Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os mai chi yw'r cymar neu'r partner sifil gweddw neu os oeddech yn gynrychiolydd personol i rywun sydd wedi marw, efallai y gallech hawlio ad-daliad Treth Incwm ar eu rhan. Mae'r erthygl hon yn egluro pryd y gall ad-daliad treth fod yn ddyledus a sut i’w hawlio.
Mae'n bosib bod eich cymar, eich partner sifil neu'r sawl yr ydych yn ei gynrychioli, wedi talu gormod o Dreth Incwm yn ystod y flwyddyn dreth y bu farw. Os felly, byddwch chi'n gallu hawlio ad-daliad treth ar ei ran. Gallwch hefyd hawlio ad-daliad os gwnaethant dalu gormod o dreth mewn blynyddoedd treth blaenorol - darllenwch yr adran ‘Terfyn amser ar gyfer hawlio ad-daliad’ i gael gwybod pa mor bell yn ôl gallwch hawlio a faint o amser sydd gennych i wneud hynny.
Efallai fod y sawl a fu farw wedi talu gormod o dreth oherwydd:
Terfyn amser ar gyfer hawlio ad-daliad
Gallwch ad-hawlio treth hyd at 31 Ionawr bum mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan dalwyd gormod o dreth. Er enghraifft, rhaid cyflwyno hawliad ar gyfer blwyddyn dreth 2003-04 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2004, erbyn 31 Ionawr 2010.
Gallwch hawlio ad-daliad ar ran rhywun drwy lenwi:
Llenwi ffurflen R27
Pan gaiff Cyllid a Thollau EM wybod bod rhywun wedi marw, fel arfer byddant yn anfon ffurflen R27 'Ad-hawlio treth neu dalu treth pan fydd rhywun yn marw’ at y cynrychiolydd personol. Efallai mai cymar neu bartner sifil y sawl a fu farw fydd y cynrychiolydd personol - neu ysgutor a benodwyd gan yr ewyllys.
Os mai chi yw'r cynrychiolydd personol bydd angen i chi lenwi ffurflen R27 er mwyn helpu Cyllid a Thollau EM i roi trefn derfynol ar Dreth Incwm y sawl a fu farw. Yna gall Cyllid a Thollau EM gyfrifo a oes unrhyw ad-daliad treth yn ddyledus.
Mae'n bwysig eich bod yn llofnodi ffurflen R27 eich hun - ni ddylech ofyn i rywun arall wneud hynny drosoch chi. Mae'r ffurflen yn cynnwys hawliad ad-dalu.
Gadewch pedair wythnos ar ôl i chi anfon y ffurflen cyn cysylltu â Chyllid a Thollau EM ynghylch yr ad-daliad.
Llenwi ffurflen dreth Hunanasesu
Mae'n bosib bod y sawl a fu farw yn arfer llenwi ffurflen dreth. Gallwch lenwi un ar gyfer y cyfnod o 6 Ebrill hyd at ddyddiad eu marwolaeth. Os hoffech lenwi ffurflen dreth, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM ac fe anfonant un atoch.
Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen R27 hefyd, ond nid tudalen 2, sef yr adran ar incwm a lwfansau. Mae hyn oherwydd bod angen i Gyllid a Thollau EM eich holi ynghylch pethau nad ydynt ar y ffurflen dreth, fel y 'cyfnod gweinyddu'.
Cyn y gallwch hawlio ad-daliad ar ran rhywun a fu farw, bydd angen i chi gasglu manylion eu hincwm ynghyd. Gallai'r dogfennau canlynol fod o ddefnydd i chi:
Efallai y bydd angen i chi hefyd gael dogfennu eraill sy'n ymwneud â 'phrofiant' (neu 'gadarnhau' yn yr Alban), sef y system y mae'n rhaid i chi ei dilyn os ydych yn delio ag ystad rhywun a fu farw. Gallwch gael mwy o wybodaeth am hyn a help i benderfynu a yw'n berthnasol i chi drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae’r amser sydd gennych i hawlio ad-daliad treth yn dibynnu ar p’un ai bod eich cymar neu bartner sifil neu’r person yr ydych yn cynrychioli fel arfer wedi llenwi hunanasesiad treth.
Terfynau amser ar gyfer ad-daliadau – os nad oedd eich cymar, partner sifil neu’r person yr ydych yn cynrychioli wedi llenwi hunanasesiad treth
Terfynau amser ar gyfer ad-hawlio treth
Blwyddyn dreth | Daeth y flwyddyn dreth i ben ar | Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn: |
---|---|---|
2008-09 | 5 Ebrill 2009 | 5 Ebrill 2013 |
2009-10 | 5 Ebrill 2010 | 5 Ebrill 2014 |
2010-11 | 5 Ebrill 2011 | 5 Ebrill 2015 |
2011-12 | 5 Ebrill 2012 | 5 Ebrill 2016 |
Terfynau amser ar gyfer ad-daliadau – os oedd eich cymar, partner sifil neu’r person yr ydych yn cynrychioli wedi llenwi ffurflen hunanasesiad
Terfynau amser ar gyfer ad-hawlio trethBlwyddyn dreth | Daeth y flwyddyn dreth i ben ar | Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn: |
---|---|---|
2008-09 | 5 Ebrill 2009 | 5 Ebrill 2013 |
2009-10 | 5 Ebrill 2010 | 5 Ebrill 2014 |
2010-11 | 5 Ebrill 2011 | 5 Ebrill 2015 |
2011-12 | 5 Ebrill 2012 | 5 Ebrill 2016 |
Cael gwybod ynghylch adhawlio treth drwy Hunanasesu gan ddilyn y ddolen ganlynol.
Pan fydd Cyllid a Thollau EM yn talu ad-daliad treth byddant fel arfer yn anfon archeb talu (sy’n debyg i siec) atoch drwy'r post. Ond gallwch ofyn iddynt dalu'r arian yn syth i'ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu yn lle hynny.
Os yw'n well gennych, gall Gyllid a Thollau EM dalu'r ad-daliad i rywun y byddwch chi'n ei enwebu. Gallant felly naill ai dalu’r ad-daliad i’r person hynny drwy’r post neu ei dalu’n syth i'w cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu.
Ceir adrannau ar bob ffurflen ar gyfer dweud wrth Gyllid a Thollau EM sut yr hoffech iddynt dalu'r ad-daliad.
Efallai y bu'ch cymar neu'ch partner sifil neu berson yr ydych yn cynrychioli yn hawlio Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Person Dall. Os nad oedd ganddynt ddigon o incwm yn ystod y flwyddyn y buont farw i ddefnyddio'r lwfans i gyd, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM drosglwyddo faint bynnag sy'n weddill i chi, neu os mai chi yw cynrychiolydd y person, i gymar neu bartner sifil y person a fu farw. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen 575 'Hysbysiad o drosglwyddo lwfansau Treth Incwm nad oes eu hangen'.
Mae Cyllid a Thollau EM yn deall y gall delio â materion treth y sawl a fu farw fod yn anodd i chi - yn enwedig os oedd y golled yn un bersonol i chi.
Gallant gynnig help i chi dros y ffôn ac efallai y gallant drefnu cyfarfod wyneb-yn-wyneb a allai fod yn swyddfa Cyllid a Thollau EM, neu, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, yn eich cartref.
Gall Cyllid a Thollau EM hefyd ddarparu cymorth dros y ffôn drwy’r Llinell Gymorth Hunanasesu drwy ddilyn y ddolen isod.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs