Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar daliadau cynhaliaeth

Os byddwch yn gwneud neu'n cael taliadau cynhaliaeth a/neu daliadau Cynhaliaeth Cynnal Plant ar ôl 6 Ebrill 2000, fel arfer ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y dreth y byddwch yn ei thalu. Dim ond pobl a aned cyn 6 Ebrill 1935 ac sy'n gwneud y taliadau hyn fydd angen meddwl am y sefyllfa dreth.

Os ydych yn derbyn taliadau

Fel arfer mae'r person sy'n gwneud y taliad cynhaliaeth yn talu i chi y swm llawn sy'n ddyledus ichi. Ni fydd raid ichi dalu treth arno.

Os ydych chi'n gwneud taliadau

Os mai chi sy'n gwneud y taliadau cynhaliaeth, byddwch yn talu'r swm llawn sy'n ddyledus yn unol â'r cytundeb neu'r gorchymyn llys. Os ydych chi a'r person yr ydych yn gwneud y taliadau iddynt wedi'ch geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1935 ni fyddwch yn cael lwfans ar gyfer y taliadau hyn i leihau eich bil treth.

Pobl a aned cyn 6 Ebrill 1935

Os ydych chi'n gwneud taliadau

Gallwch gael lwfans i leihau eich bil treth ar gyfer unrhyw daliadau cynhaliaeth yr ydych yn eu gwneud:

  • os ganed chi neu eich cyn bartner priod neu eich cyn bartner sifil cyn 6 Ebrill 1935
  • os yw'r taliadau'n rhai y gellir 'eu gorfodi'n gyfreithiol' - mae hyn yn golygu y gall eich cyn bartner priod neu gyn bartner sifil ddwyn achos cyfreithiol oni wnewch y taliadau
  • os yw'r taliadau ar gyfer cynnal eich cyn bartner priod neu gyn bartner sifil (ar yr amod nad ydynt wedi ailbriodi neu mewn partneriaeth sifil newydd)

Gallwch gael lwfans hefyd os ydych yn gwneud taliadau i'r rhiant arall er budd un o'ch plant gyhyd ag bo:

  • naill ai chi neu'r rhiant arall wedi'ch geni cyn 6 Ebrill 1935
  • y taliadau'n rhai y gellir 'eu gorfodi'n gyfreithiol', a
  • y plentyn y mae'r taliadau er ei fudd o dan 21

Y cyfan y gallwch ei gael i leihau eich bil treth yw 10 y cant o £2,670 (ar gyfer 2009-2010). Felly, fe fyddech chi'n talu hyd at £267 yn llai o dreth yn y flwyddyn dreth honno.

Os ydych yn derbyn taliadau

Does dim treth ar daliadau a dderbynnir.

Pryd i ddatgan taliadau cynhaliaeth

Dim ond os ganed chi neu eich cyn bartner priod neu eich cyn bartner sifil cyn 6 Ebrill 1935 y bydd angen ichi roi manylion taliadau cynhaliaeth ar eich ffurflen dreth ac os oes lwfans treth ar y taliadau.

Ble i gael cyngor

Os oes angen cyngor arnoch am sut y trethir taliadau cynhaliaeth, gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Dreth neu ffonio llinell gymorth Hunanasesiad Cyllid a Thollau EM ar 0845 9000 444. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos gan gynnwys gwyliau banc.

Gallwch hefyd gael cyngor annibynnol di-dâl gan CAB (Cyngor Ar Bopeth), elusen sy'n rhoi arweiniad cyfrinachol ar broblemau cyffredinol, cyfreithiol ac ariannol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU