Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio treth yn ôl os didynnwyd gormod o'ch pensiwn

Os byddwch yn talu treth ar bensiwn cwmni, ar bensiwn personol (gan gynnwys blwydd-dal ymddeol) neu ar Bensiwn y Wladwriaeth drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE), gallech fod yn talu gormod yn ddamweiniol am amryw o resymau. Os ydych chi wedi talu gormod o dreth, gallwch ei hawlio'n ôl.

Pam y gallech fod wedi talu gormod o dreth drwy’ch pensiwn

Dyma resymau cyffredin pam y gallech fod wedi talu gormod:

  • mae eich darparwr pensiwn wedi defnyddio'r cod treth anghywir mewn camgymeriad neu nid yw eich manylion personol yn gywir ganddo
  • mae eich budd-daliadau gan y wladwriaeth neu incwm arall trethadwy wedi lleihau yn ddiarwybod i Gyllid a Thollau EM, sy'n golygu bod gormod o incwm wedi’i gynnwys yn eich cod treth
  • mae'r swm blynyddol o Bensiwn y Wladwriaeth a gaiff ei gynnwys yn eich cod treth yn anghywir
  • mae gennych fwy nag un cod treth oherwydd bod gennych sawl pensiwn neu incwm cyflogaeth a phensiwn, ac nid ydych wedi defnyddio'ch lwfansau i gyd ar eich cod treth cyntaf ond mae eich codau treth eraill yn tybio eich bod wedi gwneud hynny
  • rydych wedi talu treth ar flwydd-dal ymddeol cyn mis Ebrill 2007 (lle tynnwyd 22 y cant cyn i chi gael y pensiwn a chithau'n drethdalwr 10 y cant neu ddim yn drethdalwr – gweler yr erthygl ar flwydd-daliadau ymddeol isod)
  • rydych wedi cael un neu ragor o gyfandaliadau pensiwn (a elwir yn ‘trivial commutation’ yn Saesneg), sef taliadau a gymerir yn lle pensiwn bach bob mis

Gweld beth yw eich cod treth os ydych chi'n Talu Wrth Ennill

Os ydych chi'n gyflogedig, neu os ymdrinnir â'ch pensiwn neu â'ch blwydd-dal drwy'r system Talu Wrth Ennill, gallwch edrych ar eich Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill diweddaraf i weld faint a pha fath o lwfansau di-dreth a gewch – byddwch yn talu treth ar unrhyw beth sy'n uwch na'ch lwfansau treth.

Bydd yr Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill yn cadarnhau eich cod treth ac fe ddylai hwn fod yr un fath â'r cod treth a welir ar y slip talu ar gyfer eich gwaith neu'ch pensiwn.

Gan amlaf, caiff ei anfon atoch cyn dechrau'r flwyddyn dreth a hefyd os bydd newid mewn amgylchiadau yn golygu y bydd cod treth yn newid.

Os oes gennych nifer o bensiynau gwahanol sy'n cael eu trethu drwy'r system Talu Wrth Ennill, neu os ydych yn gweithio ac yn cael un neu ragor o bensiynau, dylech gael mwy nag un Hysbysiad Cod – yn yr achos hwn mae'n arbennig o bwysig i chi wneud yn siŵr bod pob un ohonynt yn gywir.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai na chewch chi Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill bob blwyddyn – er enghraifft, os byddwch yn ymddeol yn gynnar. Os ydych chi'n poeni eich bod yn talu gormod o dreth ond nad oes gennych ddogfen i weld a yw hynny'n wir ai peidio, cysylltwch â Cyllid a Thollau EM.

Darllenwch yr erthyglau isod i gael gwybod mwy.

Hawlio ad-daliad drwy'r system Talu Wrth Ennill

Os ydych newydd ymddeol a ddim yn disgwyl incwm o bensiwn

Os ydych newydd ymddeol a ddim yn disgwyl cael unrhyw fath arall o incwm trethadwy (mae hyn yn cynnwys incwm pensiwn) yn ystod y flwyddyn dreth, dylech wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen P50 – Hawlio treth yn ôl pan ydych wedi rhoi’r gorau i weithio
  • ei hanfon i Gyllid a Thollau EM ynghyd â Rhan 2 a Rhan 3 eich P45 (ffurflen a gewch gan eich cyflogwr pan fyddwch yn rhoi’r gorau i weithio iddo)
  • cadw rhan 1A fel cofnod o'ch incwm

Yna, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus i chi drwy'r post.

Os byddwch yn cael pensiwn neu flwydd-dal ymddeol drwy'r system Talu Wrth Ennill

Os ydych chi'n cael incwm pensiwn trethadwy (gan gynnwys blwydd-dal ymddeol) drwy'r system Talu Wrth Ennill a'ch bod yn gweld gwall yn y flwyddyn dreth bresennol, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM. Byddant yn cywiro eich Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill ac yn ei anfon i'ch darparwr pensiwn, a bydd yntau’n newid y cod treth er mwyn addasu unrhyw daliadau eraill ar gyfer y flwyddyn honno.

Bydd y gordaliad yn cael ei gywiro'n awtomatig gan eich darparwr pensiwn, a bydd yn ad-dalu'r dreth yn y taliad nesaf. Efallai y byddwch yn talu llai o dreth yn y mis canlynol, neu os yw'n swm mawr cewch ad-daliad (gweler R ar eich slip talu).

Gwneud hawliad – blwyddyn dreth flaenorol

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM pam yr ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth ar eich enillion neu bensiynau am y flwyddyn dreth 2011-12. Mae’n bosib y bydd ganddynt bopeth sydd angen arnynt i wirio eich hawliad. Os na, byddant yn dweud wrthych ba wybodaeth sydd angen arnynt. Bydd Cyllid a Thollau yn anfon unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi.

Gwneud hawliad – blwyddyn dreth 2010-11 a blynyddoedd blaenorol

Os ydych yn hawlio ad-daliad treth a ddidynnwyd o'ch enillion neu'ch pensiynau yn ystod y flwyddyn dreth 2010-11 neu flynyddoedd blaenorol, ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EM a chynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol ynghylch eich enillion/pensiynau yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, er enghraifft:

  • P60, P45
  • gwybodaeth am hanes eich cyflogaeth a'ch budd-daliadau

Yn y rhan fwyaf o achosion, cewch y dreth rydych wedi’i gordalu yn ôl, cyn belled â’ch bod yn ei hawlio’n brydlon. Darllenwch yr adran ‘Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl’.

Hawlio ad-daliad ar flwydd-dal ymddeol

Ers mis Ebrill 2007, caiff incwm o flwydd-daliadau ymddeol ei drethu drwy'r system Talu Wrth Ennill – os ydych chi'n credu eich bod chi wedi talu gormod, gweler yr adran uchod ynghylch ‘Hawlio ad-daliad drwy'r system Talu Wrth Ennill’.

Ond, cyn mis Ebrill 2007, câi blwydd-daliadau ymddeol eu trethu ar 22 y cant, oni bai i chi lenwi ffurflen R89 ‘Cais i gael blwydd-dal heb dynnu treth’, neu ffurflen R86 ‘Cais i gael blwydd-dal ar y cyd heb dynnu treth’. Os na wnaethoch lenwi un o'r ffurflenni hyn, efallai eich bod wedi talu gormod o dreth os nad oeddech yn drethdalwr neu os oeddech yn drethdalwr ar y gyfradd 10 y cant yn y blynyddoedd hynny.

Nid yw ffurflenni R89 ac R86 yn cael eu defnyddio mwyach (ac eithrio ar gyfer blwydd-daliadau oes a brynwyd), ond os ydych chi wedi talu gormod, bydd yn bosib i chi hawlio rhywfaint o dreth yn ôl drwy ddefnyddio ffurflen R40 ‘Ad-daliad Treth’ ar gyfer unrhyw gyfnodau hyd at fis Ebrill 2007 – darllenwch yr adran isod am derfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl.

Hawlio ad-daliad ar gyfandaliad pensiwn (‘trivial commutation’)

Os yw cyfanswm y cyfraniadau rydych wedi'u gwneud i gronfa bensiwn yn golygu mai pensiwn bach o ychydig filoedd yn unig gewch chi bob blwyddyn, efallai y byddai'n well gennych ei gael fel un swm mawr (cyfandaliad) yn hytrach nag fel swm bach bob mis. Gelwir hyn yn ‘trivial commutation’ yn Saesneg. Os ydych chi wedi cael un cyfandaliad neu ragor mae'n bosib bod y dreth a dalasoch ar gyfradd uwch na'r gyfradd yr oeddech i fod i'w thalu dros y flwyddyn dreth.

Os ydych am wneud cais am ad-daliad, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • gofyn i Gyllid a Thollau EM am ffurflen P53 ‘Hawlio ad-daliad blwydd-dal/pensiwn cyffredin’
  • llenwi'r ffurflen gyda manylion yr amcangyfrif o'ch incwm ar gyfer y flwyddyn – caiff y ffurflen ei theilwra i'ch amgylchiadau unigol, felly dim ond gwybodaeth sy'n berthnasol i chi y bydd yn rhaid i chi ei darparu
  • anfon y ffurflen i Gyllid a Thollau EM gyda Rhan 2 a Rhan 3 eich ffurflen P45
  • cadw Rhan 1A fel cofnod o'ch incwm

Gan fod yr ad-daliad yn seiliedig ar ffigurau wedi'u hamcangyfrif, bydd yn rhaid i Gyllid a Thollau EM eu gwirio ar ddiwedd y flwyddyn. Felly, byddant yn anfon ffurflen P53, Archwiliad diwedd blwyddyn blwydd-dal/pensiwn cyffredin, arall atoch ar ôl 5 Ebrill er mwyn i chi allu rhoi union fanylion eich incwm iddynt. Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu, dylech ddangos yr union fanylion ar eich ffurflen dreth ar ddiwedd y flwyddyn.

Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl

Mae’r terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad wedi’u nodi yn y tabl isod. Os na fyddwch yn gwneud hawliad o fewn y terfyn amser, byddwch yn colli unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi.

Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl

Blwyddyn dreth Blwyddyn dreth yn dod i ben ar Rhaid hawlio erbyn
2008-09 5 Ebrill 2009 5 Ebrill 2013
2009-10 5 Ebrill 2010 5 Ebrill 2014
2010-11 5 Ebrill 2011 5 Ebrill 2015
2011-12 5 Ebrill 2012 5 Ebrill 2016

Y dogfennau y mae eu hangen arnoch i hawlio

Pan fyddwch yn hawlio treth yn ôl (ac eithrio pan fyddwch yn hawlio treth yn ôl drwy ffurflen R40) bydd angen i chi gynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol am eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, megis:

  • slipiau talu
  • ffurflen P60, P45
  • gwybodaeth am hanes eich cyflogaeth a'ch budd-daliadau
  • gwybodaeth am eich pensiynau ac am incwm arall

Sut byddwch chi'n cael eich ad-daliad

Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon archeb talu i chi drwy'r post ond gallwch ddweud wrthynt am dalu'r ad-daliad yn syth i'ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu. Gallwch hefyd enwebu rhywun arall i gael yr ad-daliad a gellir ei dalu iddynt drwy'r post neu'n syth i'w cyfrif banc neu eu cyfrif cymdeithas adeiladu.

Ceir adrannau yn yr holl ffurflenni perthnasol ar sut hoffech i Gyllid a Thollau EM dalu eich ad-daliad treth.

Hawlio treth yn ôl ar ran rhywun arall

Os oes rhywun wedi'ch penodi chi i reoli eu materion ariannol, neu os ydych yn bartner priod/partner sifil neu'n berthynas i rywun sy'n cael anhawster gwneud hawliad neu sydd wedi marw, efallai y gallwch hawlio treth yn ôl ar eu rhan.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU