Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch naill ai ennill Pensiwn ychwanegol gan y Wladwriaeth neu gael un taliad unswm trethadwy. Os ydych chi eisoes yn talu treth, byddwch yn talu treth ar y taliadau hyn ar yr un gyfradd ag y byddwch yn ei thalu ar incwm arall.
Ystyr gohirio Pensiwn y Wladwriaeth yw eich bod yn dewis peidio â hawlio Pensiwn y Wladwriaeth wrth gyrraedd oed Pensiwn tan rywbryd yn y dyfodol. Hefyd, fe gewch ddewis peidio â'i hawlio ar ôl ei hawlio am gyfnod.
Y gyfraith sy'n pennu faint oed y mae'n rhaid i chi fod i gael Pensiwn y Wladwriaeth. I ddynion a anwyd cyn 6 Rhagfyr 1953, oedran presennol Pensiwn y Wladwriaeth yw 65 oed. I fenywod, ers mis Ebrill 2010, mae oedran presennol Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu o 60 i 65 oed. Mae hyn yn effeithio ar fenywod a anwyd ar 5 Ebrill 1950 neu ar ôl hynny. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod yn cynyddu’n fwy cyflym i 65 rhwng mis Ebrill 2016 a mis Tachwedd 2018. O fis Rhagfyr 2018 bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a menywod yn dechrau cynyddu i gyrraedd 66 ym mis Hydref 2020.
Nid oes ots tan pryd y byddwch yn dewis gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth - ni waeth pryd y byddwch yn ymddeol.
Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy am ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ac am y newidiadau i oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Er 6 Ebrill 2005, os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth (os ydych chi'n gweithio ai peidio) cewch ddewis un o'r opsiynau isod wrth hawlio.
Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am bum wythnos o leiaf, fe allwch ennill cynnydd o un y cant ar Bensiwn y Wladwriaeth am bob pum wythnos y byddwch chi'n gohirio hawlio. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 10.4 y cant yn ychwanegol am bob blwyddyn y byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Telir y Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol i chi pan fyddwch yn dechrau hawlio.
Mae'r Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn cael ei ystyried yn incwm trethadwy yn yr un ffordd â'r Pensiwn y Wladwriaeth arferol.
Taliad unswm trethadwy
Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis yn olynol, cewch ddewis cael taliad unswm a delir unwaith yn unig a chael Pensiwn y Wladwriaeth ar y gyfradd arferol. Seilir y taliad unswm, pan fyddwch yn ei hawlio, ar faint o Bensiwn y Wladwriaeth y byddech wedi'i gael yn arferol bob wythnos, yn ogystal â'r llog wythnosol.
Ni fydd eich taliad unswm yn effeithio ar y gyfradd yr ydych eisoes yn talu Treth Incwm arni - bydd yn cael ei drethu ar yr un gyfradd.
Yn yr un modd, os oes gennych hawl i lwfans ar sail oed uwch (gweler y canllaw isod i gael gwybodaeth am lwfansau ar sail oed), ac y byddai taliad unswm, fel arall, yn mynd â'ch incwm dros y trothwy pan fydd y lwfans ar sail oed yn dechrau gostwng, byddwch yn cadw'r lwfans uwch.
I gael gwybod pa effaith a gaiff gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth (os byddwch yn ei gymryd fel incwm neu fel taliad unswm) ar fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu hawlio o bosib - gan gynnwys Credyd Pensiwn, Budd-daliadau Tai, Budd-dal y Dreth Cyngor neu Gredydau Treth – gellir llwytho canllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn isod oddi ar y we.
Os nad ydych eisoes wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ond eich bod yn gwybod bod arnoch eisiau ei ohirio, does dim rhaid i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn nes eich bod yn dymuno dechrau ei hawlio. Ond os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-dal nawdd cymdeithasol arall bydd angen i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn beth yr ydych am ei wneud.
Os ydych eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, ond yr hoffech roi'r gorau i'w hawlio er mwyn ennill Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu i gael taliad unswm, cysylltwch â'ch canolfan bensiwn. Bydd y rhif ffôn ar unrhyw lythyrau yr ydych wedi'u cael gan y Gwasanaeth Pensiwn - neu gallwch chwilio ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod.