiaeth yn awtomatig os oedd yr ymadawedig wedi etifeddu'r denantiaeth yn y lle cyntaf gan aelod arall o'r teulu a fu farw. Mewn achosion o'r fath, holwch y cyngor ynghylch cael tenantiaeth newydd.
Os ydych chi'n gyd-denant, mae gennych chi hawl i roi'r denantiaeth yn eich enw chi ac aros yn eich cartref. Y cyd-denant sydd dal yn fyw sy'n gyfrifol am unrhyw ôl-ddyledion rhent ar yr eiddo.
Os nad ydych chi'n gyd-denant nac yn aelod o'r teulu, ond rydych wedi bod yn byw gyda'r ymadawedig am o leiaf 12 mis, mae'n ddigon posib y gallwch etifeddu'r denantiaeth. Holwch adran dai'r cyngor am hyn.
Os oedd gan yr ymadawedig anabledd ond dyw'r tenant sydd dal yn fyw ddim yn anabl, efallai y bydd y cyngor yn awgrymu symud y tenant i gartref mwy addas. Yna, byddai'r cartref a addaswyd ar gael i berson anabl arall.
Cysylltwch ag adran hawl i brynu'r cyngor cyn gynted â phosib os oedd yr ymadawedig yn gwneud cais am hawl i brynu. Gallant ddweud wrthych beth fydd yn digwydd i'r cais, ac os ydych chi wedi etifeddu'r denantiaeth gallant eich hysbysu am eich sefyllfa ynghylch y cynllun hawl i brynu.
Os ydych chi'n dymuno symud allan o eiddo y buoch chi'n ei rannu gyda'r ymadawedig, mynnwch sgwrs ag adran dai'r cyngor. Mae'n bosib y gallant drefnu trosglwyddiad neu roi cyngor i chi ar yr opsiynau eraill sydd ar gael.
Bydd rhaid i chi glirio holl eiddo'r ymadawedig o'r cartref a chyflwyno'r allweddi ar ddiwedd y cyfnod o rybudd. Serch hynny, os bydd arnoch angen mwy na phedair wythnos i wneud hyn, yn ôl pob tebyg bydd adran dai y cyngor yn gallu bod yn hyblyg dan yr amgylchiadau.
Mae'n bosib y bydd yr adran dai yn gwybod am bobl neu fudiadau fyddai'n falch iawn o dderbyn y dodrefn nad oes mo'u hangen arnoch chi.
Dylech hefyd:
Dylech hysbysu adran dai y cyngor lleol cyn gynted â phosib bod y person wedi marw. Byddant yn rhoi ffurflen i chi ei llenwi i gadarnhau bod y denantiaeth yn dod i ben ac yn eich cynghori am y camau i'w cymryd i roi trefn ar unrhyw faterion eraill.
Rhaid rhoi pedair wythnos o rybudd i ddod â'r denantiaeth i ben sy'n dechrau ar y dydd Llun cyntaf ar ôl y dyddiad y bu'r person farw. Bydd rhaid talu rhent am y cyfnod hwnnw. Telir unrhyw rent neu ôl-ddyledion allan o ystâd yr ymadawedig. Os nad oedd yr ymadawedig wedi gwneud ewyllys, rhowch wybod i'r adran dai ac fe allant eich cynghori am y camau y dylech eu cymryd.