Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut caiff budd-daliadau eu trethu

Bydd rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn cyfri fel incwm trethadwy ac eraill ddim. Mae'n bwysig deall beth sy'n cyfri a beth nad yw'n cyfri at ddibenion treth - er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm treth iawn.

Budd-daliadau trethadwy

Os ydych chi'n drethdalwr sy'n llenwi ffurflen Hunanasesu, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cynnwys unrhyw fudd-daliadau trethadwy rydych chi'n eu cael yn eich incwm cyffredinol. Y budd-daliadau trethadwy mwyaf cyffredin yw:

  • Lwfans Profedigaeth
  • rhai taliadau Budd-dal Analluogrwydd - nid yw'r rhain yn drethadwy yn ystod y 28 wythnos gyntaf
  • rhai taliadau Cymhorthdal Incwm - nid yw'r rhain yn drethadwy os nad ydych chi wedi'ch cofrestru'n ddi-waith a'ch bod yn chwilio am waith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - ar sail cyfraniadau (os ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol)
  • pensiynau sy'n daladwy dan y cynllun Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
  • Lwfans Gofalwr - nid yw ychwanegiadau plant dibynnol yn drethadwy
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • pensiwn ymddeol - mae Pensiwn y Wladwriaeth yn drethadwy, ond yn wahanol i bensiynau cwmni, caiff ei dalu i chi heb dynnu'r dreth, felly mae angen i chi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth eich bod yn ei dderbyn
  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Budd-daliadau nad oes rhaid talu treth arnynt

Does dim rhaid i chi dalu treth ar rai budd-daliadau. Y budd-daliadau mwyaf cyffredin nad oes rhaid i chi dalu treth arnynt yw:

  • Lwfans Gweini
  • Bonws Dychwelyd i’r Gwaith
  • Taliad Profedigaeth
  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Arbennig Plant
  • Credydau Treth Plant
  • Taliadau Tywydd Oer
  • Budd-dal y Dreth Cyngor
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Budd-dal Tai
  • Y Budd-dal Analluogrwydd am y 28 wythnos gyntaf
  • Cymhorthdal Incwm - mae hwn yn drethadwy os ydych chi ar streic yn ystod anghydfod llafur
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - ar sail incwm
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
  • Budd-dal Analluedd - a ddisodlwyd gan Fudd-dal Analluogrwydd o fis Ebrill 1995 ymlaen ond sy'n dal yn cael ei dalu os dechreuodd yr analluedd cyn mis Ebrill 1995
  • Lwfans Mamolaeth
  • Bonws Nadolig i Bensiynwyr
  • Lwfans Enillion Is
  • Lwfans Ymddeol
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Taliadau'r Gronfa Gymdeithasol (a benthyciadau di-log) i bobl ar incwm isel i'w helpu gyda chostau mamolaeth, costau angladd, caledi ariannol ac ar ffurf grantiau gofal yn y gymuned
  • Pensiwn Gweddwon Rhyfel - os oes gennych hawl i gael Pensiwn Gweddwon Rhyfel ond nad ydych chi'n derbyn y taliad, neu eich bod yn derbyn llai o daliad oherwydd eich bod yn cael budd-dal arall, mae'n bosib na fydd yn rhaid i chi dalu treth ar rywfaint o'r budd-dal arall
  • Taliad Tanwydd Gaeaf
  • Credyd Treth Gwaith

Noder

Gall Lwfans Cyflogaeth a Chymorth fod yn drethadwy neu’n anrhethadwy. Bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn drethadwy os ydyw yn seiliedig ar gyfraniadau. Ni fydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn drethadwy os ydyw yn seiliedig ar incwm.

Efallai y bydd rhai pobl yn mudo o Fudd-dal Analluedd i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os byddwch yn symud o Fudd-dal Analluedd trethadwy i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau bydd yr incwm yn dal yn drethadwy. Os byddwch yn symud o Fudd-dal Analluedd anrhethadwy neu Gymhorthdal Incwm i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau bydd yr incwm yn dod yn drethadwy. Os byddwch yn symud i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm ni fydd y budd-dal newydd yn drethadwy.

Rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth os bydd eich budd-daliadau'n newid

Os byddwch chi'n dechrau cael budd-daliadau neu os bydd y taliadau'n dod i ben, fe allai hynny effeithio ar eich bil treth. Gorau po gyntaf y cysylltwch chi â'ch Swyddfa Dreth, ac wedyn byddan nhw'n gallu addasu'ch cod treth cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn talu'r hyn sy'n ddyledus - dim mwy a dim llai.

Os ydych chi eisoes yn talu treth

Os bydd eich budd-daliadau trethadwy'n dod i ben, rhowch wybod i'ch Swyddfa Dreth, fel na fyddwch chi'n talu gormod o dreth.

Os byddwch chi'n dechrau cael budd-daliadau newydd, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, rhowch wybod i'ch Swyddfa Dreth - yna, os yw'r budd-daliadau hynny'n drethadwy, byddwch chi'n osgoi sefyllfa lle bydd y dreth sy'n ddyledus yn cronni.

Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi fod yn talu treth ai peidio

Os ydych chi'n ceisio gweld a ddylech chi fod yn talu treth ai peidio, cofiwch gynnwys unrhyw fudd-daliadau trethadwy (gan gynnwys eich Pensiwn y Wladwriaeth) yn eich incwm cyffredinol.

Fe welwch fanylion cyswllt eich Swyddfa Dreth ar y gwaith papur gawsoch chi ganddynt, neu fe allwch chi chwilio amdanynt ar-lein.

Allweddumynediad llywodraeth y DU