Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth ariannol i rai sydd mewn profedigaeth

Gall marwolaeth yn y teulu beri problemau ariannol i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl. P'un ai problemau tymor byr ynteu dymor hir ydynt, mae cymorth ariannol ar gael.

Taliad a Lwfans Profedigaeth

Os yw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi marw, mae'n bosib y gallwch chi gael Taliad Profedigaeth - taliad unswm o £2,000 sy'n cael ei dalu unwaith yn unig ac sy'n ddi-dreth.

Ar ôl i chi gael eich gwneud yn weddw, mae'n bosib y gallwch chi hawlio Lwfans Profedigaeth, y budd-dal wythnosol trethadwy a delir i chi am hyd at 52 wythnos ar ôl dyddiad marw eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil.

Lwfans Rhiant Gweddw

Os ydych chi'n rhiant sydd wedi colli gŵr, gwraig neu bartner sifil a bod gennych blentyn neu berson ifanc sy'n dibynnu arnoch a'ch bod yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer, mae'n bosib y gallwch chi hawlio'r Lwfans Rhiant Gweddw.

Pensiwn y Wladwriaeth

Os oeddech chi a'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn derbyn pensiwn sylfaenol y wladwriaeth adeg eu marw, mae'n bosib y gallwch ddefnyddio eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gael pensiwn sylfaenol ychwanegol.

Budd-daliadau pneumoconiosis (yn cynnwys asbetosis), byssinosis ac amrywiol afiechydon

Os bu farw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil o ganlyniad i Pneumoconiosis, byssinosis neu afiechydon penodol eraill a gawsant o'r gwaith, a hynny cyn 5 Gorffennaf 1948, gallwch wneud cais am fudd-dal.

Hefyd, os oedd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn anabl yn sgîl damwain neu afiechyd diwydiannol a ddigwyddodd cyn eu marwolaeth, ac nad oeddent yn cael Budd-dâl Anabledd Anafiadau Diwydiannol, efallai y gallwch ei hawlio am gyfnod cyn eu marwolaeth.

Pensiynau Rhyfel a Chynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Pensiwn di-dreth y gallech fod â'r hawl iddo os yw’ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner wedi marw yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EM neu yn ystod rhyfel yw'r Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.

I'r sawl a fu'n gwasanaethu ar ôl 6 Ebrill 2005, bydd Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog yn cynnig cymorth ariannol.

Lwfans Gwarcheidwad

Efallai y gallwch hawlio taliad Lwfans Gwarcheidwad di-dreth os ydych chi’n magu plentyn a bod y rhieni gwaed neu'r rhieni a'i mabwysiadodd wedi marw.

Budd-dal Plant

Taliad rheolaidd yw'r Budd-dal Plant a roddir i unrhyw un sy'n magu plentyn neu berson ifanc. Fe'i telir i bob plentyn sy'n gymwys ac nid yw eich incwm na'ch cynilion yn effeithio arno, felly gall y rhan fwyaf o bobl sy'n magu plentyn gael Budd-dal Plant.

Budd-daliadau mamolaeth

Os ydych chi'n feichiog neu fod gennych fabi newydd ond nad ydych chi'n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Lwfans Mamolaeth.

Cymhorthdal Incwm

Os nad oes modd i chi weithio'n amser llawn ac os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw, mae'n bosib y gallwch chi gael budd-dal Cymhorthdal Incwm. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi.

Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych chi o oed gweithio ond yn ddi-waith ac yn chwilio'n ddiwyd am waith, mae'n bosib y gallwch chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os oes gennych chi salwch neu anabledd sy'n effeithio ar eich gallu i weithio, efallai y gallwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae’n cynnig cefnogaeth bersonol a chymorth ariannol i chi, fel y gallwch gymryd rhan mewn gwaith priodol, os gallwch.

Credydau Treth

Efallai y gallai Credydau Treth Plant a Chredydau Treth i Bobl mewn Gwaith eich helpu - holwch beth ydyn nhw, pwy sy’n gallu eu hawlio a sut maen nhw’n cael eu talu.

Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn mae'n bosib bod gennych hawl i Gredyd Pensiwn - arian ychwanegol bob wythnos. Mae dwy ran i'r pensiwn - yr elfen 'Credyd Gwarant' a'r elfen 'Credyd Cynilion' (a all fod ar gael pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed).

Budd-dal Tai

Os ydych ar incwm isel a bod angen help ariannol arnoch i dalu eich rhent i gyd neu ran ohono, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu hawlio Budd-dal Tai.

Budd-dal Treth Cyngor

Dan rai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad Treth Cyngor - er enghraifft os yw'r eiddo'n wag, os mai dim ond un oedolyn sy'n byw ynddo, neu os ydych yn anabl, yn fyfyriwr, yn nyrs neu'n dod dan gategori arbennig arall. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Treth Cyngor.

Cymorth gyda chostau iechyd

Mae'r rhan fwyaf o driniaethau dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) am ddim, ond weithiau fe godir tâl am rai pethau. Efallai y cewch gymorth gyda chostau'r GIG, er enghraifft os ydych chi ar incwm isel.

Allweddumynediad llywodraeth y DU