Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-dal Plant

Taliad rheolaidd di-dreth yw'r Budd-dal Plant a roddir i unrhyw un sy'n magu plentyn neu berson ifanc. Fe'i telir i bob plentyn sy'n gymwys ac nid yw eich incwm na'ch cynilion yn effeithio arno, felly gall y rhan fwyaf o bobl sy'n magu plentyn ei gael.

Pwy sy'n gymwys?

Byddwch yn gallu cael Budd-dal Plant os ydych chi'n magu:

  • plentyn dan 16 oed
  • person ifanc dan 19 (dan 20 mewn rhai achosion) sydd naill ai'n astudio mewn addysg amser llawn (Lefel A neu gymhwyster cyfatebol) neu raglen hyfforddi gymeradwy
  • plentyn sy'n 16 neu'n 17 oed sydd wedi gadael addysg bellach amser llawn neu hyfforddiant cymeradwy yn ddiweddar ac wedi cofrestru i weithio neu hyfforddi gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd neu Connexions neu wasanaeth tebyg.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

  • £18.80 yr wythnos ar gyfer y plentyn hynaf
  • £12.55 yr wythnos ar gyfer pob plentyn ychwanegol

Yr effaith ar fudd-daliadau neu gredydau eraill

Nid oes 'prawf modd' ar gyfer y Budd-dal Plant (hynny yw, nid yw eich incwm na'ch cynilion yn effeithio arno). Wedi dweud hynny, mae'r Budd-dal Plant yn gallu effeithio ar fudd-daliadau eraill y gallech fod yn eu derbyn sy'n destun prawf modd. Rhai o'r budd-daliadau hynny yw:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dâl Treth Gyngor / Tai
  • Credyd Cyflogaeth y Fargen Newydd 50+

At ddibenion Credyd Treth, ni chaiff y Budd-dal Plant ei gyfri'n incwm.

Sut i hawlio

Dylech hawlio Budd-dal Plant ar unwaith:

  • pan gaiff eich plentyn ei eni
  • pan ddaw plentyn neu berson ifanc i fyw gyda chi
  • pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn
  • pan fyddwch yn dechrau cyfrannu at gost gofalu am blentyn

I gael Budd-dal Plant, rhaid llenwi ffurflen hawlio a chyflwyno tystysgrif geni neu fabwysiadu'r plentyn neu'r person ifanc. Ni dderbynnir llungopïau.

Os yw eich plentyn newydd ei eni, dylech fod wedi derbyn ffurflen hawlio yn y 'Pecyn Rhodd' a gawsoch gan yr ysbyty. Neu, llenwch ffurflen ar-lein (neu argraffwch un i'w llenwi'n ddiweddarach) ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Sut mae'n cael ei dalu

Gellir talu'r Budd-dal Plant yn syth i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Telir y Budd-dal Plant bob pedair wythnos, ond fe ellir ei dalu bob wythnos:

  • os ydych chi'n rhiant sengl
  • os ydych chi neu'ch partner neu bartner sifil yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd eich amgylchiadau'n newid - er enghraifft, os bydd y plentyn rydych chi'n derbyn Budd-dal Plant ar ei gyfer:

  • yn 16 neu'n 17 oed, wedi gadael addysg bellach amser llawn ac wedi cofrestru i weithio neu hyfforddi gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd neu Connexions neu wasanaeth tebyg
  • yn 16 i 19 oed ac wedi gadael addysg bellach amser llawn neu hyfforddiant sydd wedi'i gymeradwyo yn gynt na'r dyddiad a roesoch i'r Swyddfa Budd-dal Plant
  • ddim yn byw gyda chi mwyach

Gallwch roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant am y newid yn eich amgylchiadau ar-lein, neu gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant drwy ffonio'u llinell gymorth ar 0845 302 1444, ffôn testun 0845 302 1474 (rhwng 8.00 am ac 8.00 pm saith niwrnod yr wythnos).

Allweddumynediad llywodraeth y DU